Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Rapio yn Maesgeirchen Rapar yn y clwb
Hydref 2008
Cyn i'r ysgol gau am yr haf, daeth y rapar crwn Ed Holden (Mr Phormula) i ddysgu plant y stad sut i rapio a bît bocsio.

Daeth tua 30 o bobl ifanc i fwynhau'r sesiwn gyda Ed, oedd yn dangos sut i rapio a chreu curiadau byrfyfyr.

Roedd Ed, sy'n berfformiwr adnabyddus iawn ac yn aelod o'r Genod Droog ac Y Diwygiad, yn dweud fod pobl ifanc dawnus iawn ym Maesgeirchen a'i fod yn awyddus i ddychwelyd i Youth Zone * i gynnal rhagor o weithdai yn y dyfodol agos.

Trefnwyd y gweithdy yn y Clwb Ieuenctid ar y cyd gan Cynllun GweithreduIlaith Bangor, Cymunedau'n Gyntaf Maesgeirchen a Cerdd Gymunedol Cymru, gyda'r bwriad o gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg gyfoes i ieuenctid Maesgeirchen.

"Mae ieuenctid Maesgerichen yn rapwyr da iawn!" meddai Caren Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Cynllun Gweithredu laith Bangor.

"Dangosodd Ed fod lle i'r iaith Gymraeg ar y sin Hip Hop. Fel cerddor proffesiynol, sy'n gwneud bywoliaeth o rapio a bît bocsio, mae Ed yn berson blaengar ar y sin gerddoriaeth Gymraeg, ac yn enghraifft berffaith o beth gellir ei gyflawni trwy rapio'n ddwyieithog. "

Dywedodd Zoe Pritchard, Gweithiwr Prosiect i Gymunedau'n Gyntaf Maesgeirchen: "Roedd y plant a'r bobl ifanc wedi mwynhau gwrando ar Ed yn perfformio, ac yn eu helfen wrth gael y cyfle i ddangos eu sgiliau ar y meicroffon. Roedd hi'n noson wych!".

Mae Bangor yn un o 10 ardal Cynllun Gweithredu Iaith yng Nghymru.

Bwriad y Cynllun yw dod a phobl leol a sefydliadau at ei gilydd er mwyn defnyddio a hyrwyddo'r Iaith Gymraeg. (Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caren Wyn Roberts ar 01286684 708.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý