Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Plaza - wedi cau 'Morol am y stiwdants
Hydref 2006
William Owen a'r newidiadau ym MangorFel roedd un yn cau roedd y llall yn agor. Bu sinema ar safle'r Plaza er 1910; mae'r British yn llawer hÅ·n na hynny.
Ond dydi hi ddim yn westy rŵan - Student Accommodation ydi'r lle gydag estyniad i'w gwneud yn hostel breifat. Dwi'n rhoi'r geiriau Saesneg oherwydd welais i'r un gair Cymraeg ar y llechen wrth y giat ar wahân i Neuadd yn Neuadd Willis.

A fydd 'na neb o'r 179 fydd yn aros yno yn poeni'r un ffeuen siŵr gen i, oherwydd rhan o'r 10,000 o'r rhai sy'n astudio ym Mangor sy'n byw yno. A digon prin fod mwy na'r ganfed ran ohonyn nhw yn meddwl nad oes dim yn anarferol mewn cael arwydd bach Saesneg ar giât un o'r Neuaddau.

Oes, mae deng mil o fyfyrwyr ym Mangor eleni, yn ôl yr hyn a glywodd Cynghorwyr Dinas Bangor mewn cyfarfod diweddar. Dyna egluro pam fod yn rhaid cael arwyddion mewn gwahanol liwiau ar y ffyrdd i'w harwain i'w llety ar Sul cynta'r tymor. Ac esboniad hefyd pam ei bod yn orlawn ar y ffyrdd a'r palmentydd ym Mangor Uchaf unwaith y cyrhaeddodd yr hydref.

Ond o edrych arni'n gadarnhaol, mae safle newydd y British wedi gwella golwg yr ardal ac wedi rhoi sbonc newydd i'r pen yna o Ffordd Farrar. Trueni fod y Plaza wedi cau fymryn cyn i'r lle newydd agor. Wrth gwrs mae'n hawdd iawn deall pam. Doedd 'na fawr iawn yn mynd yno. Dydi'r ifanc ddim am fynd i le ansafonol i weld ffilmiau. Mae'n rhaid cael eich 'myltiplecsus' a dewis eang o ffilmiau yn yr un lle cyn y byddan nhw'n meddwl mynd drwy'r drysau.

Be' ddaw o'r hen Plaza, y sinema sy'n dwyn atgofion i lu mawr ohonom a man anfarwolwyd gan Islwyn Ffowc Elis yn ei gyfrol o ysgrifau yn Cyn Oeri'r Gwaed. "Wedi ymlacio ym melfed seddau'r Plaza yr oeddwn pan glywais hi gyntaf" oedd ei eiriau wrth ddechrau'r ysgrif Melodi. Wn i ddim am y melfed ond roedd lle i goesau rhywun wedi mynd yn gyfyng iawn rhwng y seddau wedi iddyn nhw ei hail wampio a'i throi yn ddwy sinema.

Ond beth sy'n mynd i ddigwydd iddi (a does gen i ddim syniad pam mai merch yw sinema i mi). Mae na si y bydd yn cael ei chwalu a wnawn ni ddim colli'r bensaernïaeth siawns gen i - a'i wneud yn Student Accomodation. Be arall wnewch chi mewn dinas sy'n cartrefu 10,000 o fyfyrwyr?

A beth am sinema, heblaw Theatr Gwynedd, i wasanaethu'r ddinas sy'n bochio â phobol ifanc? Y si ynglŷn â hynny yw fod rhai â diddordeb mewn agor myltiplecs yn Stad Ddiwydiannol Llandygai. Ar bob cyfri. Does gan bob stiwdant gar i fynd â fo/hi yno ac mae'r ddinas angen eu lle, o dro i dro.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý