主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Geraint Tudur Yn 么l i'w gwreiddiau
17 Gorffennaf 2003
Mae s么n byth a hefyd am Gymry Cymraeg ifanc yn heidio i Gaerdydd. Ond mae yna rai ddaeth yn 么l i Fangor wedi treulio nifer o flynyddoedd yn y brifddinas. Holwyd tri ohonynt ...

Dyma rai o'r cwestiynau a ofynnwyd : "Pam aethoch chi i Gaerdydd yn y lle cyntaf?", "Pam ddaethoch yn 么l i Fangor?" "Ydych chi'n colli Caerdydd?", "Ydy Bangor wedi newid?" "Ydych chi am aros?" Diolch iddynt am fod mor barod i ateb ac fod mor onest...

Geraint Tudur
(Darlithydd ym maes Hanes yr Eglwys Gristnogol yn y Brifysgol. Treuliodd 16 o flynyddoedd, o 1978 hyd 1994 yn weinidog Eglwys Annibynnol Ebeneser Caerdydd).

"Gwahoddwyd fi gan Eglwys Annibynnol Ebeneser Caerdydd i fod yn weinidog iddi. A hithau'n Eglwys gref, wedi ei lleoli yng nghanol y ddinas (y drws nesaf i Marks & Spencer) ac yn cynnig pob math o bosibiliadau ar gyfer datblygu gwaith y Weinidogaeth Gristnogol, ni fum yn hir cyn derbyn y gwahoddiad!"

"Pam dod yn 么l i Fangor? Cefais ar ddeall fod swydd ddarlithio i gael ei hysbysebu gan y Brifysgol ym maes Hanes yr Eglwys Gristnogol, ac wedi ymgynghori gyda'r teulu penderfynais ymgeisio amdani. Yr oedd y posibilrwydd o fedru symud yn 么l i'r gogledd at deulu a hen ffrindiau erbyn hynny yn atyniad cryf."

"O bosibl y gellid dweud mai cyd-ddigwyddiad oedd dod yn 么l i Fangor ei hunan, oherwydd yma yr oedd y sefydliad yr oeddwn yn mynd i weithio iddo".

Cwestiwn mwy perthnasol efallai fyddai, "Pam yr aethoch i Fangor Ucha i fyw, i ganol y myfyrwyr?", a'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw mai yn 么l i'r ardal y magwyd fi ynddi yr oeddwn am fynd. Da yw medru dweud nad ydym fel teulu wedi cael unrhyw reswm i ddifaru penderfynu fel y gwnaethom; mae Bangor Uchaf yn fywiog, yn llawn pobl ifanc ac yn lle eithriadol o ddiddorol i fyw.

Mae rhai pethau yr wyf yn eu colli fawr. Y siopau yw un peth, a'r cyfleustra o gael popeth o fewn cylch o ddwy neu dair milltir. Gwelaf golli yr amrywiaeth o dai bwyta hefyd: yr oedd un ty bwyta Indiaidd yr oeddwn wedi dod yn hoff iawn ohono. Mae dyn hefyd yn colli cwmni ei ffrindiau. Mewn 16 mlynedd, gwneuthum lu o ffrindiau arbennig o dda, ac oherwydd natur fy ngwaith, buom trwy rai o argyfyngau mwyaf ingol bywyd gyda'n gilydd."

"Mae'n debyg mai'r hyn oedd yn syndod i mi wrth ddod yn 么l oedd cyn lleied yr oedd Bangor wedi newid, ac nid peth da yw hynny. O'i chymharu 芒 Chaerdydd yr oedd y ddinas wedi mynd i ymddangos yn dlawd ac fel tref yr oedd angen gwario arni. Gwaetha'r modd, er cymaint sydd ym Mangor y gellid ei ddatblygu a'i farchnata, mae llawer yma sy'n amharod i ganiat芒u newid. Gwrthwynebir pob datblygiad gyda'r canlyniad fod Bangor yn cael ei gadael ar 么l. Mae angen tynnu myfyrwyr ac ymwelwyr yma, a thrwy hynny sicrhau gwaith i bobl leol, a ffyniant ein dinas."

Sioned Bebb
(Perchennog Siop Pendref yma ym Mangor a Chyn-athrawes a Phennaeth Adran Gymraeg yn ardal Caerdydd.)

Roedd yna duedd hyd yn oed n么l yn oes yr arth a'r blaidd, i bobl ifanc heidio i Gaerdydd ar 么l gadael y Coleg. Doedd gen i ddim awydd o gwbl ddilyn y lli, ond gan mai yn y De y cefais gynnig fy swydd gyntaf, bu raid i minnau hefyd ei hel hi am y brifddinas.

Wedi cyrraedd, dyma benderfynu ei bod yn ddyletswydd arna i aros yn y swydd honno am ddwy flynedd, ond rhywsut, rywfodd aeth y ddwy flynedd yn ugain!

Fel pob person ifanc arall, cawn flas aruthrol ar gyffro'r ddinas. Wrth fynd yn hyn, pylai'r ap锚l am Gaerdydd, a dwysau wnai'r awydd i fyw fy mywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwych o beth, felly, oedd cael cyfle i newid byd yn llwyr yn ganol oed a rhoi'r gorau i ddysgu diwedd tymor yr haf 1994, a chychwyn yn y Siop drannoeth!"

Yma y byddai bellach. Fan hyn yw man gwyn man draw i mi, nid y ddinas ei hun ond ei lleoliad godidog ar lannau'r Fenai. Sut yn y byd mae cymharu crwydro Parc y Rhath neu Barc Cathays a throi lawn Siliwen ac ar y Pier, neu dro ar hyd y glannau a thros y Bont? A oes angen deud rhagor?

Mae Bangor wedi newid yn aruthrol ers dyddiau fy mhlentyndod ac nid er gwell. Mae'r Stryd Fawr wedi mynd fel pob stryd fawr arall bellach, ond Bangor Uchaf sydd wedi gweld y newidiadau mwya chwyldroadol. Credwch neu beidio, flynyddoedd yn 么l roedd Bangor Uchaf yn bentref ac yn gymuned, teulu ar bob aelwyd ac amrywiaeth anhygoel o siopau, o Siop Goes Bren - ie'n wir i chi, i siop y Teiliwr, o Department Store i Siop Nwyddau Haearn, heb s么n am yr holl siopau cig, pysgod, ffrwythau, llysiau a blodau.

Mae c芒n Bryn F么n Mardi Gras ym Mangor Uchaf yn cofnodi un cam yn natbtygiad yr ardal ond roedd hi'n dal yn ddifyr ac yn lliwgar bryd hynny.

Seisnig iawn fu Bangor ers cyn co i mi, ac er y dirywiad brawychus yn y pentrefi o'i hamgylch a ddaeth yn sgil y mewnlifiad mae'n braf cael nodi nad yw pethau fawr gwaeth yn y Ddinas ei hun. Yn sicr ddigon, mae mwy o Gymraeg yn yr ysgolion. Hanner canrif yn 么l dim ond yn Ysgol St. Paul y clywech chi swn y Gymraeg, bellach mae i'w chlywed ymhob un o Ysgolion Cynradd y dre. Gwych o beth fyddai gweld y cynnydd yma'n cael ei gynnal yn ein Hysgolion Uwchradd."


Tomos Morgan
(Cyn-gynhyrchydd rhaglenni teledu, yn eu plith Y Byd ar Bedwar. Bu'n byw yng Nghaerdydd am 18 mlynedd. Ar hyn o bryd mae Tomos yn ysgrifennu llyfr ar fywyd a gwaith ei dad, y diweddar Dyfnallt Morgan.)

"Mae'r cwestiwn, "Pam aethoch chi i'r Brifddinas?" fel pe tai'n rhagdybio bod dyn wedi mapio'i ddyfodol; ble nesa? - O ie, Caerdydd! Blwyddyn yno ac wedyn ... wnes i erioed anelu am Gaerdydd. Ro'n i wedi bod yn ddigon ffodus i gael job gyda'r 主播大秀 yn Abertawe, yn gweithio gyda Sulwyn ar ei Stondin. Ond ar 么l dwy flynedd wrth fy modd yno, daeth y swydd i ben. Yr unig hysbyseb am job debyg a welais i ar y pryd oedd am Gynhyrchydd ar raglen Helo Bobol - yng Nghaerdydd. Mynd amdani, a bod yn ddigon ffodus i'w chael."

"Ro'n i wrth fy modd yng Nghaerdydd - dda gen i mo'r rhai sy'n lladd ar y brifddinas. Mae angen prifddinas lewyrchus ar unrhyw wlad sydd ag owns o hunan barch. Ond dwi hefyd yn gallu deall teimladau'r rhai sy'n cyhuddo Caerdydd o gael gormod ar draul gweddill Cymru. Ond ers cael plant, dwi di cael llond bol ar Lay-bys yr A470. Oes angen dweud mwy?

Falle nad yw rhai pethau wedi newid digon; cyn symud o Fangor rwy'n cofio'r brwydro geiriol - digon ffyrnig ar adegau - ynghlwm a'r ymdrechion i sefydlu Ysgol Uwchradd Gymraeg i Fangor.Ers i ni ddod yn 么l i Fangor, torrodd y newyddion am y posibilrwydd o uno gweinyddiaeth Ysgol Tryfan a Dyffryn Ogwen a rhai'n ofni y gallai hynny arwain at gau un o'r ddwy ysgol. Efallai fod y bygythiad yna wedi cilio - am y tro o leia!

Mae St. Paul / Ysgol y Garnedd newydd ddathlu'n deilwng iawn hanner can mlynedd o addysg cyfrwng Cymraeg ym Mangor. Ond os bydd Cyngor Gwynedd yn mynnu y bydd rhaid gwneud arbedion ariannol yn rhywle, pa mor saff fyddai dyfodol addysg Uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mangor? Ac, yn bwysicach efallai, faint o rieni'r dyfodol fydd yn dymuno gyrru eu plant i'r Ysgolion Cymraeg y bu cymaint o frwydro i'w sefydlu?"

"Beth am aros yma? Cwestiwn da! Mae'n siwr y bydd hynny'n dibynnu ar yr hysbysebion swyddi na unwaith eto."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy