Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Disgyblion gyda Hywel Williams Tryfan i'r trofannau
Ionawr 2008
Erbyn hyn mae'n siwr i lawer ohonoch glywed bod grŵp o ddisgyblion o Ysgol Tryfan sy'n gweithio gyda Chymorth Cristnogol wrthi'n trefnu taith addysgiadol i Sierra Leone.

Buont ers tua 3 mis yn trefnu'r daith a fydd yn para 12 diwrnod a byddant yn cychwyn am Sierra Leone ar 7 Chwefror.

Gyda llai na mis i fynd maent i gyd yn cyffroi'n fawr. Hoffent gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r holl fusnesau lleol ac unigolion hael sydd wedi eu cefnogi'n ariannol ac a fu'n help mawr tuag at y daith, a hefyd am ddymuniadau da pobl yr ardal, yn enwedig wrth bacio bagiau yn y Co-op a Marks & Spencer cyn y Nadolig!

Un o'u digwyddiadau codi arian llwyddiannus fu Bore Coffi yn yr ysgol adeg Diwrnod AIDS y Byd yn Rhagfyr, lle gwnaethant £150 gyda chefnogaeth gan lawer o'u ffrindiau a'r ysgol ei hun.

Daeth Hywel Williams AS draw i'w cefnogi hefyd.

Yn ystod y daith byddant yn teithio o gwmpas Sierra Leone yn dysgu sut mae gwlad dlotaf y byd yn delio gyda her anterth HIV/AIDS.

Byddant yn rhannu syniadau gyda phobl leol ac yn dysgu llawer am y sefyllfa fel y gallant addysgu eu cyfoedion ymhellach ar ôl dod adref o'r daith.

Os oes gan unrhyw grwpiau lleol ddiddordeb mewn cael gweithdy ar y daith wedi iddynt ddychwelyd byddant yn hapus iawn i ddangos lluniau a siarad am y daith.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Branwen Niclas yn swyddfa Cymorth Cristnogol Bangor ar 01248 353574.

Hoffai Shauna, Catherine, Meredyth a Cai ddiolch i bawb a fu'n eu cefnogi, gan obeithio y cânt rannu eu hanesion gyda darllenwyr y Goriad wedi iddynt ddod yn ôl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý