Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Llong Llyfr Mawr Cledwyn Jones
22 Rhagfyr 2003
Mae Cledwyn Jones, Tawelfan, Ffordd Penrhos weld cyhoeddi ei lyfr mawr ar John Glyn Davies. Y teitl yw Mi wisga i Gap Pig Gloyw a'r hyn a geir ynddo fo yw hanes diddorol y bardd a llawer o sylwadau ar ei waith.

Roedd J. G. D. yn fardd y plant - mae Fflat Huw Puw a Gwen a Mair ac Elin a Bwrw Glaw a Siôn Corn a llawer o'i gerddi yn fyw heddiw. Roedd hefyd yn fardd y môr a cheir testun llawer o'i shantis - caneuon llongwyr yr hen longau hwylio.

Dyma ydi Rowndio'r Horn a Hwre am Gei Caernarfon. Roedd o hefyd yn fardd pen Llyn: mae rhai o'i gerddi gorau ar gyfer oedolion yn datgan ei edmygedd o'r hen gymdeithas yn Edern - pobl fel Richard Morris Roberts, y melinydd ac athro ysgol J. G.D. , ac Ann, ei wraig.

Yn y llyfr hardd hwn y mae yna nifer mawr o ddarluniau, rhai yn rhai prin o gasgliad personol y teulu. Ceir hefyd destun a cherddoriaeth llawer o gerddi'r bardd. Y mae'r elfennau hyn rhoi gwerth mawr ar y llyfr.

Cledwyn Jones oedd yr un delfrydol i ysgrifennu'r gyfrol. Mae Cledwyn yn hanu o Dal y Sarn yn Nyffryn Nantlle ac wedi'i drwytho ei hun yn hanes diweddar yr ardal. Mae rhai o wreiddiau J. G. D. yntau yn yr un fro - wedi'r cwbl yr oedd Angharad Jones, y bardd a'r delynores, a'r Parchedig John Jones, Tal y Sam, ymysg ei hynafiaid. Mae gan Gledwyn hefyd ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth - cerddoriaeth gorawl eglwysig ac emynau a chaneuon gwerin. Fe gafodd flas mawr ar y gwaith o ddethol y caneuon ar gyfer y gyfrol.

Fe gofir am J. G. D. heddiw fel bardd y plant. Mi oedd hi'n hollol addas mai yn Ysgol Edern yn Llyn - ysgol lle mae'r plant i gyd yn siarad Cymraeg yn iaith gyntaf - y cafodd y llyfr ei gyhoeddi nos Wener, 21 Tachwedd. Roedd hi'n noson fythgofiadwy. Y plant oedd yn arwain yr holl weithgareddau, bob un ohonyn nhw wedi'i wisgo mewn dillad llongwr. Nhw oedd yn dweud yr hanes, nhw oedd yn canu'r caneuon. Y Neuadd yn orlawn o blant a phobl o bob oes.

Gwenan Jones, Pennaeth yr Ysgol a'r staff dysgu oedd wedi trefnu'r cyfan a hyfforddi'r plant. Roedd Cymdeithas Rhieni a Ffrindiau'r Ysgol wedi addurno'r Neuadd ac wedi arlwyo. Noson hapus, hapus. Diolch diffuant i bawb.

Nid rhyfedd bod gwên fawr ar wyneb Cledwyn Jones. Roedd o wedi dotio ar y plant ac wrth ei fodd yn gweld y llyfr yn dod yn fyw ar lwyfan Ysgol Edern. Mi fu Cledwyn wrthi'n arwyddo trigain, a mwy o gopïau o'r gyfrol a Meriel Jones hithau wrth ei benelin yn siarad efo pawb yn ei dro. Un nodyn bach hapus arall: mae Gwen a Mair ac Elin i gyd yn fyw heddiw, y tair mewn oedran teg. Ac yr oedd eu brawd - Gwion bach - yn y cyfarfod yn Edern yn gweld cerddi ei dad yn fyw ar wefusau Cymry heddiw.

Cledwyn Jones, Mi Wisga'i Gap Pig Gloyw, Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, £15


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý