Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Pixie Lott Pixie Lott ym Mangor
Mawrth 2010
Mae 'Big Weekend' Radio 1 yn dod i Fangor ym mis Mai ac mae enwau mawr y byd pop rhyngwladol yn dod i ganu yno, yn eu plith y gantores Pixie Lott.

Mi fydd yn benwythnos enfawr o gerddoriaeth roc, indie, funk, acwstig a phop, y cwbl yn cael ei ddarlledu'n fyw o Fangor, ac mae disgwyl i dros 40,000 0 bobl fynychu'r achlysur.

Mae'r newyddion fod Cyngor Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus yn denu 'Big Weekend' Radio 1 i'r Faenol ger Bangor wedi'i groesawu gan gynghorwyr lleol Plaid Cymru.

'Mae'n wych y bydd pobl ifanc (a rhai ddim mor ifanc!) yn cael cyfle i fwynhau digwyddiad fel hwn ar stepan y drws/ meddai'r Cynghorydd Sian Gwenllian sy'n cynrychioli Y Felinheli.

'Mae hwn yn llawer mwy na darllediad byw fydd yn cae1 ei glywed ar draws y byd - mae hefyd yn ddigwyddiad gyda llu o weithgareddau ymylol ac mae modd inni roi blas Cymraeg yr ardal arno/ ychwanega.

Mae'r Cynghorydd John Wyn yn gweld cyfle i roi 'hwb economaidd sylweddol i'r ardal ar gychwyn y tymor ymwelwyr ac yn gyfle i rai gwybod i bobl ar draws Prydain a thu hwnt am Wynedd ac Eryri'.

Mae John Wyn Williams wedi cael ar ddeall y bydd hyd at 200 0 staff Radio 1 yn ymweld a'r ardal yn rheolaidd dros y misoedd nesaf ac wrth gwrs mi fydd pob un angen llety a bwyd!

Mae manteision eraill hefyd wrth i ddwsinau o newyddiadurwyr o bob rhan o'r byd ddod yma ac ysgrifennu am yr ardal.

Mae pawb yn cytuno y bydd y digwyddiad yn ein hatgoffa fod Gwynedd yn lle da i fyw a gweithio.

Felly rocyrs hen ac ifanc, ymbaratowch a heidiwch i'r Faenol i fwynhau eich hunain yn ystod penwythnos mawr Mai 23 a 24ain!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý