Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Yr hen Plaza Fflatiau lle bu'r Plaza?
Ionawr 2007
Neuadd breifat i fyfyrwyr fydd yn cael ei chodi ar safle'r Plaza. Hyn fydd yn digwydd os bydd Cyngor Gwynedd yn caniatáu'r cais a wnaed gan gwmni Watkin Jones.
Maent am godi bron i 200 0 fflatiau yno a dwy siop oddi tanynt. Cafodd y cais ei drafod mewn cyfarfod o Gyngor Dinas Bangor a bydd pwyllgorwyr Cyngor Gwynedd yn debyg o'i ystyried y mis nesaf.

Trowyd Gwesty'r British yn fflatiau'n barod gan ychwanegu darn ati fel bod 180 o unedau yn Neuadd Willis.

Mae'r rhan hon o'r ddinas yn destun cryn sylw i ddatblygwyr. Mae cais hefyd i godi sinema newydd ar y cae pêl-droed ynghyd a safle bowlio deg. Er fod caniatâd i godi Asda yn Ffordd Farrar, a chais arall i ganiatáu siopau llai yno, nid oes dim wedi digwydd i'r datblygiad hwnnw hyd yma.

Roedd cais arall wedi ei gyflwyno i agor sinema a lle bowlio deg ar Stâd Ddiwydiannol Llandygai. Er bod Pwyllgor Cynllunio Arfon o'i blaid, gan fynd yn groes i swyddogion y Cyngor, bydd y cais hwnnw yn cael ei drafod gan y Cyngor llawn cyn diwedd y mis hwn.

Bu sinema ar safle'r Plaza er 1910 ond yn 1934 yr aed ati i godi'r sinema sydd newydd ei dymchwel. Dros ddeng mlynedd yn ôl addaswyd hi'n sinema ddwy sgrin. Ar un adeg roedd ganddi gystadleuaeth gan ddwy sinema arall, y County a'r City, sydd wedi cau ers blynyddoedd mawr. Ar safle'r County y mae clwb yr Octagon.

Yn y gorffennol, pan oedd hi'n un sinema, cynhaliwyd cyngherddau poblogaidd yno a bu enwau cyfarwydd y cyfnod yn canu ar y llwyfan - rhai fel David Lloyd, Ritchie Thomas, Richard Rees, Emyr ac Elwyn a Hogia'r Wyddfa.

Gyda'r colegau ym Mangor bu'n atyniad mawr i do ar ô1 to o fyfyrwyr heb sôn am rai oedd yn byw o fewn cylch eang o gwmpas y ddinas. Cafodd ei hanfarwoli yn un o ysgrifau Islwyn Ffowc Elis yn Cyn Oeri'r Gwaed, 'Melodi'. "Wedi ymlacio ym melfed seddau'r Plaza yr oeddwn pan glywais hi gyntaf" yw geiriau agoriadol yr ysgri£

Ar wahân i Gyffordd Llandudno, yng Nghaergybi a Phorthmadog y mae'r sinemâu agosaf i Fangor erbyn hyn, er bod Theatr Gwynedd yn dangos nifer helaeth o ffilmiau. Roedd dwsin yn gweithio yn y Plaza cyn iddo gau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý