Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Llun Tairgwaith sydd i'w weld yng nghalendr Glo Mân Atgofion am bentref Tairgwaith
Hyfref 2002
Dyma lun y calendr ar gyfer mis Medi. Llun o Brook Terrace, Tairgwaith yw hwn - llun fydd yn gyfarwydd i ffyddloniaid Pobol y Cwm er bod y llun ar y sgrîn tipyn mwy diweddar na'r un ar y calendr.
Er bod Tairgwaith yn enw digon cyfarwydd i bobol Dyffryn Aman tybed faint o'n darllenwyr sydd erioed wedi bod yn y pentref?

Mae'n debyg i Garnswllt a Hopkinstown - pentrefi nad yw pobol yn pasio drwyddyn nhw ac felly ond yn gyfarwydd â nhw os oes ganddyn nhw reswm pendant i fynd yno.

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae Tairgwaith yn fwy cyfarwydd oherwydd y cwrs trotian ceffylau sy'n ddatblygiad cymharol ddiweddar, a hefyd y ffaith bod Anturiaeth Dyffryn Aman wedi ymgartrefu yn yr hen swyddfeydd gyda llawer yn mynd yno i ddosbarthiadau ac yn y blaen.

Ond mae'r rhan fwyaf o'r pentref ymhellach lan y ffordd na'r un o'r ddau le hynny.

Newidiadau mawr
Mae'n bentref a welodd newidiadau mawr dros yr hanner can mlynedd diwethaf ac fe fues i'n llygad-dyst i lawer o'r newidiadau hynny gan i mi fod â chysylltiad agos iawn â'r pentref tan yn gymharol ddiweddar.

Un o Dairgwaith oedd Mam, ac yno roedd ei brawd a'i dwy chwaer yn byw, ac mae 'da fi atgofion gwerthfawr o'r lle.

Pentref a dyfodd o'r angen i gartrefu pobol a ddaeth i'r ardal i weithio yn y gweithfeydd glo ydoedd - a dyna a roddodd iddo'r enw wrth gwrs.

Fe ddaeth yna gymysgedd o bobol o bob math o gefndir ac yn eu plith roedd fy nhadcu, a oedd yn saer coed, ac a ddaeth i'r ardal o Aberystwyth i weithio - yn y lle cyntaf - ar y gwaith coed sydd yng nghapel Ebeneser Brynaman, cyn symud wedyn i weithio'n y gwaith glo.

Pan o'n i'n blentyn roedd yna gymuned glos o Gymry Cymraeg yn byw yno ymhlith llawer eraill oedd yn ddi-Gymraeg wrth gwrs.

Rwy'n cofio fel byddai Dan, fy wncwl, yn mynd â fi draw i'r parc (nefoedd i blant) oedd yn eithaf agos i'r man sy'n y llun.

Fe fydden ni bob amser yn sefyll i siarad â Ronald, oedd yn byw yn y "ty top", ar y dde yn y llun, a Dan yn fy nghodi i i eistedd ar y wal - oedd â bwa cyfforddus iawn i eistedd arno ar ei phen fel y gwelwch chi o lun y calendr. Ronald oedd gofalwr y parc, dyn hyfryd a mwyn.

Dim trafnidiaeth
Fe soniais am y newidiadau. Mae rhai yn amlwg os gwnewch chi gymharu'r ddau lun. Dim pyst trydan yn yr hen lun, dim soseri ar waliau'r tai, dim ceir wedi eu parcio ar ochr y ffordd - dim trafnidiaeth o gwbl ar wahân i un o'r lorïau fyddai'n mynd drwy'r pentref bob dydd i godi'r lluwch di-ddiwedd o'r hewl nad oedd ag unrhyw wyneb caled o gwbl arni.

Yn ôl yr hyn a gofiaf bu tipyn o anghydweld rhwng y Cyngor a'r N.C.B. ynglyn â chyfrifoldeb pwy oedd yr hewl a dyna oedd yn gyfrifol am ei chyflwr difrifol.

Yn y diwedd fe wnaeth un o'r ddau - dw i ddim yn siwr pa un - ildio a rhoi tarmac ar hanner y ffordd.

Allwch chi ddychmygu'r peth - stribyn o darmac rhyw led bws neu lori yn y canol, a rhyw lathen o rwbel rwff bod ochr iddo, ac yna'r pafin! !

Dyna oedd ar St.David's Street (a ddaeth yn St.David' Road rhywsut erbyn hyn) lle roedd brawd a chwaer Mam yn byw, pan o'n i'n blentyn.

Mae'r hewl honno gefn yn gefn â Brook Terrace. Erbyn hyn mae lôn fach darmac deidi yn mynd lawr y tu cefn i'r ddwy res, gyda sawl garej gyfleus ar ddiwedd gerddi'r tai.

Dim mwy na llwch a glo mân
Ond pan on i'n blentyn, tir agored gyda wyneb o ddim mwy na llwch a glo mân oedd yno lle byddai heidiau o wyddau yn treulio eu hamser yn amddiffyn eu tiriogaeth!

Bob dwy awr byddai bysiau'n mynd rhwng Tairgwaith a'r Waun a phan fydden i'n mynd yno i weld y teulu - pan on i'n ddigon hen i fynd heb Mam - bydden i'n mynd ar y bws.

Gan fod un o'r chwiorydd yn byw yng Nglan yr Afon, lle sydd nawr o dan y cwrs rasio, a hithau ddim yn hapus iawn petawn i'n mynd lan i'r "top" ar y bws ac yna yn ôl ar y bws nesaf heb alw i'w gweld hi ac Wncwl John, byddai'n rhaid i fi ddod oddi ar y bws wrth yr "offis", cerdded lawr drwy safle gwaith y "Steer" - lle mae'r Steer Studios nawr- treulio peth amser 'da nhw ac yna gerdded lan i'r pen uchaf i weld y ddau arall.

Y broblem oedd byddai ceffylau a da yn aml yn rhydd ar y tir rhwng y Steer a Thairgwaith uchaf ac roedd ofn y rhain ar fy nghalon i.

Byddwn i'n rhedeg â nghalon yn fy nwrn, wedi aros am gyfle gweddol glir, heibio iddyn nhw nes cyrraedd y broblem nesaf, sef y gwyddau y soniais amdanyn nhw ynghynt!

Goresgyn y gwyddau
Byddai'r rheini yn aros am unrhyw un a feiddiai geisio croesi'r darn tir yr oedden nhw wedi ei hawlio iddyn nhw eu hunain, a'u cwrsio gyda'u gyddfau hir yn ymestyn allan.

Erbyn y byddwn i'n cyrraedd 18, St David's Street, byddai fy nerfau i'n rhacs.

le, dyna sut le oedd yn Nhairgwaith bryd hynny, ac mae llawer yn byw yno heddiw fydd yn cofio'r amser hwnnw.

Mae'r lle yn gwbl wahanol heddiw, wrth gwrs, a'r bobol a fu'n byw yno dan yr hen amodau yn haeddu pob darn bach o welliant a ddaeth i'w rhan.

Ond dyna ddigon ohono i ni gael hel atgofion. Dyna beth sy'n dod o weld llun o rywle sy'n taro tant yn y cof ontefe?


Erthygl gan Mair Thomas



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý