Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Carnedd Gwenllian i'r dde uwchben Castell Penrhyn Enwi mynydd
Tachwedd 2009
Prynhawn Sadwrn braf o Hydref oedd, a hen dref Biwmares yn byrlymu o geir a phobl, y Carneddau yn eu gogoniant ac yn gefndir hyfryd i'r Fenai a'r dwsinau o gychod a'u hwyliau gwynion yn rasio ar y culfor.

Tu mewn i Westy'r Bulkeley roedd cymdeithas arall yn cyfarfod - Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

Cymdeithas a sefydlwyd flynyddoedd yn ô1 gan Mrs Mallt Anderson, Caerdydd, a'i chydnabod (priod Dr Donald Anderson yw Mallt, Cyn-ymgynghorydd Meddygol lechyd y Gymuned yn y Ddinas) i gofio am y Dywysoges fechan a gipiwyd, ar gais brenin Lloegr, o'i chartref yn Abergwyngregyn ac a dreuliodd weddill ei hoes mewn lleiandy yn Sempringham, Swydd Lincoln, lle bu farw yn 54 mlwydd oed heb fod yn gwybod , mae'n siŵr, pwy oedd, nac sut i sillafu ei henw.

Bu i dros gant o'r aelodau a Hrindiau o bell ac agos ymgynnull dan lywyddiaeth Yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas gyda Mr Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth y Cynulliad a Mr Paul Beauchamp, o swyddfa'r mapiau Ordnans, yn bresennol.

Cyfarfod oedd y Gymdeithas i wireddu breuddwyd Janet Elson, un o'r aelodau, a weithiodd yn ddiwyd drwy ysgrifennu i'r gwahanol gymdeithasau i geisio cael cytundeb i newid enw Carnedd Uchaf yn Carnedd Gwenllian er mwyn rhoi enw Gwenllian gydag enwau'r teulu - ei thad, Llywelyn, ei mam Elinor (Yr Elen) a'i hewythr Dafydd - ar y Carneddau unwaith ac am byth. Ni fu'r dasg yn un hawdd, a rh aid oedd cynnal cyfarfod ffurfiol ar gais y Swyddfa Ordnans.

Un o Lanfairfechan yw Janet Elson, yn ferch i'r diweddar Daniel Griffiths a'i briod Gaynor - ei thad yn gynddeintydd yn ardal Penmaenmawr ond yn wreiddiol o Aberdaron ac o'r un dras a Mrs Margaret Jones, Porthaethwy (Ffordd Farrar gynt).

Mae Janet a'i phriod Keith yn byw yn Dorset ond mae ei chalon ynghlwm ym mynyddoedd Cymru, yn arbennig yn y Carneddau lle'r arferai gerdded llawer pan yn ifanc ac mae'r ebolion sydd yno yn agos iawn at ei chalon.

Erbyn heddiw mae mapiau Ordnans 2009 wedi eu cyhoeddi a cheir arnynt yr enw 'Carnedd Gwenllian' ac yn fach mewn cromfachau 'Carnedd Uchaf'.

Ond pan gyhoeddir mapiau 2012 'Carnedd Gwenllian' yn unig fydd arnynt.

Felly diolch i Janet am fod mor ddygn - nid yn aml mae rhywun yn cael caniatâd i newid enw mynydd.

Roedd ei ffeil yn un drwchus - tair blynedd o lafur diflino!

Gwell Cymro yw Cymro oddi cartref meddai'r hen ddywediad.

Aeth Mallt a hithau adref yn ysgafn droed gyda Janet yn cael y clod iddi gyflawni'r amhosibl gan ddod a hanes y Dywysoges druan yn ôl i'n bywydau ninnau, a rhoi mwy o hanes Cymru ynghlwm i'r Carneddau. Enid Roberts (Bangor)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý