Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Gwydion Meredydd Mewnfudwyr estron
Mehefin 2009
Mae mewnfudwyr estron wedi'u canfad ym Mhenrhosgarnedd!

Gwydion Meredydd weloadd nhw gyntaf yng ngardd ei gartref ym Mryn Adda.

Llyngyr lledog Awstralaidd ydyn nhw, a dyma'r tro cyntaf i neb eu gweld nhw yn y rhan hon o'r byd.

Mae'r llyngyr lledoag hyn (Australoplanus sanguinea alba, ddydd Sul), wedi eu cludo yma yng ngwreiddiau planhigion a fewnfoariwyd a Awstralia.

Sylwyd arnyn nhw gyntaf ar Ynysoaedd Sili yn ymyl Cernyw yn 1980. Buoant yn ymledu'n gyflym byth ers hynny, ond dyma'r tro cyntaf i neb eu canfod yn y rhan hon o Gymru.

Rhyw liw oren gwelw sydd iddyn nhw, ac y maen nhw ryw dri neu bedwar centimedr (modfedd a hanner) o hyd.

Y gwaethaf yw eu bod nhw'n llarpio pryfed genwair, ac y mae gan hynny oblygiadau difrifol i'n hamgylchedd ni, gan fod pryfed genwair yn aruthrol bwysig ar gyfer ffrwythloni'r tir.

Mewn rhai mannau, mae'r llyngyr hyn wedi llwyr ddifa'r pryfed genwair.

Tan damaid o gardbord yn yr ardd y canfu Gwydion nhw. "Ddaru un ohonyn nhw lapio'i hun am fy mys i!", meddai.

Wedi hel rhai ahonyn nhw i bot jam, dyma'u gyrru at Asiantaeth yr Amgylchedd ym Mharc Menai, a chafwyd gwybod beth yn union oedd y creaduriaid rhyfedd hyn.

"Rydym yn ymwybodol o'r llyngyr hyn", meddai dyn a'r Asiantaeth, "ond dyma'r tro cyntaf i neb eu gweld nhw ym Mangor. Byddwn yn ychwanegu'r wybodaeth at ein map llyngyr lledog Awstralaidd. Diolch, Gwydion!".


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý