Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Nia Harris yn cael croeso yn Awstralia Crwydro Awstralia
14 Hyfref 2003
Mae taith Nia Harris, merch Rhiannon a Les Glo o'r Felinheli wedi dod i ben.
Aeth Nia allan i Awstralia ym mis Ionawr, heb syniad beth oedd o'i blaen gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddi hedfan yn ogystal â'r tro cyntaf i hedfan o'r wlad.

Wedi cyrraedd Sydney daeth ar draws geneth o'r De oedd yn trafaelio ar ben ei hun. Aethant gyda'i gilydd i Melbourne a gweithio yno am ychydig yn casglu ffrwythau.

Bu iddynt brynu car ail-law a ffwrdd â nhw i Perth ar ôl ambell i ddamwain ar y ffordd.

Cael seibiant bach ac yna i Ayers Rock. Yr oeddynt wedi ymladd ar ôl dringo. Ymlaen i Alice Springs, lle cawsant gynnig gwaith gan fod yr arian yn dechrau rhedeg allan erbyn hyn.

Roedd y Cyngor lleol yn cynnal Reservation i'r Aborigines mewn lle anghysbell ac angen rhywun i gymryd gofal o'r Siop rhywbeth tebyg i Tesco neu Kwiks ond llawer iawn llai. Derbyniodd y ddwy y gwaith heb syniad beth oedd o'u blaen. Yr unig ffordd i gyrraedd yno oedd hedfan o Alice Springs.

Y mae'r Aboriginies yn cael bywyd braf dim yn poeni am weithio ond disgwyl am eu giro ac yna yn syth i'r siop i brynu bwyd a diod (dim alcohol).

Dywed Nia nad ydynt yn hoffi dwr a phrin maent yn 'molchi ac yn ogleuo yn ofnadwy. Treuliwyd bron i fis yno a gwelwyd mwy o gwn na phobl. Rhaid oedd disgwyl am awyren i'w cludo yn ôl i Alice Springs.

Roedd y car wedi bod yn sefyll am bron i fis, ond tydi peth felly yn poeni dim ar y bobl ifanc ma! I ffwrdd â nhw i Darwin yn y Gogledd siwrnai faith a lôn diddiwedd. Yn anffodus, torrodd y car i lawr - big end neu rywbeth costus.

Daeth gwr bonheddig heibio a mynd â nhw i'r dref agosaf. Cawsant groeso mawr gan y teulu a phryd o fwyd ardderchog cig oen fel cinio dydd Sul gartref.

Eu bwriad yw mynd i Gairns i gael gwersi Scuba Diving ond clywed wedyn eu bod yn Fraser Island ac wedi gwirioni hefo'r lle.

Bellach, daeth yr amser iddynt wneud eu ffordd am Sydney a hedfan gartref i Gymru fach.

Erbyn i'r erthygl yma ymddangos bydd Nia wedi hen gartrefu yn y Felinheli ac wedi mynd i'r Coleg yn Lerpwl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý