Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Gari Wyn Pobol bro'r Goriad -
Gari Wyn

Ebrill 2004
Os oes yna bethau sy'n amlycach na chamerâu cyflymder yr Heddlu ar hyd ffyrdd Gogledd Cymru, yna sticeri Ceir Cymru ydy'r rheiny.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r cwmni, sydd a safleoedd ym Methel a Cherrigydrudion, wedi datblygu'n un o werthwyr ceir ail-law mwyaf Gwynedd.

Dyma gyfle arbennig i ddarllenwyr y Goriad ddod i nabod mwy ar un o gyd-berchnogion y busnes, Gari Wyn o Benrhosgarnedd.

O ble daeth y diddordeb mewn ceir?
Pan oeddwn yn blentyn yng Nglasfryn, Uwchaled, ceir a busnes oedd y pwnc trafod o gwmpas y bwrdd bwyd. Trwsio ceir a gwerthu ambell un oedd bywyd fy nhad ac er imi ddilyn gyrfa fel athro am 13 mlynedd, mae'n debyg mai gwir yw geiriau Cynan: "Unig uchelgais llanc o'r wlad yw torri cwys fel cwys ei dad."

Beth wnaeth i chdi gefnu ar yrfa fel athro a mynd yn werthwr ceir ail-law?
Rydw i wedi credu erioed na ddylai rhywun dreulio ei holl fywyd yn gwneud yr un peth. Roedd gen i deimlad hefyd y gallwn gyflawni mwy drwy droi yn gyfalafwr. Mi fwynheais fy nghyfnod yn y byd addysg ond rydw i'n mwynhau fy ngyrfa mewn busnes yn llawer mwy at ei gilydd, er 'mod i'n gaeth iawn i waith ac oriau hir.

Ydy hi'n werth prynu car newydd sbon erbyn heddiw? Pa fath o geir ddylai darllenwyr y Goriad eu prynu?
Rydw i'n ffodus yn y ffaith 'mod i'n credu yn amcanion fy musnes. Credais erioed fod prynu car newydd yn beth ffôl yn wyneb y ffaith fod y mwyafrif o geir Prydain yn colli tua 30% yn eu gwerth yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae rhai mathau o geir yn cadw eu prisiau'n well na'i gilydd ac mae staff gwerthu Ceir Cymru yn ceisio cynghori ein cwsmeriaid beth yw'r pryniant doethaf iddyn nhw yn ôl eu hanghenion personol.

Sut wyt ti'n gweld dy rôl fel gŵr busnes lleol?
Efallai mai'r hyn sy'n cynnal fy nghymhelliant mewn busnes ydy'r ffaith fod cyn lleied o Gymry Cymraeg yn y maes. Mae'r system addysg ar fai ac mi hoffwn hybu'r awydd mewn Cymry ifanc i fentro mwy. Mae byd busnes yn ddifyr ac amrywiol ac yn cynnig gwobrau mwy nag arian yn unig. Does dim teimlad brafiach na theimlo eich bod wedi llwyddo i wneud rhywbeth yn effeithiol ar eich liwt eich hun, yn enwedig felly os ydy eich menter yn cynnig bywoliaeth i nifer o bobl o'ch cwmpas. Mae gwneud elw ariannol yn rhoi boddhad ond mae gweld ffrwyth i'ch gwaith yn rhoi mwy o bleser.

Beth mae Gari Wyn yn ei wneud pan nad ydy o'n gwerthu ceir?
Fy mhrif ddiddordeb ar wahân i fusnes ydy hanes; hanes bro fy mebyd a hanes Cymru. Mi fydda i'n dal ati i gasglu a chwilota ac yn cael pleser mawr o wneud hynny. Fel y gŵyr ambell un, mi fydda i hefyd yn casglu memorabilia Cymreig (megis trôns yr actor Rhys Ifans o'r ffilm Notting Hill a gitâr o eiddo'r Manic Street Preachers), a rhyw ddiwrnod, mi rydw i'n gobeithio cyflwyno'r casglad tuag at ryw achos penodol.

Fel un a fu'n fyfyriwr ym Mangor yn ystod y saithdegau, sut wyt ti'n gweld y ddinas wedi newid erbyn heddiw?
A minnau wedi bod ym Mangor ers 30 mlynedd rydw i wedi gweld llawer iawn o newid. Mae sefydliad y Brifysgol wedi niweidio Cymreictod ac mae dyfodiad y siopau cadwyn ar gyrion y ddinas wedi difa llawer o fusnesau bychan cynhenid. Mae'r siopau mawrion hyn yn elwa ar y farchnad stoc yn Llundain ac ychydig iawn maen nhw'n ei roi yn ôl i'r ardal. Fe hoffwn i weld y Cynghorau yn atal datblygiadau fel hyn ac yn meddwl am y tymor hir cyn bod mwy o niwed yn cael ei wneud.

Oes 'na siawns am ddisgownt i ddarllenwyr y Goriad yn Ceir Cymru?
Mi ddylai un o olygyddion y rhifyn hwn wybod yr ateb i'w gwestiwn! Tasa fo'n edrych ar y fargen gafodd o acw yn ddiweddar fe ddylai gydnabod fod pawb yn ddiwahân yn cael cythrel o fargen pan fyddan nhw'n prynu cerbyd gan y bechgyn ym Methel!!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý