Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Rhys Hughes y pennaeth, y Cyng Dai Rees Jones a dau o ddisgyblion hynaf yr ysgol Ysgol newydd
Mehefin 2008
Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar safle newydd Ysgol Cae Top ym Mangor.
Bydd y datblygiad dros £4 miliwn yn sicrhau'r cyfleusterau modern diweddaraf ar gyfer disgyblion a staff yr Ysgol Gynradd a fydd wedi ei lleoli ger Ysgol Uwchradd Friars yn y ddinas.

Mae adeilad yr ysgol bresennol yn dyddio'n ôl 1871, ond yn yr ysgol newydd ceir amrywiaeth o'r cyfleusterau mwyaf modern.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys saith ystafell ddosbarth, adnoddau anghenion addysg arbennig o'r radd flaenaf, ystafell technoleg gwybodaeth, llyfrgelloedd, ystafell gerddoriaeth, maes chwarae, meithrinfa stiwdio, ystafell clwb cymunedol yn ogystal a maes parcio pwrpasol.

Bu rhai o ddisgyblion presennol yr ysgol, ynghyd a'r Cynghorydd Dai Rees Jones, yr aelod lleol ar Gyngor Gwynedd yn ymweld a safle'r ysgol newydd, sydd wedi ei chyllido trwy grant GweIla Adeiladau Ysgol Llywodraeth y Cynulliad.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Rees Jones, aelod Glyder (Bangor) Cyngor Gwynedd, "Rwy'n falch iawn i weld y gwaith adeiladu ar safle newydd Ysgol Cae Top yn bwrw ymlaen, ac yn edrych ymlaen at weld yr ysgol newydd yn datblygu'n ganolbwynt i'r gymuned yn y rhan hon o Fangor.

" Er gwaetha'r pryderon ar y cychwyn, mae'r gymuned gyfan yn edrych ymlaen at groesawu Ysgol Cae Top i ardal Eithinog, ac rwy'n edrych ymlaen at weld disgyblion yr ysgol yn cydweithio gyda Chyfeillion Caeau'r Briwas i warchod y tiroedd i'r cenedlaethau i ddod."

Bydd yr ysgol newydd yn adeilad amgylcheddol gyfeillgar, gan gynnwys paneli solar, gwresogi geothermol, a chyfleusterau i gasglu dŵr glaw fel y gellir ei ailddefnyddio.

Mae'r cynllun ar gyfer yr ysgol newydd yn cynnwys ardaloedd addas ar gyfer y Cyfnod Sylfaen newydd ac ardaloedd penodol a fydd yn galluogi'r ysgol i fynd i'r afael a gofynion y Cwricwlwm Newydd ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.

Ychwanegodd Rhys Hughes, Pennaeth Ysgol Cae Top, "Mae'r adeilad newydd amgylcheddol gyfeillgar yma yn rhoi cyfle gwych i ni addysgu plant Ysgol Cae Top mewn cyfleusterau modern, o'r radd flaenaf sy'n ateb gofynion addysg modern."

Mae dros 220 0 ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd, gyda nifer helaeth ohonynt yn dod o deuluoedd sy'n hanu'n wreiddiol o ardaloedd ledled y byd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý