Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
ICD (Implantable Cardioverter Defbrillator) Beth sy'n gyffredin rhwng Dr Ken Hardy a Dick Cheney?
Ebrill 2003
Ychydig a wyddai Dr Ken Hardy lle byddai pen ei daith ar 23 Awst y llynedd.
Y diwrnod hwnnw aeth ar gefn ei feic i'r Faenol (i weld paratoadau'r Wyl mae'n debyg) ond cyn cyrraedd yno cafodd anffawd a syrthiodd oddi ar ei feic. Aethpwyd ag ef adref ond yn fuan wedyn cafodd ataliad ar y galon.

Diolch i'r ffaith fod Huw, ei fab, y parafeddyg, gerllaw ac Ysbyty Gwynedd mor agos, mae Dr Hardy yma o hyd i adrodd ei stori. Wedi cyfnod yn Ysbyty Gwynedd, aethpwyd ag ef i Ysbyty Brenhinol Manceinion ac yno penderfynwyd rhoi ICD (Implantable Cardioverter Defibrillator) iddo.

Yn syml mae ICD yn monitro rhythm y galon yn gyson. Os yw'r rhythm yn aflonyddu bydd yr ICD yn cywiro curiad y galon drwy sioc drydanol. Mae'r ICD yn llai na bocs matsys hyd yn oed ac mae'n pwyso tua 75 gram (3 owns). Mae'n cael ei gysylltu i du mewn y galon gan un weiren electrôd neu fwy drwy wythïen.

Ar wahân i arbed bywydau mae'r ICD yn rhoi hyder i gleifion fyw bywyd mor normal â phosib gydag ychydig iawn o gyfyngiadau. Un enghraifft nodedig o hyn yw Dick Cheney, Is Lywydd UDA.

Grwp Cefnogi
Erbyn hyn mae gan tua ugain claf yng ngogledd orllewin Cymru ICD. Gyda chefnogaeth Adrannau Cardioleg Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Brenhinol Manceinion bwriedir sefydlu grwp cefnogi i gleifion yr ardal hon. Ar hyn o bryd mae'r un agosaf ym Manceinion. Byddai'n fanteisiol iawn pe byddai cymorth ar gael yn nes adref i'r cleifion hyn, cleifion y mae angen llawer o gefnogaeth seicolegol a chymdeithasol arnynt.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y grwp, cysylltwch â Dr Ken Hardy, Llwyn Celyn, Penrhosgarnedd, Bangor, neu os hoffech gyfrannu at y grwp, enw'r gronfa yw: Cronfa Waddol ICD (MU12) dan ofal Trysorydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý