Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Alice Thomas Ellis (Llun o bapur y Goriad) Alice Thomas Ellis
Ebrill 2005
Atgofion gan Beryl Stafford Williams
Ar 8 Mawrth yn Llundain bu farw'r nofelydd Alice Thomas Ellis a bydd amryw o ddarllenwyr y Goriad wedi gweld yr ysgrifau coffa maith iddi yn y prif bapurau newydd.
O dan enw arall, sef Anne Lindholm y bydd cyn-ddisgyblion Ysgol Sir y Genethod oedd yno adeg y Rhyfel yn ei chofio. Teithiai yno ar y trên o Benmaenmawr lle roedd hi a'i mam, ifaciwîs o Lerpwl, wedi ymgartrefu gan fod gan ei mam deulu yno.

Celf dan Miss Smart oedd ei chryfder yn yr ysgol ac oddi yno, yn 16 oed aeth i Goleg Celf Lerpwl am gyfnod.

Yn 19 oed trodd yn Babydd ac ymuno â chwfaint am chwe mis fel ymgeisydd. Er rhoi'r gorau iddi a phriodi Colin Haycraft, o Wasg Duckworth, arhosodd yn Babydd ffyddlon a thraddodiadol a cholofn reolaidd ganddi yn The Catholic Herald.

Pan oeddwn yn dysgu yn Ysgol Tryfan (adeilad Ysgol y Genethod gynt) daeth yno'n ddirybudd ym mis Mai 1989 a neb yno bron gan ei bod yn ddiwrnod Mabolgampau ar y caeau wrth y Fenai. Daethai yno i ysgogi'r cof gan ei bod ar ganol paratoi ei chyfrol hunangofiannol A Welsh Childhood. Gadawodd nodyn i mi i gysylltu â hi ac ymhen amser euthum i gael cinio gyda hi yn ei thŷ yn Camden pan ddigwyddwn fod yn Llundain ryw dro.

Wrth nesau at y tÅ· meddyliwn tybed sut fyddai'r sgwrs yn mynd, achos er ein bod ill dwy yn train girls - fel y cyfeirid at genod Pen a Llan - ar un tro, roedd y blynyddoedd wedi mynd a hithau erbyn hynny yn llenor o fri. Roedd ei ffrind pennaf, Beryl Bainbridge yn byw gerllaw, ac Alan Bennett y drws nesaf, a'r hen wraig ddigartref honno yr ysgrifennodd o ddrama amdani yn byw yn y garafan ar ddreif ei dÅ·.

Cyn pen dim roedd y sgwrs yn llifo a sôn am ddyddiau ysgol y buom, nes i Colin Haycraft ymuno â ni dros ginio - pryd o fwyd y bu'n ei baratoi'n hamddenol a deheuig wrth siarad (roedd yn awdur ambell lyfr coginio), a hynny ar stôf nwy anferth, hen ffasiwn.

Canmolai'r addysg a gawsai ym Mangor i'r entrychion - er iddi gael ei diarddel o'r ysgol, am ddim byd gwaeth, mae'n debyg, na'i bod yn benderfynol o dorri ei chwys ei hun, mewn oes pan oedd mwy o fodloni i'r drefn.

Ar ôl cinio mynd i fyny i'r parlwr i weld ei lluniau, a rhyfeddais at ei dawn arlunio. Portreadau o'i theulu oeddynt yn bennaf, rhai mawr mewn acrylig, trawiadol dros ben. Bu iddi saith o blant. Bu farw un ferch yn faban a chollodd fab 19 oed a fu mewn coma am bron i flwyddyn yn dilyn damwain.

Roedd rhyw ddwyster yn ei chymeriad, a doniolwch hefyd. (Cyfrannai golofn ffraeth i'r Spectator dan y pennawd Ö÷²¥´óÐã Life).

Rhoddai bwys mawr ar ei chefndir Cymreig. Penmaenmawr yw lleoliad The Sin Eater, ei nofel gyntaf, ac arferai ddweud, waeth am ba le bynnag yr ysgrifennai, byddai'r lleoliad yn seiliedig, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a'r ardal ei phlentyndod. I Gymru yr ai pan oedd nofel ar y gweill, i Bennant Melangell, lle roedd ail gartref ganddynt ac i fanno yr aeth i fyw yn gyfan gwbl wedi marw ei gŵr.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Oes ganddoch chi atgofion am Alice Thomas Ellis?
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý