Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Tudalen flaen y papur Dyfodol y Goriad
Rhagfyr 2009
Daeth llond het o bobl i'r cyfarfod blynyddol agored a gynhaliwyd ddiwedd Hydref a chafwyd trafodaeth gynhwysfawr ar ddyfodol ein papur bro.

Mynegwyd pryder am y ffaith fod y papur yn colli bron i dair mil o bunnoedd y flwyddyn oherwydd ffigyrau gwerthiant siomedig ac incwm hysbysebion cymharol isel.

Ers y cyfarfod hefyd y mae Rhian Haf, y cydlynydd a David James, y trysorydd wedi datgan eu bod yn rhoi'r gorau i'w swyddi o fewn deufis.

Heb gydlynydd i gysylltu gyda'r golygyddion a'r cyhoeddwyr fe fydd parhad y papur yn y fantol.

Mae angen brwdfrydedd a gwaed newydd! Dylwn nodi yma ein diolchgarwch i'r ddau am eu gwasanaeth i'r papur a diolch i'r criw bychan o olygyddion sydd wedi ymgymryd a'r gwaith golygyddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

I gadw'n pennau uwchlaw'r dŵr mae angen cydlynydd, trysorydd a gwirfoddolwyr ac mae angen diwygio nifer o elfennau a nodweddion sy'n perthyn i'r papur.

Bydd cyflog yn cael ei dalu am wneud gwaith cydlynydd/trysorydd a'r oriau gwaith yn cyfateb i oddeutu ddiwrnod a hanner y mis.

I'r pwrpas hwn rydym yn galw cyfarfod cyffredinol eto ar Nos Sul, Ionawr l0 fed am 7.00 o'r gloch yng Nghapel Berea Newydd.

Os ydych am weld parhad y Goriad dewch i'r cyfarfod.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý