Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Criw o bobl ifanc o'r Wladfa (Dafydd Tudur yn y blaen) Ymweliad â Dyffryn Camwy
Rhagfyr 2004
Mis Hydref diwethaf aeth Dafydd Tudur o Ffordd y Coleg i ymweld â Phatagonia, ac mae'n adrodd peth o'i brofiad yno.
Mae Dafydd ar hyn o bryd yn y Brifysgol ym Mangor yn cyflwyno gwaith ymchwil PhD ar Michael D Jones. Mae hefyd yn Gymrawd Dysgu yn yr Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn y Coleg.

"Pwrpas f'ymweliad a Phatagonia ym misoedd Hydref a Thachwedd 2003 oedd chwilio am ddogfennau a fyddai o ddiddordeb i'm gwaith ymchwil ar Michael D. Jones, un o sylfaenwyr y Wladfa. Fel y gobeithiwn, deuthum ar draws amryw o lawysgrifau a hen greiriau difyr.

Ond yn gwbl annisgwyl i mi, dychwelais i Gymru yn teimlo fy mod wedi gweld rhywbeth llawer mwy arbennig na chofnodion o'r oes a fu.

Mae'n debyg mai un o'r sylwadau mwyaf cyffredin gan ymwelwyr a Dyffryn Camwy, y man lle ymsefydlodd y Cymry ym 1865, yw bod gormod o ramantu wedi bod ynglŷn â'r Wladfa Gymreig.

Dafydd TudurLle sych a phellennig yw'r Dyffryn, ac er bod afon Camwy a rhwydwaith o gamlesi yn rhoi rhywfaint o ffrwythlondeb iddo, crasu yng ngwres yr haul tanbaid a wna popeth sydd y tu hwnt i'w cyrraedd. Trwy ddringo'r llethrau, gellid gweld mai ynys o dir âr wedi ei amgylchynu gan fôr o baith yw'r Wladfa mewn gwirionedd, ac o ystyried mai ffrwyth llafur ymfudwyr yw'r ychydig wyrddni sydd yno, anodd yw dychmygu teimladau'r Cymry wrth iddynt gyrraedd y Dyffryn am y tro cyntaf.

Yn sicr, sychder y tir anial a ddaliodd fy llygad i gyntaf.

Wedi dweud hynny, credaf nad yw ychydig ddyddiau'n ddigon o gyfle i werthfawrogi'r bywyd Gwladfaol. Rhaid dod i adnabod un neu ddau o siaradwyr Cymraeg yr ardal, a chael eich cyflwyno i'r bobl sy'n defnyddio'r iaith, er mwyn deall bod llawer mwy na thirwedd a hinsawdd i ryfeddu ato yn Nyffryn Camwy.

Mae'n wir mai dim ond ychydig o bobl Dyffryn Camwy, a chyfran fechan o'r bobl o dras Gymreig, sy'n parhau i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd!

Mae dylanwad y cysylltiad Cymreig i'w weld ar sawl agwedd o fywyd yr ardal, ond ni chlywir y Gymraeg ar strydoedd y Gaiman, Dolafon na Threlew mwyach, ac ychydig aelodau o'r genhedlaeth hynaf sy'n ei siarad fel iaith gyntaf erbyn hyn.

Byddai'n ddigon hawdd rhoi darlun digalon o'r sefyllfa hon. Ond ni ellir osgoi'r ffaith bod yr iaith Gymraeg yn sail i bob math o weithgarwch yn Nyffryn Camwy. Er y bydd colli'r genhedlaeth hynaf yn ddiwedd cyfnod yn hanes y Wladfa, mae yno fywiogrwydd nad yw'r twristiaid yn aml yn ei weld.

Caiff plant o bob cefndir gyfle i ddysgu Cymraeg yn Ysgol Camwy, ac mae'r ardal yn cynhyrchu athrawon ifanc ei hun i wneud hynny.

Mae Ysgol Gerdd y Gaiman yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg y tu allan i'r ysgol. Treuliais un penwythnos yn rhoi cymorth mewn gwersyll Cymraeg i blant yr ardal, ac er mai dim ond gwybodaeth sylfaenol o'r iaith oedd gan y mwyafrif ohonynt, yr oedd hi'n amlwg eu bod yn cael hwyl wrth ei dysgu.

Nid i weithgareddau'r plant yn unig y mae'r iaith Gymraeg yn ganolog. Yn wir, yr oedd y gwersyll yn nodweddiadol o'r brwdfrydedd a'r ymdrech barhaol sydd i hybu'r Gymraeg yn y Dyffryn. Mae hefyd Gôr Cymraeg i oedolion y Gaiman; cefais groeso mawr ganddynt, a bûm yn canu gyda hwy.

Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yw'r Eisteddfod a gynhelir yn Nhrelew ym mis Hydref, ond cynhelir ymarferion a Chyngherddau trwy'r flwyddyn. Bûm hefyd i nosweithiau cymdeithasol lle'r oedd cyfle i sgwrsio yn y Gymraeg, ac i'r 'Bwthyn Bach' lle byddai dynion yr ardal yn cyfarfod ar nos Wener i wledda a chanu yng nghwmni ei gilydd.

Euthum i'r Wladfa yn ymwybodol o'r caledi a wynebodd y Cymry ar eu glaniad ym Mhatagonia ym 1865. Yn sicr, buaswn yn gwadu unrhyw gyhuddiad o ramantu ynglŷn â'r fenter, ond rhaid deall mai eilradd oedd tirwedd a hinsawdd yng ngolwg Michael D. Jones wrth geisio sefydlu Gwladfa Gymreig.

Ei weledigaeth, yn ei hanfod, oedd diogelu cymdeithas a'r Gymraeg yn gonglfaen iddi. Nid Cymraeg yw prif iaith y Wladfa bellach. Ond wrth ddychwelyd i Gymru, ni allwn beidio â theimlo bod rhywfaint o'r weledigaeth honno yn aros yn y modd y mae'r iaith yn parhau yn sylfaen i fywyd cymunedol rhai o drigolion Dyffryn Camwy."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý