Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Esgob newydd Bangor yr Hybarch Andrew John Esgob newydd
Tachwedd 2008
Archddiacon Ceredigion, yr Hybarch Andrew John, yw Esgob Etholedig newydd Bangor.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan, wrth ddrws gorllewinol Eglwys Gadeiriol Bangor ar drydydd diwrnod, a diwrnod olaf, cyfarfod y Coleg Ethol.

Roedd yr etholiad yn dilyn marw'r Gwir Barchedig Anthony Crockett ym mis Mehefin.

Bu ef yn Esgob yr Esgobaeth ers 2004.

Yr Esgob newydd fydd unfed Esgob a phedwar ugain Bangor, a bydd yn gwasanaethu ardal sy'n ymestyn ar draws Gogledd Orllewin Cymru o Gaergybi i Lanidloes.

Mae'r Hybarch Anthony John yn 44 mlwydd oed, a bu'n Archddiacon Ceredigion ers 2006.

Fe'i magwyd yn Aberystwyth a threuliodd ei holl weinidogaeth hyd yn hyn yn Esgobaeth Tyddewi. Mae'n briod gyda phedwar o blant ac y mae'n Gymro Cymraeg.

Yn ddiweddar, arloesodd yn Esgobaeth Tyddewi gyda chwrs ar efengylu Cristnogol o dan y teitl Menter.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at arwain Esgobaeth Bangor.

"Rwy'n ymwybodol", meddai "ei bod yn anodd dilyn yr Esgob Tony a bod yr Esgobaeth yn dal i alaru amdano.

Mae'n anrhydedd fawr i gael fy newis ac rwy'n gobeithio y bydd imi yn fuan ennill cefnogaeth a hyder y bobl y byddaf yn eu gwasanaethu.

Mae Bangor yn Esgobaeth arbennig iawn, mewn rhan brydferth o'r wlad, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn y bennod newydd hon yn fy ngweinidogaeth."

Croesawyd y penderfyniad gan Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan, Llywydd y Coleg Ethol.

"Yr wyf wrth fy modd," meddai, "gyda'r penodiad hwn. Mae Andy John yn offeiriad talentog, egniol a phoblogaidd, sydd, ac yntau wedi bod yn Archddiacon Ceredigion ar oedran gweddol ifanc, yn deall yn dda anghenion esgobaeth wledig a Chymraeg ei hiaith a'r sialensau sy'n ei hwynebu.

Bu Esgobaeth Bangor trwy gyfnod anodd ac ansicr yn ddiweddar yn dilyn salwch hir ac yna marwolaeth ei Hesgob Tony Crockett, a gerid yn fawr.

Rwy'n hyderus, fodd bynnag, inni ddewis arweinydd poblogaidd ac uchel ei barch a fydd yn parhau a'r gwaith a gychwynnodd yr Esgob Tony ac a fydd yn mynd a'r Esgobaeth yn ei blaen gydag ysbrydoliaeth ac egni newydd.

Rwy'n siŵr y bydd pobl Bangor yn ei gymryd ef a'r teulu at eu calonnau yn fuan iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael cydweithio ag ef ym Mainc yr Esgobion."

Mae'n briod a Caroline, rheolwr prosiect gyda Gofal am yr Henoed, sydd hefyd yn Ddiacon yn yr Eglwys yng Nghymru.

Ordeiniwyd Caroline yn Ddiacon pan ordeiniwyd Andy yn Offeiriad yn 1990. Mae ganddynt bedwar o blant, Matthew; 16, Bethany, 15, Hannah, 13 a Harriet, 11.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý