Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2010

Paentio'r byd yn goch...

Vaughan Roderick | 12:41, Dydd Gwener, 30 Ebrill 2010

Sylwadau (5)

cd.JPGMae Nick Bourne newydd ryddhau datganiad yn galw am adfer y slogan "Cofiwch Dryweryn" yng Ngheredigion oedd wedi cael ei difrodi'n ddiweddar.

Dyma sydd gan Nick i ddweud "Mae'r slogan o'r pwys hanesyddol mwyaf ac yn eicon nid yn unig i Geredigion ond i Gymru gyfan."

Mae 'na ryw wers fach yn fan hyn ynghylch y ffordd y mae olion brwydrau'r gorffennol yn hwyr neu'n hwyrach yn troi'n eiddo i bawb.

Ond does dim rhai i Nick boeni. Fel mae'r llun yn dangos mae'r peth eisoes wedi ei sortio!

Seddi gweigion, sibrydion a phatrwm, efallai

Vaughan Roderick | 10:31, Dydd Gwener, 30 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

FT.jpgRwy'n ffaelu credu fy mod wedi gwneud! Roeddwn i'n cadeirio fforwm etholiadol yng Nghaerdydd neithiwr a sylweddolais ar ôl cyrraedd gartref fy mod yn dal i wisgo'r meicroffon radio! Gobeithio na wnes i ddweud unrhyw beth o le!

Beth bynnag am hynny, rwyf wedi nodi o'r blaen y cynnydd aruthrol yn y nifer o gyfarfodydd aml blaid yn yr etholiad hwn, cyfarfodydd sydd wedi eu trefnu gan amlaf gan elusennau neu eglwysi.

Roedd oddeutu cant yn y cyfarfod neithiwr a'r unig biti oedd mai dim ond dau ymgeisydd (Alun Michael a Jake Griffiths) oedd yn bresennol. Nawr rwy'n deall iawn bod ymgeiswyr efallai yn teimlo eu bod yn gallu cwrdd â rhagor o bobol trwy droedio'r strydoedd ond mae derbyn gwahoddiad ac yn danfon cynrychiolydd ar y funud olaf yn siabi braidd.

Fe glywais i ragor o sibrydion neithiwr i ychwanegu at y dwsinau o rai eraill yr wyf wedi pigo i fyny yn ystod y dyddiau diwethaf.

Dydw i ddim yn talu gormod o sylw i bethau sy'n cael eu sibrwd yn fy nghlust. Mae 'na ddigon o resymau i wleidyddion gamarwain newyddiadurwyr. Maen nhw'n gallu bod yn gyfan gwbl anghywir hefyd. Rwyf wedi son o'r blaen am y ffenomen rhyfedd lle mae bron pob ymgeisydd sy'n sefyll am y tro cyntaf yn argyhoeddiedig eu bod am ennill. Mae ambell i hen law yn gallu suddo'n ddwfn i bydew pesimistiaeth hefyd.

Ar ôl dweud hynny mae 'na batrwm i'r sibrydion ar hyn o bryd. Rwyf wedi clywed pethau fel "Gorllewin Abertawe wedi mynd", "talcen caled iawn yng Ngorllewin Caerdydd", "Llanelli'n closio" a "phopeth yn iawn yn Wrecsam" dros y dyddiau diwethaf.

Mae'r sibrydion hynny, ynghyd ac eraill, yn awgrymu bod Llafur yn poeni am etholaethau ymhell y tu ôl i'w rheng flaen. Fe ddaw'r sibrydion hynny o bobol Lafur yn bennaf ond hefyd gan y pleidiau eraill.

Does wybod ai gwir ai gau yw'r sibrydion ond mae'r ffaith mai etholaethau fel rhain sy'n cael eu trafod ynddi ei hun yn ddiddorol. Sylw nid proffwydoliaeth sy gen i. Os ydych chi'n poeni am Harlech mae Sycharth a Glyndyfrdwy eisoes yn lludw.

Argraffiadau- Maldwyn

Vaughan Roderick | 16:34, Dydd Iau, 29 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

williamwilliamspantycelyn.jpg"Hed y gwcw, hed yn fuan
Hed aderyn glas ei liw
Hed oddi yma i Bantycelyn
Dwed wrth Mari mod i'n fyw.
Hed oddi yno i Lanfair 'Muallt
Dwed wrth Jac i gadw'i le
Ac os na chaf ei weled yma
Caf ei weled yn y ne"

Digon cyntefig oedd y gyfundrefn gyfathrebu ym Mhowys yn nyddiau'r hen Williams gyda'r per ganiedydd yn gorfod crefi ar aderyn i gario negeseuon at ei wraig a'i fab! Dyw pethau ddim lot gwell heddiw o safbwynt ffons symudol a band-lydan. Rhyw sut mae'r epistol yma o eiddo Owain Clarke wedi fy nghyrraedd o berfeddion cefn gwlad.
owain.jpgDiolch Vaughan am y cyfle i gyfrannu eto i dy flog.

Pan ges i'n 'orders' i bacio fy mag ac anelu tua'r canolbarth ar ddechre'r ymgyrch, yn naturiol, ro'n i'n gyffrous ond hefyd 'chydig yn betrusgar.

Ro'n ni'n ymwybodol fod y 'patch' yn anferth - mae Maldwyn, Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed, wedi'r cyfan, ymhlith yr etholaethau mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Ro'n ni'n disgwyl gorfod treulio oriau maith ar yr hewl - a byw allan o gist y car!

Ac wrth gwrs ro'n ni'n iawn - ma cloc y 'Mondeo' yn dangos 2000 milltir ers y dechre - a'r mwyafrif o'r rheiny os cofia'in iawn wedi'u treulio yn styc tu ôl i dractor!

Eto i gyd fi 'di joio - a hynny am fod pob un o'r etholaethau yn ddiddorol am wahanol resymau

Nawr ar bapur - fe ddyle Maldwyn fod yn eitha saff i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Lembit Opik yn amddiffyn mwyafrif o 7173 wedi'r cyfan.

Y cyn aelod cynulliad Ceidwadol Glyn Davies sy'n cynnig y prif her - er fod Glyn yn cydnabod ei hun fod "bowns" y Democratiad Rhyddfrydol ar ol y dadleuon prif weinidogol yn golygu bod Lembit yn cysgu 'chydig yn dawelach erbyn hyn. Fe fyddai Nick Colbourne yr ymgeisydd Llafur yn gwneud yn dda os yw'n llwyddo i ddal gafel ar 12% o'r bleidlais ond ma ymgeisydd Plaid Cymru Heledd Fychan yn ffyddiog y gall ei phlaid esgyn o'r pedwerydd safle.

Ond y cymeriadau lliwgar, y personoliaethau bywiog sy'n gwneud Maldwyn mor ddifyr i fi fel gohebydd eleni..

Dyma chi flas o'r ymgyrchu (a chyn i ti ofyn Vaughan ma da fi'r perlau canlynol i gyd ar dap!)

Lembit Opik (yn dosbarthu taflen etholiad ar stepen y drws i fenyw canol oed)

Lembit: "It says there, look - a true champion for Montgomeryshire"
Menyw: "I do know you, I've seen you around."
Lembit: "That's because I'm always working. I am to politics what you are to the tennis league"

Glyn Davies: "Os fyddai'n gallu perswadio pob un o fy nheulu i bleidleisio drosto fi - fe fyddai'n ennill - dim problem o gwbwl. Eto i gyd fi'n dod o fynyddoedd Llanerfyl... a mae nhw draw fanna yn pleidleisio Plaid Cymru bob tro"

Heledd Fychan: "Dwi'n credu bod pawb wedi cael llond bol o wleidyddion sy'n ymddwyn fel robots ac yn dweud pethe ma nhw fod i ddweud .... yn sicr gall neb gyhuddo Lembit, Glyn na fi o ddilyn y llinellau da ni fod ddilyn trwy'r amser"

Cyn heddwas ac Ynnad Heddwch yw'r ymgeisydd Llafur Nick Colbourne. Fe fyddai e, mae'n siwr gen i, yn fodlon cydnabod nad yw e'n gymeriad cweit mor lliwgar ar lleill. Eto'i gyd er lles cydbwysedd:

"I am not thinking of a hung Parliament. I am a realist but I'm still not thinking of a hung Parliament and I certainly haven't. Or if I have - I'm not going to tell you."

Pasiwch y popcorn!

Oriel Albert

Vaughan Roderick | 13:14, Dydd Iau, 29 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

albwyl.jpgalbmel.jpg


Roeddwn yn meddwl ein bod wedi gloddesta digon ar luniau gwirion. Nes i mi weld gwefan Albert Owen.

Edrychwch ar rain.

Mae'n amlwg bod Albert yn gefnogwr mawr i'r Wylfa, melinau gwynt... a photoshop!

plaidies.JPGMae rhywun ym mhencadlys Llafur Cymru mewn hwyliau da heddiw.

Gofynnais am sylw ynghylch lluniau Albert. Yn lle sylw fe ddanfonodd y blaid y llun yma i mi.

Penblwydd hapus Matt!

ON; Jiw jiw, Mae rhai o fewn Plaid Cymru yn meddwl bod y trydydd llun yn sarhaus. Roeddwn i'n eu cymryd fel cyfaddefiad ysgafn gan Lafur o ba mor wael oedd ei ffotosiopio! Yn sicr dwi ddim yn gweld unryw reswm i gymryd y peth gormod o ddifri.

Anoracia

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Iau, 29 Ebrill 2010

Sylwadau (6)

mckenzie1970_150.jpgDim ond y mwyaf anoracaidd o anoracs fydd yn gyfarwydd ag enw Nate Silver. Ystadegydd chwaraeon Americanaidd yw Nate ac ychydig flynyddoedd yn ôl penderfynodd arbrofi i weld a oedd y dulliau yr oedd yn defnyddio i broffwydo canlyniadau gemau pêl fas yn gweithio mewn gwleidyddiaeth.

Y canlyniad oedd gwefansafle sydd wedi trawsnewid darogan gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod yr etholiad hwn mae Nate wedi troi ei lygaid at Brydain ac yn y bôn mae'n racsio rhai o'r dulliau dadansoddol sy'n cael eu defnyddio gan academyddion a darlledwyr y wlad hon, y Ö÷²¥´óÐã yn eu plith.

Cymerwch y swingomedr fel enghraifft. Mae hwnnw wedi bod yn rhan o bob noson etholiad ers i Bob MacKensie afael yn ei gardfwrdd a thap selo yn ôl y pumdegau.

Mae pawb yn ymwybodol nad yw'r hen gyfaill wedi gweithio'n iawn ers y saithdegau. Etholiad 1970 oedd yr olaf mewn gwirionedd lle cafwyd ornest dwy blaid heb fawr o wahaniaethau rhanbarthol. Yn y naw etholiad ers hynny mae'r teclyn, neu fersiwn gyfrifiadurol ohono, wedi ei ddefnyddio i broffwydo canlyniadau gornestau o fath gwbl wahanol i'r rhai y cynlluniwyd ef ar eu cyfer.

Mae teclyn i broffwydo'r canlyniad ar sail yr "Uniform National Swing" i'w gweld ar bron bob un gwefan newyddiadurol. Y gwir amdani, yn ôl Nate, yw bod y peth yn nonsens pur. Yn wir, mae'n tynnu sylw at y ffaith bod rhai o'r modelau yn caniatáu i Lafur, er enghraifft, golli 100% o'i phleidleisiau tra'n ennill 40 sedd!

Nawr dyw e ddim yn bryd eto o ddatgelu'n danteithion fydd 'da ni ar eich cyfer ar y noson fawr ond fe fydd pethau'n wahanol y tro hwn. Pwynt arall sy gen i heddiw.

Mae 'ma rhyw gred gyffredinol o gwmpas bod senedd grog yn anorfod. Rwy'n anghytuno. Gyda gogwydd anghyson, ansicrwydd ynghylch pwy fydd yn troi allan i bleidleisio a llwyth o seddi y bydd hi'n bosib eu hennill gydag oddeutu traean o'r pleidleisiau mae'n ddigon posib y bydd 'na lywodraeth fwyafrifol. Gallai'r mwyafrif hwnnw hyd yn oed fod yn un cysurus.

Gydag wythnos i fynd mae'n rhy gynnar i ddweud. A dyna'r i chi'r tro cyntaf i mi sgwennu'r geiriau hynny ers 1992!

Argraffiadau- Blaenau Gwent

Vaughan Roderick | 15:18, Dydd Mercher, 28 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

nye.jpgUn o'r etholaethau mwyaf difyr a diddorol yn yr etholiad hwn yw Blaenau Gwent wrth i'r Blaid Lafur a Llais y Bobol sgwario lan yn erbyn ei gilydd am y trydydd tro. 3-0 yw hi i Lais y Bobol ar hyn o bryd ond oes gobaith i Lafur adennill ei hen gadarnle y tro hwn? Dyma argraffiadau Carl Roberts.

"Wyt ti eisiau sosej roll?"

Anghofiwch y guacamole a'r pys stwnsh- mae'r naill a'r llall braidd yn egsotig i Flaenau Gwent!

Roedd y cynnig gan yr ymgeisydd Llafur yn un hael ond am resymau amlwg fe wnes i wrthod.

Rwyf ond yn mynd i Lyn Ebwy ar Ddydd Gwener yn ystod etholiadau. Dydd Gwener yw diwrnod y farchnad a chyfle rhy dda i golli i wleidyddion ddadlau eu hachos a'r etholwyr. Dy'ch chi ddim wedi gweld marchnad draddodiadol go iawn os nad ydych chi wedi bod yn Bethcar Street ar Ddydd Gwener.

Ddydd Gwener ddiwethaf roedd hi'n amlwg o'r cychwyn cyntaf bod yr ymgyrch Llafur wedi rhedeg allan o "gas". Yn llythrennol felly. Doedd dim heliwm ar ôl i lenwi'r balŵns ar ei stondin! O safbwynt yr ymgyrch ar y llaw arall mae'r pedal ar y metel

Cyferbyn a'r stondin roedd yr ymgeisydd annibynnol Dai Davies yn ymgyrchu. Dyna yw'r patrwm bob tro yn ôl Mr Davies. Ble bynnag mae fe'n mynd i ymgyrchu fe fydd pobol Llafur yn troi i fyny yn yr un lle.

Mae 'na reswm am hynny. Ymgyrchu am gefnogaeth yr un bobol mae'r ddwy garfan a dyw e ddim bob tro yn amlwg pwy sy'n cefnogi pwy.

Fe welais Nick Smith yr ymgeisydd Llafur yn siarad â gŵr oedd yn gwisgo un o sticeri'r blaid. Fot digon saff, byddai dyn yn cymryd. Dim o gwbwl.

Dywedodd y dyn ei fod yn aelod Llafur ond ei fod wedi pleidleisio dros Peter Law yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Roedd yn bwriadu cefnogi Llafur y tro hwn... "mwy na thebyg".

Ar ddiwedd y dydd felly mae'r frwydr yma fel ffrae deuluol. Dyw e ddim yn syndod felly bod pethau'n suro'n gyflym ac nid son am y sosej rolls ydw i wrth ddweud hynny.

Yn ôl Dai Davies mae Llafur wedi gwneud ymosodiadau personal anerbynniol arno fe. Mae Llafur yn mynnu mai ei record seneddol sy dan y lach nid fe'n bersonol.

Boed hynny'n wir ai peidio mae Dai Davies yn bwriadu taro yn ôl yr un mor galed.

Deng mlynedd ar ôl i'r gwaith dur gau mae pethau'n grasboeth eto ym Mlaenau Gwent!

Danteithion

Vaughan Roderick | 12:57, Dydd Mercher, 28 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

collection_microphone_003.jpg
Mae 'na gan Iain Dale yn y Telegraph yn trafod y ffaith nad yw'r rhyngrwyd, yn groes i bob disgwyl, wedi chwarae rhan bwysig yn yr etholiad.

Doeddwn i ddim yn gwybod tan i mi ei darllen bod y Ceidwadwyr yn mynnu bod pob blog-bost a sylw gan ymgeisydd yn cael eu clirio gan y blaid yn ganolog cyn eu cyhoeddi.

Dydw i ddim yn gwybod ydy'r pleidiau eraill yn gwneud yr un fath ond mae'n ddiddorol nodi mai o flog , nad yw'n ymgeisydd y tro hwn, y tarddodd un o'r ychydig Cymreig o unrhyw bwys i ledu y tu hwnt i'r we. A doedd honno ddim yn lot o stori mewn gwirionedd.

Ta beth, mae 'na bethau difyr i'w darllen a'u gweld yn y rhith-fyd. Dyma rai ohonyn nhw.

Sut mae Nigel Evans yn gwneud yn , tybed? Mae'n debyg nad yw'r sedd mor ddiogel ac oedd hi.

Mae gan Alan Trench ynghylch ymddangosiad Eurfyl ap Gwilym ar Newsnight.

Ac i'n hatgoffa o'r dyddiau pan oedd teledu'n fwy bonheddig dyma ddarllediad gwleidyddol o 1955.

Mae ambell i beth cyfarwydd- sôn am daflu cardiau adnabod i'r bin ysbwriel a chwyno am y nifer o ffurflenni yr oedd yn rhaid i ffermwyr eu llenwi, er enghraifft. Ond a fyddai unrhyw ddarllediad y dyddiau hyn yn cynnwys y frawddeg. "Last Christmas was the gayest we have ever known"?

Rhodri.gifMae'n ymmdangos bod sgandal y lluniau ffug yn ymledu.

Dyma lun o Rhodri Morgan a rhyw un wedi ei wisgo fel gweithiwr adeiladu.

Gyda llaw, os ydych chi am ryw reswm am fy'n ngwylio ar y bocs heddiw rwy'n cadeirio dadl ar y cyfansoddiad ar Ö÷²¥´óÐã2 am 2.15 ac yn cyflwyno CF99 ar 10.00 ar S4C. Gyda lwc fe fydd 'na gyfle i flogio rhwng y ddwy.

Tua'r Dwyrain

Vaughan Roderick | 16:06, Dydd Mawrth, 27 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

Newport_transporter.jpgRwy'n amau nad yw llawer o ddarllenwyr y blog yma'n gyfarwydd iawn â Dwyrain Casnewydd- y "Casnewydd arall" yr ochor draw i'r afon. Wedi'r cyfan, hon yw'r etholaeth gyda'r nifer lleiaf o siaradwyr Cymraeg.

Dyw'r ardal ddim yn anniddorol mae Castell Cil-y-coed, er enghraifft, yn haeddu ymweliad a Rodney Parade yw'r unig le bellach i brofi awyrgylch gem rygbi traddodiadol.

Yn wleidyddol dyw'r etholaeth ddim, gan amlaf, yn cael llawer o sylw. Yr unig dro wnaeth newyddiadurwyr dalu sylw i'r lle mewn gwirionedd oedd etholiad 1997 pan wnaeth Arthur Scargill herio'r cyn-dori Alan Howarth oedd wedi ei barashiwtio i mewn i'r sedd ar y funud olaf.

Mae Dwyrain Casnewydd yn sedd darged i'r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs ond mewn gwirionedd targedi'r sedd yn etholiad cynulliad 2011 oedd y blaid. Ar sail eu profiad yng Nghanol Caerdydd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu, ac rwy'n cytuno, ei bod hi'n haws troi cefnogaeth ar lefel cyngor yn llwyddiant mewn etholiad cynulliad nac mewn etholiad seneddol.

Ennill y sedd cynulliad yn 2011 ac yna'r sedd seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf oedd y cynllun, dybiwn i. Yn sicr, rwyf wastod wedi cael yr argraff mai ym Mae Caerdydd ac nid San Steffan yr oedd yr ymgeisydd, Ed Townsend yn gweld ei ddyfodol.

Ta beth, mae'r blaid yn ymddangos yn fwyfwy hyderus y gallan nhw ennill y sedd y tro hwn. Yn ôl y blaid mae ei ffigyrau canfasio yn awgrymu y bydd hi'n bosib cymryd y sedd mewn un naid, fel petai er bod hi'n bell o fod yn y bag.

Yn bersonol rwy'n amheus ac mae'r bwcis i gyd yn awgrymu mai Llafur yw'r ffefrynnau o hyd. Serch hynny mae'n codi'r posibilrwydd rhyfedd y gallai Llafur golli ei "sedd ddiogel" yng Nghasnewydd tra'n cadw ei "sedd ymylol" yng ngorllewin y ddinas.

Mae rhestr o'r ymgeiswyr yn .

Bore yn y Bae

Vaughan Roderick | 12:26, Dydd Mawrth, 27 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

p994_cowl1.jpgYn ôl i'r bae felly ac awyrgylch swrrealaidd y Cynulliad sy'n dal i eistedd mewn rhyw fydysawd cyfochrog o harmoni gwleidyddol gyda'r aelodau'n gorfod anwybyddu'r stormydd gwleidyddol o'u cwmpas.

Cynhaliwyd y cynadleddau newyddion wythnosol arferol ond, a bod yn onest, doedd dim lot o gnawd ar yr esgyrn.

Dyna i chi sesiwn y Llywodraeth i ddechrau gyda'r gweinidog busnes Jane Hutt. Eisiau son am y "three E's" oedd y gweinidog. "Efficiency" oedd yr "e" gyntaf ac E-procurement oedd yr ail. Roeddwn wedi colli'r Ewyllys i fyw erbyn y trydydd.

Prin ddeg munud barodd sesiwn Nick Bourne gyda'r arweinydd Ceidwadol yn gwrthod llyncu'r abwyd pan ofynnais iddo a ddylai David Cameron barhau i arwain yr wrthblaid pe bai'n colli ar Fai'r 6ed? Mae Nick wedi bod yn y gêm yma'n rhy hir i gwympo am rywbeth felly!

63t.jpgY Democratiaid Rhyddfrydol oedd yr olaf i roi eu pennau ar y bloc gan ddefnyddio hiwmor i geisio dadwneud unrhyw niwed ynghylch yr helynt lluniau. Yn y bôn mae'r blaid yn gwybod ei bod wedi bod braidd yn wirion ond doedd hi ddim yn teimlo felly ar y pryd.

Am ryw reswm mae newyddiadurwyr eraill yn meddwl bod gan y Ö÷²¥´óÐã stoc anferthol o luniau twyllodrus eraill o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Pwy yw fi i'w siomi?

Dyma ddwy wningen fechan.

Fi'n addo mai hwn yw'r llun olaf. Mae'n bosib mynd yn rhy bell a'r jôc!

Fe holwyd Kirsty ynghylch polisi'r blaid o ostwng yr oedran pleidleisio i 16. Roedd Kirsty yn frwd o blaid gan ddadlau y dylai 'r rheiny sy'n ddigon hen i weithio, talu trethi ac ymladd dros eu gwlad gael y bleidlais.

Oedd hynny'n golygu y dylai pobol 16 oed gael yr hawl i brynu alcohol a sigaréts, felly? "Dyw hynny ddim yn y maniffesto" oedd yr ateb.

Dyna ni felly mae pobol yn ddigon aeddfed a chyfrifol yn 16 i bleidleisio, gweithio, talu trethi a marw ar faes y gad. Mae prynu peint neu gael mwgyn yn fater arall.

Danteithion Dydd Mawrth

Vaughan Roderick | 08:18, Dydd Mawrth, 27 Ebrill 2010

Sylwadau (9)

exchange.jpg

Rwyf wedi dweud droeon mai hwn yw'r etholiad cyffredinol mwyaf diddorol fedra i gofio ac mae pobol tu hwnt i'r ynysoedd yma wedi dechrau sylwi. Dyma i chi erthygl gan Denis Campbell ar o un o brif wefannau gwleidyddol America.

Doeddwn i ddim yn y gynhadledd newyddion Llafur ddoe ond mae 'na ddyfyniad rhyfedd iawn gan Peter Hain yn adroddiad Martin Shipton yn y ,

"He added that Plaid Cymru was in danger of "leaving their backdoor open" in the west Wales seats of Llanelli and Carmarthen East by pouring all its resources into Ceredigion, which the nationalists are trying to retake from the Liberal Democrats."

Plaid Cymru'n gadael "drws cefn ar agor" yn Llanelli? Beth ar y ddaear mae hynny'n golygu?

Chwi gofiwch, mae'n sicr Elfyn Llwyd yn cael tipyn o grasfa a'r Dragon's Eye. Fe dalodd Plaid Cymru'r pwyth yn ôl neithiwr ar Newsnight.

Dyma'r munudau perthnasol.

A dyma ddarn bach o Rialtwch etholiadol. Mae'n anghyfreithlon ym Mhrydain i ymgeisydd gynnig diod (hyd yn oed diod feddal) i etholwr. Peidied neb a chopïo gimig yr ymgeisydd yma o Aspen felly!

Arolwg barn... a sibrydion

Vaughan Roderick | 17:14, Dydd Llun, 26 Ebrill 2010

Sylwadau (20)

wispa203body_pa.jpgMae polau'n bethau prin yng Nghymru. Mae'n werth cael golwg ar rhain felly sef y ffigyrau "rhanbarthol" o arolwg Politics Ö÷²¥´óÐã/YouGov.

586 yw'r sampl Gymreig. Mae angen pot o halen Môn felly ond dyma'r ffigyrau o gymharu ag wythnos ddiwethaf.

Llafur 43 33(-9)
Ceidwadwyr 21 26 (dim newid)
Dem. Rhyddfrydol 18 26(+11)
Plaid Cymru 13 8(-2)

Mae'r manylion yn . Roedd y ffigyrau gwreiddiol ar y gwefan yn anghywir er bod y symudiadau'n gywir. Dyna yw'r rheswm am y croesi allan. Diolch i bawb wnaeth dynnu fy sylw at y newid.

A nawr y sibrydion...

Mae Plaid Cymru yn casglu tystiolaeth bod un o'r pleidiau eraill yn dweud wrth etholwyr nad yw Plaid Cymru yn dymuno derbyn pleidleisiau Saeson. Cyhuddiad difrifol iawn ac anodd i brofi os ca' fi ddweud.

Wrth alw heibio yn estyniad dros dro Tŷ Gwynfor sylwais fod arwyddion ac enwau etholaethau arnynt ar nifer o ddrysau caeedig. Beth sydd tu ôl i'r drysau hynny? Banciau Ffon? Deunydd glanhau? Does neb yn dweud. Un cwestiwn arall. Llanelli? Oce. Ynys Môn? Oce. Ond Castell Nedd?

Peter_Black_and_Fox.jpgMae pencadlys y Democratiaid Rhyddfrydol "Rhyddid Canolog" mwy neu lai drws nesaf i un Blaid Cymru.

Roedd y lle'n edrych yn reit dawel heddiw er i mi weld postmon yn galw heibio.

O leiaf rwy'n meddwl mai postmon oedd e! Ar y llaw arall gallwn fod yn sicr mai cadno go-iawn sydd yn y llun yma.

Peiriant Pres

Vaughan Roderick | 13:11, Dydd Llun, 26 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

_40862664_fruit203bbc.jpgDydw i ddim am gymell neb i gamblo ond mae'r stori fach yma'n enghraifft o ba mor amhosib yw'r etholiad yma i'w ddarllen.

Yn ôl ein cyfaill Karl y bwci mae modd y tro hwn i fetio gan fod yn gyfan gwbl sicr o ennill.

Dyma brisiau "Paddy Power" ar gyfer Gorllewin Abertawe; Llafur 4-6, Dem. Rhydd. 11-10

A dyma rhai "Victor Chandler"; Dem Rhydd. 8-11 Llafur 11-10

Fel mae Karl yn dweud, mae modd trwy rannu eich betio rhwng y ddau i fod yn sicr o wneud elw. Fe fyddai buddsoddi £2,000 o bunnau yn sicr o gynhyrchu £2,100. Dim ond £100 o elw yw hynny ond pa mor aml y mae dyn yn gallu bod yn sicr o guro'r bwcis?

Fel dwedais i dwi ond yn cyhoeddi hwn fel prawf o natur agos yr ornest. Un gair arall. BRYSIWCH!

(O.N. Cofiwch, mae hi jyst yn bosib y gallai'r Torïaid ennill yng Ngorllewin Abertawe. Os felly beuwch Karl!)

88t.jpgDyma un bet bach arall.

Fe wna i fentro swllt nad yw'r ffrwgwd ynghylch lluniau ffug/darluniadol y Democratiaid Rhyddfrydol ar ben.

Mae'r papurau Prydeinig yn dechrauac mae mwy o luniau amheus yn ein cyrraedd trwy'r amser.

Mae 'na amheuon, er enghraifft ai iâr go-iawn sydd yn y llun yma ar Eleanor Burnham.

Wrth gwrs fe fydd yn rhaid aros am gyngor arbenigol er mwyn gwybod hyd sicrwydd.

Tynnu lluniau

Vaughan Roderick | 09:49, Dydd Llun, 26 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

police2.jpgNawr mewn sawl ystyr mae'r ffrwgwd ynghylch lluniau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dipyn o storom Awst. Os ydy'r blaid am gasglu set lawn o'r "Village People"- wel, rhwng pobol Pentyrch a'i gilydd!

Wedi'r cyfan mae rhai o'r pleidiau eraill yn defnyddio lluniau o fodelau. Maen nhw'n rhemp ym maniffesto Plaid Cymru, er enghraifft ond yn yr achos hwnnw dyw nhw ddim yn ymddangos mewn lluniau gyda gwleidyddion ac mae'r ddogfen yn nodi bod modelau wedi eu defnyddio.

Ym marn y pleidiau eraill mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesi'r llinell rhwng yr hwn sy'n dderbyniol a'r hyn sy ddim- a nid am y tro cyntaf.

Fe fydd unrhyw un sy'n ymwneud a gwleidyddiaeth yn gyfarwydd â'r ffaith mae'r un peth sy'n uno'r pleidiau (ac eithrio un wrth gwrs) yw eu dirmyg tuag at dactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Er gwir neu er gau, y farn gyffredinol ymhlith y pleidiau eraill yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyson ddefnyddio ystadegau a dyfyniadau camarweiniol a bod hynny'n systematig o fewn y blaid. Hynny yw, nid mater o ambell i gamgymeriad lleol yw'r ffenomen ond rhywbeth sy'n ddwfn yn eu DNA.

Beth yw ymateb y blaid i'r honiad hwnnw? Wel, mae gen i nifer o ffrindiau sy'n Ddemocratiaid Rhyddfrydol ac wrth sgwrsio a nhw ar hyd y blynyddoedd maen nhw'n wirioneddol yn credu yn breifat yr hyn mae'r blaid yn dweud yn gyhoeddus.

Dyw nhw ddim yn gwneud unrhyw beth o le yn eu barn nhw, nac unrhyw beth sy'n wahanol i'r pleidiau eraill. Mae'r pleidiau hynny'n eiddigeddus oherwydd bod aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio'n galetach na selogion y pleidiau eraill a bod eu hymgyrchoedd yn llwyddiannus.

Boed felly ond yng ngeiriau un o hen bennau'r pleidiau eraill "y ffordd orau i osgoi smonach fel hon ym mhob etholiad yw stopio gwneud pethau gwirion".

libdem_fakecopper_willott.JPGO.N Mae'r plismon yn y llun yn ddyn prysur iawn.
Rwyf newydd weld llun arall ohono fe- y tro hwn yn sgwrsio'n ddwys a Jenny Willott. Mae 'na rywbeth sy'n gyfarwydd iawn am y boi.
SOS Galw Gari Tryfan!

Peidiwch gofyn i fi...

Vaughan Roderick | 09:06, Dydd Sul, 25 Ebrill 2010

Sylwadau (4)

ballot_box_bbc203.jpgPeidiwch gwympo oddi ar eich cadair wrth ddarllen y frawddeg nesaf. Un peth sy'n drawiadol am yr etholiad yma yw'r gonestrwydd. Nid gonestrwydd y gwleidyddion ond gonestrwydd y sylwebyddion, y colofnwyr ac academyddion.

Gellir darllen pob colofn, siarad â phob guru ac anorac a dod i'r casgliad mai cyfanswm ffrwyth eu gwybodaeth yw hyn; "Does dim blydi clem 'da ni beth sy'n mynd i ddigwydd".

Fe ddywedodd cyfaill i mi, un o bobol fawr dadansoddi polau Prydeinig, fod y ddadl deledu gyntaf fel yr ergyd gyntaf mewn gem o snwcer. Mae'r peli wedi eu gwasgaru i bobman a neb yn gwybod ymhle y byddan nhw'n diweddu. Un peth yn unig sy'n sicr. Ni fydd y driongl wreiddiol yn ail-ymddangos.

Dw i am drafod yn fan hyn dau senario posib, o'r naill ben a'r llall o'r ystod eang o ganlyniadau. Mae un yn cynnig achubiaeth i Lafur a'r llall yn drychineb iddi.

Daw'r wers fach gyntaf o etholiadau taleithiol yn Ne Awstralia rhyw fis yn ôl. Y disgwyl oedd y byddai Llafur yn colli grym ond ni ddigwyddodd hynny, yn bennaf oherwydd camgymeriad strategol difrifol gan y brif wrthblaid, y blaid Ryddfrydol.

Fe gymerodd y blaid honno yn ganiataol y byddai'n ennill y rheng flaen o etholaethau a chanolbwyntio'i hadnoddau yn yr ail reng y seddi, y rhai oedd yn rhaid eu hennill er mwyn cael mwyafrif. Fe enillwyd y seddi hynny ar y cyfan.

Yn y cyfamser fe wnaeth Llafur arllwys arian mewn i'r rheng flaen- y seddi anoddaf eu cadw. Fe gadwon pedair allan o'r pump gan sicrhau tymor arall mewn llywodraeth.

Fel y blaid Ryddfrydol yn Ne Awstralia mae rhan helaeth o fantais ariannol y Ceidwadwyr yn cael ei buddsoddi mewn seddi ail reng. Mae nifer o'r etholaethau hynny yn rhai lle y gallai ymchwydd ym mhleidlais Y Democratiaid Rhyddfrydol gael effaith.

Mae hynny'n llai tebygol yn y rheng flaen, seddi sydd, ar y cyfan, yn "rasys dau geffyl" go iawn a lle mae'r etholwyr yn gwybod hynny.

Fe ddywedodd un o fois ystafell gefn Llafur wrtha i fis yn ôl nad oedd y blaid yn "ildio modfedd yn un man". Mae'n bosib mai sbin neu siarad gwag oedd hynny ond os ydy Llafur wedi bod yn brwydro'n galed mewn etholaethau lle mae'r Ceidwadwyr yn cymryd buddugoliaeth yn ganiataol... wel, pwy a ŵyr?

I'r eithaf arall nesaf... I Ganada. Nid yn llythrennol wrth gwrs ond i gymryd cipolwg ar etholiad enwog 1993 pan gollodd y blaid lywodraethol 167 o'i 169 sedd. Dros nos fe drodd y Ceidwadwyr o fod yn blaid y llywodraeth i blaid ymylol hynny yn rhannol oherwydd cefnogaeth sylweddol i dan siafins o drydedd blaid o'r enw "Reform".

Nawr mae'n anodd credu y gallai Llafur wneud mor wael â hynny ond y gwir plaen yw bod Llafur wedi bod yn gyson yn y trydydd safle yn y rhan fwyaf o arolygon ers y ddadl deledu gyntaf. Does 'na ddim gwarant na allai pethau waethygu iddi os oes 'na deimlad yn cynyddu bod dyddiau'r blaid fel un o ddwy brif blaid "naturiol" yn dirwyn i ben.

Mae Llafur Cymru wedi bod yn dawnsio wrth ymyl y dibyn hwnnw'n ddiweddar. Yn etholiad cynulliad 2007, er enghraifft, dim ond llond dwrn o bleidleisiau mewn rhes o etholaethau wnaeth wneud i'r canlyniad ymddangos yn barchus i'r blaid.

Y peryg i Lafur yw y gallai hi ddiflannu fel plaid berthnasol o rannau helaeth o Gymru a Lloegr gan awgrymu bod cyfnod hir yn y diffeithwch o'i blaen. Meddyliwch am 1983 ac yna ei lluosi.

Dyna i chi ddau senario, y ddau yn eithafol ac yn annhebygol, ond yn bosib. Mae 'na nifer o rai eraill. P'un sydd fwyaf tebygol o ddigwydd? Fe ychwanegaf fy llais at y rheiny sy'n dweud;"does dim blydi clem 'da fi"!

Yn y cyfamser mae papurau Llundain yn dechrau defnyddio geiriau fel "confidence and supply" a'r "New Zealand option". Deja Vu!

Post Prynhawn

Vaughan Roderick | 17:29, Dydd Gwener, 23 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

yup.jpgMae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur! Rhyw bost wrth fynd heibio yw hwn felly i grynhoi ambell i stori.

Brwydr y taflenni oedd hanfod yr ymgiprys heddiw gyda'r Ceidwadwyr yn cyhuddo Llafur o balu celwyddau ar y taflenni. Rhagor am hynny ar flog David a chewch ddarganfod pam y mae'r Democratiaid wedi bod yn chwarae doctyrs a nyrsys ar flog Betsan.

Cewch glywed Betsan a finnau'r cloriannu'r ymgyrch trwy wrando ar y podlediad sydd hefyd yn cynnwys rhifyn yr wythnos o "Dau o'r Bae". Paul Davies, Dafydd Trystan Mark Cole a Nia Griffith yw'r gwesteion.

Llygaid sgwâr

Vaughan Roderick | 11:42, Dydd Gwener, 23 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

gavel.jpgFe wnaeth ryw dair miliwn a hanner o bobol wylio'r ddadl rhwng Gordon Brown , David Cameron a Nick Clegg neithiwr gyda 2,125,000 yn gwylio Sky a 1,362,000 yn gwylio ar sianel newyddion y Ö÷²¥´óÐã. Mae hynny'n gynulleidfa aruthrol i'r sianeli digidol. Yng Nghymru roedd y gynulleidfa'n 240,000 sy'n deirgwaith cynulleidfa dadl yr arweinwyr Cymreig ar ITV.

Fe gododd Mabon bwynt diddorol mewn sylwad y dydd o'r blaen sef y ffordd nad yw'r cyfryngau yng Nghymru yn talu sylw i raglenni dadlau ei gilydd. Oherwydd hynny meddai dyw'r rhaglenni hynny ddim yn gyrru'r agenda yn yr un modd a'r rhai Prydeinig. Fel mae'n digwydd fe gafodd dadl Gymreig Sky rhywfaint o sylw gan Ö÷²¥´óÐã Cymru ond dim byd cyffelyb i'r dadleuon Prydeinig

Mae'n debyg bod pwynt Mabon yn rhywbeth y bydd yn rhaid ystyried ar gyfer y dyfodol ond mae 'na ffactor arall ar waith, fe dybiwn i.

Y gwir amdani yw does na ddim byd arbennig o newydd ynghylch y dadleuon Cymreig. Mae rhaglenni tebyg wedi cael eu darlledu ers oes pys. Hwyrach na fydd ddadleuon Prydeinig yn y dyfodol yn denu cynulleidfaoedd mor fawr ar ôl colli sglein newydd-deb.


Maths Môn

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Gwener, 23 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

wtb_llanfairpwll340.jpgUn o ganlyniadau twf y pleidiau llai a'r nifer cynyddol o ymgeiswyr annibynnol yn etholiadau cynulliad yw bod hi'n bosib ennill sedd etholaeth gyda chefnogaeth canran fechan iawn o'r bleidlais. Etholwyd Lesley Griffiths yn Wrecsam er enghraifft gyda 28.8% o'r bleidlais.

Dydw i ddim am fynd trwy bob tudalen o "Etholiadau'r Ganrif"- beibl ystadegol Beti Jones ond rwy'n amau nad oes aelod seneddol wedi ei ethol yng Nghymru gyda chanran mor fach o'r bleidlais. Rwy'n amau hefyd y gallai hynny ddigwydd y tro yma a'r sedd sydd gen i mewn golwg yw Ynys Môn.

Enillodd Albert Owen dro diwethaf gyda 34.6% Plaid Cymru oedd yn ail gyda 31.1%. Derbyniodd Peter Rogers a'r Ceidwadwyr canrannau yn yr arddegau gyda'r Democrat Rhyddfrydol yn bumed gyda 6.8%, un o'u canlyniadau gwaethaf ym Mhrydain.

Mae'r arolygon Prydeinig yn awgrymu bod y cynnydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o gwmpas 10%. Os ydy hynny'n digwydd ym Môn mae'n hawdd dychmygu ymgeisydd yn ennill ar yr yn ynys gyda llai na 30%.

Beth am fynd un cam ymhellach a gwneud un o'r proffwydoliaethau "jyst am sbort" yna fel y rhai yr oedd Peter Snow yn gwneud ar raglenni isetholiad ers talwm? Chi'n cofio nhw, rwy'n siŵr- y proffwydoliaethau yna oedd yn dangos y byddai rhyw blaid neu'i gilydd yn ennill pum cant o seddi ar sail gogwydd mewn isetholiad.

Beth os oedd y symudiadau a awgrymwyd yn arolwg YouGov/ITV Cymru yn cael eu hadlewyrchu ym Môn? Dyma fyddai'n digwydd.

Plaid Cymru; 27.5
Llafur; 24.9%
Dem. Rhydd.; 17.4%
Annibynnol; 14.7%
Ceidwadwyr; 12.6%

Fel dywedais i. Jyst am sbort ac os ydy'r Democrataid Rhyddfrydol yn defnyddio'r ffigyrau yna ar gyfer "bar chart" fe wna i siwio!

Mae rhestr o'r ymgeisywr yn .

Chwifio'r Faner Goch

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Iau, 22 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

Sputnik_Poster_Soviet.jpgDyma i chi gwestiwn bach. Pwy yw'r unig Gymro Cymraeg sy'n arwain plaid Brydeinig. Un i'r anoraks, efallai.

Yr ateb yw Robert Griffiths, ysgrifennydd cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Prydain ac ymgeisydd y blaid honno yn Ne Caerdydd a Phenarth.

Nawr efallai y byddai rhai yn meddwl bod Rob yn bwrw ei ben yn erbyn wal brics ond mae'n gwneud hynny gydag egni ond hefyd gyda hawddgarach a hiwmor sydd ddim bod tro yn cael eu cysylltu â phleidiau ar y cyrion.

Yn wir mae Rob mor hoff o ddadlau ei achos nes i'r blaid drefnu dadl ei hun yn Sblot gan wahodd ymgeiswyr y pleidiau eraill. Mae Alun Michael o Lafur, y Democrat Rhyddfrydol, Dominic Hannigan ac ymgeisydd y Gwyrddion, Matthew Townsend wedi derbyn y gwahoddiad.

Dyw hi ddim yn syndod efallai y bydd y Ceidwadwyr yn absennol!

Yn ôl ymgeiswyr o bob lliw a phob llan mae cyfarfodydd amlbleidiol yn fwyfwy cyffredin er mai eglwysi ac elusennau ac nid pleidiau sy'n eu trefnu gan amlaf.

Gyda'r holl sylw ar y dadleuon teledu mae 'na rywbeth braf yn y ffaith bod gwleidyddiaeth unwaith yn rhagor yn cael ei drafod yn y festri a'r neuadd bentref ar ôl degawdau digon hesb i gyfarfodydd cyhoeddus gwleidyddol.

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr De Caerdydd a Phenarth yn .


Hanner Ffordd

Vaughan Roderick | 11:37, Dydd Iau, 22 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

foolproofcheesesouff_65612.jpgDyma ni felly wedi cyrraedd hanner ffordd yn yr ymgyrch etholiadol mwyaf diddorol a difyr ers, wel, ers 'dwn i ddim pryd.

Dydw i ddim yn meddwl fy mod yn gor-ddweud chwaith wrth hawlio y bydd y dyddiau nesaf yn rhai tyngedfennol. Mae'r papurau'r rheiny sy'n pledidleiso trwyr post ar fin cael eu dosbarthu. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol felly ar fin gallu bancio peth o'r ymchwydd yn eu cefnogaeth. Y cyfan sydd angen yw cadw'r ddisgyl yn wastad ym ychydig ddyddiau.

Y cwestiwn mawr yw hwn. Ydy patrwm yr etholiad wedi ei osod neu, i ddefnyddio cymhariaeth Nick Bourne, a fydd y soufflé felen yn dechrau suddo cyn i'r bleidlais gyntaf gael ei bwrw?

Mae magnelau mawrion Fleet Street wedi tanio'r bore 'ma ond tamaid i aros pryd yw hynny mewn gwirionedd. Yng Nghaerodor heno y bydd y loddest. Fel un o Gaerdydd rwy'n rhannu rhagfarnau fy nghyd-ddinasyddion gan gredu mai'r unig beth da i ddod allan o Fryste yw'r stemar i Benarth. Serch hynny fe fydd fy llygaid i, a'ch rhai chi, rwy'n tybio, wedi eu hoelio ar y teledu.

Un peth sy'n rhyfedd heno. Dyw'r digwyddiad ddim yn un a o arbennig o bwysig i Gordon Brown. Fe fyddai osgoi trychineb yn ddigon da i'r Prif Weinidog. Mae'r stêcs llawer yn uwch i'r ddau arweinydd arall.

Cofiwch fe ddywedodd un Llafurwr rywbeth diddorol wrtha i'r dydd o'r blaen. "Jyst meddylia," meddai "ble y gallai Llafur fod pe bai rhywun fel Alan Johnson yn ein harwain". Mae'n rhy hwyr i feddwl am bethau felly, bois. Mae'r gwely hwnnw wedi hen gyweirio er da neu er drwg.

Yn y cyfamser mae ymddiriedolwyr y Ö÷²¥´óÐã wedi gwrthod cwynion Plaid Cymru a'r SNP ynghylch y dadleuon. Gellir darllen y dyfarniad yn fan hyn.

Hwn a'r llall

Vaughan Roderick | 16:01, Dydd Mercher, 21 Ebrill 2010

Sylwadau (12)

transmitter_bbc226.jpgRhoddwyd llawer o sylw i ffigyrau gwylio sylweddol y ddadl deledu gyntaf rhwng Gordon Brown, David Cameron a Nick Clegg. Chwi gofiwch, mae'n siŵr, bod 9.4 miliwn wedi gwylio'r rhaglen ar gyfartaledd a bod 450,000 o'r rheiny yng Nghymru.

Beth am y dadleuon Cymreig? Gan mai dim ond ar "Sky News" y darlledwyd y gyntaf digon bychan oedd y gynulleidfa mae'n debyg. Ond beth am y ddadl ar ITV neithiwr- y ddadl sy'n cyfateb yn uniongyrchol i'r ddadl Brydeinig gyntaf.

Fe wyliodd 87,000 o bobol y ddadl neu chwech y cant o'r rheiny oedd yn gwylio teledu ar y pryd. Roedd 358,000 yn gwylio "Traffic Cops" ar Ö÷²¥´óÐã 1, 112,000 yn gwylio "Great Ormond Street" ar Ö÷²¥´óÐã2 a 24,000 yn gwylio "Llwch Folcanig- yr argyfwng" ar S4C.

Mae ambell i daflen etholiad wedi fy nghyrraedd. Da o beth yw gweld bod ymgyrch Elin Jones yn mynd mor dda yng Ngheredigion. Mae'n rhaid mai hi yw ymgeisydd Plaid Cymru. Wedi'r cyfan mae hanner dwsin o luniau ohoni ar daflen ddiweddaraf y blaid a dim un o Penri James. "Last minute subsitution" mae'r rhaid!

Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod etholaeth Aberconwy wedi tyfu'n rhyfeddol. Yn ôl taflen Geidwadol mae'n cynnwys "Dyffryn Clwyd i gyd ynghyd a'r arfordir mwy poblog o Fae Penrhyn i Lanfairfechan". Rwy'n cymryd mai Dyffryn Conwy oedd y daflen i fod i ddweud. Beth yw ambell i afon rhwng ffrindiau?

Llafur Cariad

Vaughan Roderick | 15:07, Dydd Mercher, 21 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

eros-bbc150.jpg"Helo Sian. Shwd mae, ers talwm?" Pwy yw Sian? Wel Sian Lloyd neu Sian y tywydd fel mae'n cael ei hadnabod.

Pam ddweud 'helo' wrthi yn fan hyn? Wel oherwydd bod Sian wedi gwneud y cyfaddefiad yma tra ar ymweliad a Cheredigion dros y Sul; "Rwy'n gymaint o anorac - rwy'n darllen y blogs yn feunyddiol bob noswaith am ddwy awr".

"Helo Sian" felly ac ymddiheuriadau am fod ychydig ar ei hol hi gyda'r stori yma!

Er bod Sian yn mynnu ei bod yn y sir "i roi llond sach o ddillad designer i siop hosbis Ffagl Gobaith yn Aberystwyth" ymgyrchu dros Blaid Cymru oedd y gwir reswm. Sylwer, mai yng Ngheredigion ac nid Maldwyn oedd hi! Ei sylwadau ynghylch etholaeth arall wnaeth ddiddori fi.

Gofynnwyd i Sian a fyddai hi'n mentro i fyd gwleidyddiaeth ei hun rhywbryd. Dyma ei hateb; "Aaaa ... pwy a ŵyr? Mae Castell Nedd, o le fi'n dod, yn etholaeth hynod o ddiddorol ac mi all fod hyd yn oed yn fwy diddorol yn y blynyddoedd a ddaw..."

Sedd Peter Hain yw Castell Nedd wrth gwrs. Fel mae'n digwydd Peter wnaeth gyflwyno Sian i'w gwr Jonathan Ashman yn ei dderbyniad GwÅ·l Ddewi yn San Steffan.

Yn wir, mae Ysgrifennydd Cymru wedi brolio ei fod wedi chwarae "Cupid" i'r ddau!

Sian fach, ai dyna sut mae ad-dalu duw'r cariadon?

Gwely a Brecwast

Vaughan Roderick | 13:23, Dydd Mercher, 21 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

_36625023_bigben_bbc150.jpgFe gaeodd enwebiadau ar gyfer yr etholiad ddoe ac os edrychwch chi ar wefannau'r cynghorau fe wnewch chi sylwi ar un newid bach ers yr etholiad diwethaf.

Am y tro cyntaf mae hawl gan ymgeiswyr i ofyn i'w cyfeiriadau cartref beidio gael eu cyhoeddi ar y rhybudd etholiad a phapurau pleidleisio. Yn lle hynny mae'r dogfennau perthnasol ond yn enwi'r etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn byw.

Mae nifer o ymgeiswyr wedi cymryd mantais o'r newid. Ar Ynys Môn, er enghraifft, mae pedwar o'r saith ymgeisydd sef David Owen, Dylan Rees, Anthony Ridge Newman a Matt Wood wedi dewis peidio cyhoeddi eu cyfeiriadau. Mae Elaine Gill, Albert Owen a Peter Rogers ar y llaw arall yn cyhoeddi eu cyfeiriadau cartref.

Nawr, ar yr olwg gyntaf mae'r newid bach yma'n ymddangos yn rhesymol fel rhan o ymgais i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch teuluoedd yr ymgeiswyr. Ar y llaw arall roedd y newid yn ddadleuol. Pleidleisiodd TÅ·'r Cyffredin o'i blaid y llynedd, wythnosau'n unig cyn i'r helynt dreuliau ffrwydro.

Roedd y wybodaeth am gyfeiriadau o etholiadau'r gorffennol yn rhan o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd gan newyddiadurwyr i ganfod camymddwyn, yn enwedig achosion o "fflipio", yn ystod yr helynt hwnnw. Ar y pryd cafwyd cyhuddiadau bod y newid yn y gyfraith yn rhan o ymdrech gan rai i gelu camymddwyn.

Un ffaith fach ddiddorol i chi. Dim ond ymgeisiwyr mewn etholiadau seneddol sy'n cael y fraint yma, os braint mohoni. Mae ymgeiswyr mewn etholiadau eraill o hyd yn gorfod caniatáu cyhoeddi eu cyfeiriadau llawn.

Colli Iaith

Vaughan Roderick | 15:23, Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2010

Sylwadau (4)

leightonandrews.jpgI ffwrdd o'r bwrlwm etholiadol mae'r cynulliad yn cwrdd heddiw gan gofio, yng ngeiriau Dafydd Elis Thomas bod 'na "ddim etholiad yn digwydd yn fan hyn".

Busnes fel arfer, felly, a busnes reit bwysig hefyd gyda'r llywodraeth yn cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer addysg Gymraeg.

Roedd hon yn garreg filltir bwysig i'r Gymraeg yn ôl y Gweinidog Addysg Leighton Andrews. Yn sicr roedd heddiw yn garreg filltir bersonol i Leighton, sy'n ddysgwr, wrth iddo ddewis traddodi'r cyfan o'i ddatganiad hirfaith yn yr iaith.

Pam ar y ddaear felly y gwnaeth llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, sy'n Gymro Cymraeg naturiol, ddewis ymateb yn Saesneg?

Deryn Bach

Vaughan Roderick | 13:46, Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

seagull_bbc_203.jpgFe gofiwch chi i Elin Gwilym flogio rai dyddiau yn ol ar y blog hwn ynghylch y frwydr etholiadol yn sedd Aberconwy. Fegrybwyllodd Elin i wylan ollwng ei llwyth ar ben yr ymgeisydd Ceidwadol, Guto Bebb tra yr oeddent yn ffilmio cyfweliad.

Nawr, yn draddodiadol, mae hyn i fod yn arwydd o lwc dda ond nid felly y mae Guto Bebb yn ei gweld hi! Mae yntau'n awyddus i ni ei gwneud yn glir - yn groes i'r hyn y synhwyrodd Elin (a chyda chryn reswm o fod wedi gweld y llunie!) - na adawodd unrhyw un o wylanod Conwy farc o fath yn y byd arno. Boed hynny felly. Mae yntau hefyd am i ni danlinellu'r ffaith iddo gytuno i wneud y cyfweliad cyn cyrraedd Conwy.

Chocs Awe

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

cambrian.jpgBlog gwleidyddol yw hwn. Dydw i ddim wedi bod yn talu lot o sylw i weddill y newyddion yn ddiweddar ond mae'n debyg bod 'na rhyw drafferthion wedi bod yn ein meysydd awyr. Rhywbeth i wneud a llosgfynydd, os deallaf yn iawn.

Ta beth mae dau* aelod cynulliad yn gaeth yn America ac yn ôl Carwyn Jones does 'na ddim cynllun i hela cwch i'w cludo yn ôl. Aelodau Llafur yw'r ddau fel mae'n digwydd.

Tan yn ddiweddar fe fyddai'r sefyllfa wedi bod yn ddigon hawdd i ddelio a fe. Fe fyddai'r chwipiaid wedi trefnu pario'r aelodau a dau aelod o feinciau gwrthbleidiau.

Yn anffodus i'r llywodraeth, ar ôl ei phenodi yn brif chwip Llafur y llynedd penderfynodd Janice Gregory y dylai trefniadau pario fod yn bethau prin o hynny ymlaen. Rhwystro Alun Cairns rhag treulio gormod o amser yn ymgyrchu ym Mro Morgannwg oedd ei chymhelliad yn nhyb rhai.

Os felly mae'n sicr y bydd Alun a gwen ar wyneb o wybod mae'r ddau aelod alltud yw Gwenda Thomas... a Janice Gregory!

O son am hedfan fe fydd 'na gyhoeddiad ynghylch gwasanaeth y Fali (yr un dydyn ni ddim yn cael galw'n Ieuanair) yn fuan iawn. Yn ôl y llywodraeth mae nifer sylweddol o gwmnïau wedi dangos diddordeb mawr yn y gwasanaeth.

Mae hynny'n godi cwestiwn diddorol. Pam na cheisiodd yr un o'r cwmnïau hynny am y cytundeb rhai misoedd yn ôl?

*ON; Mae pethau'n waeth nac oeddwn i'n meddwl! Rwyf newydd glywed bod Brian Gibbons a Christrine Chapman hefyd dramor.

Drychwch ar hyn

Vaughan Roderick | 19:14, Dydd Llun, 19 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

Mae'n debyg eich bod wedi gweld canlyniadau arolwg YouGov/ITV Wales erbyn hyn. Jyst rhag ofn dyma nhw eto o gymharu â'r arolwg Cymreig diwethaf mis yn ôl.

Llafur 33 (- 4)
Ceidwadwyr 23 (- 6)
Plaid Cymru 9 (- 5)
Dem. Rhyddfrydol 29 (+ 17)

Mae'n fwy diddorol efallai i gymharu nhw a chanrannau'r bleidlais yn etholiad 2005.

Llafur 33 (-9.7)
Ceidwadwyr 23 (+1.6)
Plaid Cymru 9 (-3.6%)
Dem. Rhyddfrydol 29 (+ 10.6)

Ar lefel Brydeinig mae Llafur yn credu bod y cynnydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o gymorth iddyn nhw. Efallai bod hynny'n wir. Yng Nghymru mae pethau'n fwy amwys gyda gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr o dros bump y cant.

O safbwynt Plaid Cymru mae 'na wobr gysur yn yr arolwg yma. O safbwynt sawl pleidiwr fe fydd hwn yn cael ei weld fel "slam-dunk" o brawf o ba mor annheg y mae'r dadleuon teledu. Fe fydd yn ddiddorol gweld sut mae ymddiriedolwyr y Ö÷²¥´óÐã yn ymateb.

Diweddariad; Yn sgil cyhoeddi'r arolwg mae Plaid Cymru wedi gwneud cwyn ffurfiol ynghylch dadl ITV i OFCOM. Mae'r corff hwnnw ond yn gallu dyfarnu ynghylch rhaglen ar ôl iddi gael ei darlledu. Dim ond dadl ITV y gellir cwyno amdani hyd yma felly.

Coch a melyn a gwyrdd a glas

Vaughan Roderick | 15:46, Dydd Llun, 19 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

130-126big-brother-is-watching-you-posters-thumb-250x318-24090.jpgDyma gyfrinach fach i chi. Mae'n gas gan nifer o hen bennau'r pleidiau bosteri. Nid posteri ffenest nac ychwaith yr hysbysfyrddau masnachol ond y posteri gardd.

Prin yw'r dystiolaeth eu bod yn cael unrhyw effaith os nad oes 'na gannoedd ohonyn nhw. Maen nhw'n cymryd amser i'w gosod ac yn fynych mae'n rhaid gwneud hynny mwy nac unwaith wrth i fandaliaid/ selogion ymgeiswyr eraill eu difrodi.

Pam eu defnyddio o gwbl, felly? Dau reswm.

Yn gyntaf mae gwrthod cynnig gan etholwr i osod poster yn ei ardd yn gallu pechu'r person hwnnw. Dyw gwrthod ffafr ddim yn ennill ffrind.

Yr ail broblem yw bod pob plaid arall yn teimlo'r angen i ymateb os oes un blaid yn dechrau gosod posteri.Mae rhyw fath o ras arfau'n datblygu rhwng y pleidiau lle mae ennill y rhyfel bosteri bron cyn bwysiced ac ennill y sedd.

Am y rheswm hynny, y duedd yw bod posteri naill ai i'w gweld ym mhobman mewn etholaeth neu'n bethau digon prin. Dyw diffyg posteri ddim yn golygu o reidrwydd nad oes'na frwydr gystadleuol mewn etholaeth arbennig.

Un gair bach arall. Cyfri posteri yw'r ffordd waethaf posib o broffwydo canlyniad etholiad- yn enwedig os ydych chi'n cyfri posteri mewn cloddiau caeau. Fe wnaeth un sylwebydd gwleidyddol ddrwg difrifol i'w enw da trwy broffwydo mwyafrif i Lafur o ddeng mil mewn isetholiad Cymreig ar sail cyfri posteri. Roedd yr adwy'n agosach at ddwy fil ar ddiwedd y dydd. Nid fi oedd y sylwebydd hwnnw gyda llaw!

Bod yn neis

Vaughan Roderick | 11:45, Dydd Llun, 19 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

chris_bryant_2.jpg"Nice man, charming wife, no policies". Dyna oedd disgrifiad Chris Bryant o Nick Clegg y bore 'ma wrth i fawrion y Blaid Lafur drafod hynt a helynt yr ymgyrch gyda'r wasg.

Fe roddodd Carwyn Jones a Jane Hutt ychydig mwy o gig ar y fath o arfau y maen nhw'n paratoi eu defnyddio yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn eu plith mae'r ffaith bod y blaid wedi gwrthwynebu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn ogystal â "llanast" honedig y cynghorau y mae'r blaid yn eu harwain.

Cofiwch, dyw hi ddim yn eglur y bydd yr arfau'n cael eu defnyddio. Hyd yma mae Llafur o'r farn bod yr ymchwydd yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio o'i phlaid.

Mae'r rheswm am hynny i'w gweld ar safleoedd seffolegol sy'n darogan mai Llafur fyddai'r blaid fwyaf mewn senedd grog pe bai'r patrwm presennol yn parhau. Y Ceidwadwyr oedd a'u trwynau ar y blaen cyn y ddadl deledu cyntaf.

Yn y cyfamser mae 'na un elfen sydd yn gwneud hi'n anodd iawn i ddarllen perfeddion yr etholiad yma. Fe ddywedodd rhywun mai hwn yw etholiad cyntaf "cenhedlaeth X-Factor" ac mae Nick Clegg yw'r SuBo wleidyddol.

Yn sicr o ddarllen manylion yr arolygon barn mae'n amlwg mai ymhlith yr ifanc y mae'r symud mwyaf wedi bod ac fel dywedodd un sinig "a fydd y rheiny'n pleidleisio ar ôl canfod nad oes modd gwneud hynny trwy decstio?"

Yn ôl ym Mis Mawrth fe gyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol adroddiad yn awgrymu mai dim ond 44% o bobol rhwng 17 a 24 sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Fe fydd y ffigwr hwnna wedi cynyddu byddai dyn yn tybio. Serch hynny mae'n reit frawychus.

Beth pe bai...

Vaughan Roderick | 09:42, Dydd Sul, 18 Ebrill 2010

Sylwadau (4)

_44677238_ballotbox_bbc226.jpgNawr mae hwn yn "be bai" go fawr ond beth os oedd y cynnydd yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau tan Mai'r 6ed? Beth fyddai effaith hynny ar y map etholiadol yng Nghymru?

Y peth cyntaf i ddweud nad yw'r cynnydd yn gwneud y seddi mae'r blaid yn eu dal eisoes (ac eithrio Canol Caerdydd) yn gwbl ddiogel. Mae o gymorth, wrth reswm, ond mae etholaethau gwledig Cymreig yn gallu bod yn eithriadau i batrwm cyffredinol. Dyna'r rheswm yr oedd y Gymru wledig yn beiriant cynnal bywyd i'r Rhyddfrydwyr am gyhyd.

Gan roi'r rheiny i'r naill ochor felly pa mor bell y gallai llanw melyn fynd? Yr ateb yw dim yn bell iawn, dybiwn i. Fe fyddai Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd, y ddwy sedd darged, o fewn eu cyrraedd. Ar ôl hynny mae'n rhaid crafu pen ychydig.

Un posibilrwydd yw Wrecsam lle mae'r blaid yn arwain y cyngor. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail yno yn 2005 ond fe dderbyniodd Ian Lucas 46% o'r bleidlais y tro hwnnw. Fe fyddai angen cythraul o ogwydd o Lafur ynghyd a bron pob un bleidlais dactegol bosib i'w chipio.

Fe fu Democratiaid Rhyddfrydol Caerdydd mewn penbleth am sbel yn sgil ennill Canol Caerdydd ynghylch pa etholaeth i'w thargedi nesaf. Roedd rhai yn credu mai Gogledd Caerdydd fyddai'r fwyaf ffafriol dros gyfres o etholiadau ond yn y diwedd penderfynwyd mai De Caerdydd a Phenarth fyddai'r targed seneddol a chynulliad er bod y blaid yn dal i dargedu wardiau unigol yn yr etholaethau eraill.

Unwaith yn rhagor mae'n anodd gweld hon yn mynd. Derbyniodd Alun Michael bron i hanner y pleidleisiau tro diwethaf a'r Torïaid oedd yn ail o drwch blewyn. Mae'r bleidlais Geidwadol ym Mhenarth yn ymddangos yn un soled i mi ac mae cynlluniau ad-drefnu ysgolion y cyngor yn boenus o amhoblogaidd yn nwyrain yr etholaeth. Am unwaith, dyw'r ffrae honno yn ddim byd i wneud ac addysg Gymraeg, gyda llaw!

Y tu hwnt i'r pedair sedd bresennol a'r ddwy sedd darged mae'n anodd gweld lle y gallai'r blaid ennill felly.

Ar ôl dweud hynny mae pethau rhyfedd yn gallu digwydd yn yr hyn mae'r Americanwyr yn galw'n "wave election" sef etholiad lle mae 'na don o gefnogaeth i blaid yn nyddiau olaf yr ymgyrch.

Un sedd lle dylai Llafur wylio'i chefn yw Pontypridd. Mae'r etholaeth honno wedi gweld newid cymdeithasol sylfaenol dros y chwarter canrif ddiwethaf. Go brin y gellir ei hystyried yn un o etholaethau'r cymoedd bellach gyda rhannau helaeth ohoni yn debycach i faestrefi Caerdydd. Yn wir, yn 2005 roedd canlyniad Pontypridd yn debycach i un Gorllewin Caerdydd nac oedd e i rai etholaethau cyfagos eraill megis Cwm Cynon, Merthyr a'r Rhondda.

Problem y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhontypridd yw bod ei ymgeisydd Mike Powell yn "marmite" o ddyn. Mae bron pawb yn ei nabod ond tra bod rhai yn dwli arno mae eraill yn ei ddrwg-licio gyda'r un arddeliad.

Dylai Llafur ennill Pontypridd yn hawdd ond, fel y dwedais i, mae angen i fy nghyfaill Owen Smith wylio ei gefn. Wedi cyfan fe fyddai colli Ponti ar ôl colli Blaenau Gwent yn gythraul o beth. Go brin y byddai 'na dri chynnig i Gymro mewn achos felly!

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr Pontypridd ar gael yn ar wefan Ö÷²¥´óÐã Cymru yn

Dim Clem

Vaughan Roderick | 10:01, Dydd Sadwrn, 17 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

_40998345_50_clementdavies.jpg"Byswn i wrth fy modd yn fotio i chi ond fedra i ddim bradychu Clem. Fe fyddai'n troi yn ei fedd!" 1992 oedd yr etholiad, rwy'n meddwl, a Maldwyn oedd yr etholaeth lle wnaeth ymgeisydd aflwyddiannus glywed y geiriau yna gan etholwraig.

Clement Davies oedd "Clem" ac roedd wedi bod yn ei fedd ers deng mlynedd ar hugain pan fynegodd etholwraig Maldwyn ei theyrngarwch iddo. Ef oedd Aelod Seneddol Maldwyn o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1962.

Mewn sawl ystyr mae Clem yn ffigwr trasig. Collodd tri o'i bedwar plentyn, yn ei llawn dwf, o fewn cyfnod o ddwy flynedd ac roedd yn byw ei fywyd dan gysgod y botel. Roedd yn ddyn heb fawr o garisma ac ym marn llawer roedd ei drwyn gwleidyddol yn drychinebus.

Pam sôn am Clem? Wel oni bai amdano fe, go brin y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bodoli heddiw.

Yn 1945 cafodd ei ddarbwyllo i fod yn arweinydd "dros dro" ar y Blaid Rhyddfrydol. Doedd e ddim eisiau'r swydd ond doedd gan y blaid neb arall, mewn gwirionedd. Fe gytunodd i afael yn yr awenau am gyfnod byr nes i ryw un fwy abl gael ei ethol i'r senedd i gymryd ei le. Fe barodd y "cyfnod byr" am un mlynedd ar ddeg.

Dau beth a dau beth yn unig sy'n nodweddi ei gyfnod fel arweinydd. Y cyntaf oedd cyfres o etholiadau trychinebus lle bu bron i'r blaid ddiflannu o'r tir. Yr ail oedd ei benderfyniad i wrthod gwahoddiadau mynych Churchill i uno'i blaid a'r Ceidwadwyr. Doedd hyd yn oed y cynnig o sedd yn y cabinet ddim yn ddigon i'w ddarbwyllo i aberthu annibyniaeth plaid yr oedd fe ei hun wedi ei chefni arni am gyfnod yn y tridegau.

Olynwyr Clem wnaeth lwyddo i adfer ychydig o'r mawredd a fu i'r Blaid Ryddfrydol. Ar ddau achlysur, yn 1974 a 1983, mae hi wedi ymddangos fel pe bai ar fin ail-sefydlu ei hun fel prif blaid go iawn. Nawr, y penwythnos hwn, am ychydig ddyddiau o leiaf, mi ydyn ni yn yr un sefyllfa eto.

Amser a ddengys a fydd "sbeic" y Democratiaid Rhyddfrydol yn diflannu cyn gynted ag y daeth hi. Mae 'na ddwy ddadl i fynd, wedi'r cyfan ac mae magnelau'r pleidiau eraill yn cael eu troi'n araf i wynebu ffosydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Serch hynny, fe fyddai Clem yn rhyfeddu o weld y polau. Fe fyddai'n hapus hefyd, rwy'n amau, o glywed sut gwnaeth Nick Clegg ddathlu ei lwyddiant yn y ddadl- gyda gwydred o win coch a sigaret. Jyst fel Clem.

Mae'r frwydr ym Maldwyn wrth gwrs yn un hynod ddiddorol y tro hwn. Fe fydd llawer o raglenni Ö÷²¥´óÐã Cymru "ar daith" yn y Trallwng Ddydd Llun. Galwch draw!

Ar y ward

Vaughan Roderick | 17:11, Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

clegg.jpgEfallai nad yw Nick Clegg yn gyfarwydd â newyddiadurwyr yn syllu'n ofalus ar bob gair sy'n dod o'i enau- y fath o scriwtini mae Gordon Brown a David Cameron yn dioddef yn ddyddiol. Efallai y bydd angen iddo ddewis ei eiriau'n fwy gofalus o hyn ymlaen.

Gadewch i ni edrych ar un peth ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddadl neithiwr.

Yn ystod y drafodaeth ynghylch mewnfudo disgrifiodd Mr Clegg ymweliad ag "ysbyty plant" yng Nghaerdydd. Ysbyty'r Brifysgol yn y Mynydd Bychan oedd yr ysbyty hwnnw. Dyma ddisgrifiad Nick Clegg o'r hyn ddigwyddodd.

"There was a ward standing completely empty, though it had the latest equipment. I said to the ward sister 'What's going on? Why are there no babies being treated?' She said 'New rules mean we can't employ any doctors from outside the European Union with the skills needed'. That's an example of where the rules are stopping good immigration which actually helps our public services to work properly."

Beth sydd gan yr ysbyty i ddweud? Wrth reswm, dydyn nhw ddim am fod yn rhan o ffrae etholiadol ond does 'na ddim "ward standing completely empty" yn adran blant y Mynydd Bychan. Yr hyn sydd 'na yw pedwar crud sy'n wag mewn ward o drideg pedwar.

Yn ôl yr ysbyty fe benderfynwyd yn 2009 i gadw'r crudau'n wag oherwydd prinder meddygon arbenigol addas. Mae'r ysbyty yn cadarnhau bod hynny'n broblem trwy Brydain yn y maes arbennig yma.


Mesurau Argyfwng

Vaughan Roderick | 16:11, Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

mohammad_asghar.jpgMae'n ddealladwy efallai bod ambell i Geidwadwr (a Llafurwr o ran hynny) yn siomedig ynghylch y ddadl deledu ond oes gwir angen ymateb mor eithafol?

Mae datganiad newydd ein cyrraedd gyda'r pennawd yma; "ASGHAR BACKS ANALOGUE TV RECYCLING." Yn ôl Oscar "It is important that old unwanted televisions are recycled."

Oscar bach ! Doedd e ddim mor wael a hynny!

Ta beth, mae 'na ragor o ddadleuon i ddod. Dadl Gymreig Sky News sydd nesaf mae honno'n cael ei darlledu'n fyw am 10.30 fore Sul gyda Peter Hain, Ieuan Wyn Jones, Cheryl Gillan a Kirsty Williams yn cymryd rhan. Gyda llaw cyn i neb gwyno am yr amseriad, yn ystod y dydd ac nid fin nos y mae cynulleidfaoedd mwyaf y sianeli newyddion.

O'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd, cartref arfaethedig Cynulliad '79, y bydd y ddadl yn dod. Mae'n siambr wych ac mae'n bosib bod SKY yn gobeithio arbed ceiniog neu ddwy. Y tro diwethaf i mi edrych roedd y goleuadau teledu a osodwyd yn y siambr yn y saithdegau ar gyfer y Cynulliad dal yno ac yn dal i weithio.

Mick Mas

Vaughan Roderick | 14:16, Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

mickbates_ld_conf_grab_226.jpgFe ddylai heddiw fod yn ddiwrnod i'r brenin i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil perfformiad Nick Clegg ar y ddadl deledu. Yn anffodus roedd aelodau'r blaid yn gwybod bod 'na gwmwl ar y gorwel. Doeddwn i ddim yn gallu dweud hyn ddoe ond roedd 'na reswm am lansiad byrfyfyr a di-nod maniffesto Cymreig y blaid.

Heddiw oedd y lansiad i fod. Cafodd ei hail-drefnu ar ôl i'r blaid glywed bod Mick Bates wedi ei alw i swyddfa'r heddlu heddiw. Ychydig funudau yn ôl fe ryddhaodd y blaid y datganiad yma;

"This afternoon, Mick Bates was told by South Wales Police that he will be summonsed at a future date for various offences following an incident in Cardiff on 20th January.

"The Welsh Liberal Democrats regard this matter with the utmost seriousness. Therefore, Mr Bates' membership of the Welsh Liberal Democrats has been suspended, pending the outcome of the case."

Mae Heddlu'r De wedi rhyddhau'r datganiad yma;

"Heddiw mae'r heddlu wedi siarsio dyn 62 oed o'r Trallwng i ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ymosod a chyhuddiadau eraill yn ymwneud ac anrhefn gyhoeddus."


Argraffiadau- Arfon ac Aberconwy

Vaughan Roderick | 10:43, Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

Does 'na ddim "Dau o'r Bae" heddiw. Fe fydd y rhaglen yn ôl wythnos nesaf. Mae Elin Gwilym wedi bod yn defnyddio ei hamser "sbâr" i grwydro dwy etholaeth yn y Gogledd Orllewin.

farrar203bbc.jpgGalwch fi'n 'hen ffash' ond dwi ddim fel arfer yn un am flogio, yn tueddu i wneud fy rhyngweithio cymdeithaol wrth giat yr ysgol neu bartion plant pum mlwydd oed! Gwaith ymchwil pwysig dybiwn'i o ystyried mai mamau ifanc, mae'n debyg, sy'n mynd i benderfynu canlyniad yr etholiad yma - fel yr 'worcester woman' yn '97.

Ta waeth, dyma fi yn gwneud ymdrech arbennig drwy feddianu blog Vaughan hefo chydig argraffiadau o'r Gogledd Orllewin ac mae na gryn diypn yn y fantol yn rhai o seddi'r Gogledd.

Yn Arfon ma Plaid Cymru yn brwydro'n galed i gadw gafael. Mae nhw'n dawel hyderus, ond Bangor ydi'r broblem. Maen nhw'n gobeithio na fydd Llafurwyr traddodiadol y ddinas honno yn trafferthu pleidleisio.

Os gwna nhw, fe all hi fod yn stori wahanol.

Ond oes na fygythiad o gyfeiriad mwy anisgwyl? Mae proffeil y Ceidwadwr yn yr etholaeth wedi bod yn uchel iawn ers misoedd bellach. Mae'n debyg fod hyd yn oed y Cofis yn cynhesu ato - dipyn o gamp!

Dwi heb fod dros y bont i Ynys Mon eto, ond wedi bod yn Aberconwy sawl gwaith. Ar ddiwrnod cynta'r ymgyrch rodd hi'n ymddangos fod petha'n tori'n fudur yno, honiadau fod un ymgeisydd wedi camarwain yr etholwyr yn ei daflen etholiad.

Yno a fi ar fy union i holi'r ymgeisydd dan sylw. Wedi imi gael pregeth mai llwyth o g**** oedd y stori yma fe gytunodd i gael ei ffilmio. Chydig eiliadau wedyn fe ddoth gwylan o rhywle a gollwng ei llwyth dros siaced yr ymgeisydd.

Lwc dda ma'n debyg, oedd yr unig air o gysur y gallwn ei gynnig.

Ond ar nodyn mwy difrofol mae'r Ceidwadwyr a Plaid yn gwbwl argyhoeddiedig eu bod nhw am gipio'r sedd gan Lafur. Wrth siarad hefo ambell i Lafurwr doedd y brwdfrydedd ddim yn byrlymu. "We've got to stay positive haven't we?" oedd yr ymateb swta. Ac ma gan y creadur dair wythnos arall o osgoi gwylanod.

*Doeddwn i ddim yn gallu meddwl am lun fyddai'n cyfleu Aberconwy ac Arfon. Fe wnes i ddewis Farrar Road yn y diwedd dim ond i blesio Gareth Hughes!

Ar y bocs

Vaughan Roderick | 10:10, Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

granada_logo.jpgGan fy mod wedi gwneud proffwydoliaeth fach ddoe ynghylch maint y gynulleidfa ar gyfer y ddadl deledu gyntaf mae'n well i mi syrthio ar fy mai heddiw.

Fe wyliodd 9.4m o bobol y ddadl ar gyfartaledd. 450,000 oedd y gynulleidfa yng Nghymru neu 34% o'r rheiny oedd yn gwylio teledu ar y pryd.

Roedd nifer y gwylwyr yn weddol gyson yn ystod y rhaglen. Mae hynny'n fy synnu i. Doeddwn i ddim yn disgwyl i gymaint o bobol gwylio'r rhaglen drwyddi draw. Wrth gwrs mae'n bosib bod 'na elfen o "fynd a dod" yn ystod yr awr a hanner. Serch hynny mae 9.4 miliwn ar gyfartaledd yn gythraul o gynulleidfa yn y dyddiau aml-sianel yma.

Doeddwn i ddim chwaith wedi rhagweld y byddai'r arolygon yn awgrymu bod yna "enillydd" amlwg ac mai Nick Clegg fyddai hwnnw. Fe gwawn weld yn ystod y dyddiau nesaf a fydd hynny'n effeithio ar yr arolygon ynghylch bwriadau pleidleisio.

Am wn i, mae "canlyniad" y ddadl yn fwy o broblem i'r Ceidwadwyr nac i Lafur. Mae pobol yn gwybod sut ddyn a sut brif weinidog yw Gordon Brown. Gyda'r ymgyrch Llafur yn canolbwyntio i raddau ar godi amheuon ynghylch David Cameron gallai ei fethiant ymddangosiadol i argyhoeddi fod yn broblem.

Cofiwch os ydych chi am weld llanast go iawn ewch at yr iPlayer a gwyliwch rifyn neithiwr o "Dragon's Eye". Doedd Elfyn Llwyd ddim ar ei orau, a dweud y lleiaf.

Argraffiadau - Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro

Vaughan Roderick | 16:12, Dydd Iau, 15 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

Mae'n bryd i ni fynd allan i'r ffyrdd a'r caeau unwaith yn rhagor. I'r gorllewin gwyllt ( neu'r gorllewin gwar- eich dewis chi) yr awn ni'r tro hwn. Aled Scourfield sy'n rhannu ei argraffiadau o'r ornest yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

tenby200_wtb.jpgDyw'r Gorllewin ddim wedi gweld llawer o ymweliadau gan fawrion y pleidiau hyd yn hyn, ond mae Gorllewin Sir Gâr a De Penfro wedi gweld cyfres o wleidyddion Llafur yn galw yn yr etholaeth.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Hilary Benn i gyd wedi ymweld â Gorllewin Cymru. A'r rheswm ?

Mae'r ymgeisydd Llafur, Nick Ainger yn ymladd am ei ddyfodol gwleidyddol. Mae e'n amddiffyn mwyafrif o lai na 2,000, ac mae'r Toriaid yn synhwyro bod 'da nhw gyfle gwych i gipio'r sedd.

Mae strategaeth y Blaid Lafur yn gwbl glir. Maen nhw'n bwriadu ymosod ar y ffaith bod yr ymgeisydd Ceidwadol, Simon Hart yn Brif Weithredwr y Cynghrair Cefn Gwlad, a fod y Toriaid wedi addo pleidlais rydd ar wirdroi'r gwaharddiad ar hela a chwn. Yn ogystal a hynny, mae nhw'n anhapus ynglyn a'r degau o filoedd o bunnau sydd wedi llifo i mewn i goffrau'r Blaid Geidwadol yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Simon Hart wedi ei synnu braidd gan ffyrnigrwydd yr ymosodiad gan y Blaid Lafur. Mae e'n dweud ei fod e'n rhyfeddu fod Llafur wedi penderfynu canolbwyntio ar bwnc sydd yn ei eiriau fe yn "hollol amherthnasol i'r mwyafrif helaeth o bobl."

Mae hi'n anodd darogan sut y bydd y frwydr chwerw yn diweddu gan bod hon yn etholaeth ryfedd. Mae hi'n gybolfa o bentrefi gwledig Cymreig fel Llanboidy a'r Efailwen tua'r gorllewin, a threfi Seisnig fel Dinbych y Pysgod a Saundersfoot yn Ne Penfro, heb anghofio tref Caerfyrddin.

Wrth yrru lawr yr A478 tuag at gylchfan Penblewin, mae hi bron yn bosib gweld yr hen linell Landsger wrth i'r posteri Plaid Cymru droi yn rhai Ceidwadol wrth adael Clunderwen i gyfeiriad Arberth.

Dyna sydd yn ei gwneud hi yn sedd mor ddiddorol. Fe ddaeth Plaid Cymru o fewn ychydig gannoedd o bleidleisiau i gipio'r sedd yn nwy fil a saith yn etholiadau'r Cynulliad. Mae ei hymgeisydd, John Dixon, yn gobeithio manteision ar yr annifyrrwch rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, er bod y cyd-destun etholiadol yn dra gwahanol.

Mae'r ymgyrchu yn galed ac yn ddigyfaddawd. Fe fydd hon yn un o'r seddi i wylio yn oriau mân y seithfed o Fai...

(Mae rhestr llawn o'r ymgeiswyr ar gyfer y sedd ar wefan bbc.co.uk/cymru)

Twla'r zapper 'na draw...

Vaughan Roderick | 14:51, Dydd Iau, 15 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

gavel.jpgMae'n rhyfedd sylweddoli mai tair wythnos un unig sydd i fynd tan y diwrnod mawr. Dewis Gordon Brown oedd hi i gael ymgyrch (neu o leiaf ymgyrch swyddogol) mor fyr, wrth gwrs. Am wn i roedd a wnelo coffrau gwag y Blaid Lafur a chyfoeth cymharol y Torïaid rywbeth a'r peth.

Mae'r ymgyrch fer wedi ychwanegu at y pwyslais y mae rhai'n ei roi ar y dadleuon teledu. Mae'r syniad taw'r dadleuon fydd yn penderfynnu'r peth yn bur gyffredin o gwmpas lle. Gan fy mod yn gweithio yn myd darlledu efallai y byswch yn disgwyl i mi rhannu'r farn honno. Mae'n ddrwg gen i'ch siomi. Dwi'n gableddus ynghylch y mater hwn gan gredu na fydd y dadleuon yn cael fawr ddim effaith ar y canlyniad os na wnaiff un o'r arweinwyr homar o gamgymeriad.

Wedi'r cyfan yr unig linell mae bron unrhyw un yn cofio o'r dwsinau o ddadleuon sydd wedi eu cynnal yn yr UDA ar hyd y blynyddoedd yw Lloyd Bentsen yn dweud "you're no Jack Kennedy" wrth Dan Quale. Efallai bod yr ymosodiad yn un ysbrydoledig ond mynd yn ôl i Texas gyda'i gwt rhwng ei goesau wnaeth Bentsen ar ôl y bleidlais!

Rwy'n ddigon o sinig ynghylch y rhaglenni yma i feddwl mai am naw o'r gloch bore fory y bydd y stori fawr ynghylch y dadleuon yn dod, nid rhwng hanner awr wedi wyth a deg o'r gloch heno.

Am oddeutu naw bob bore mae bron pob un cyfrifiadur yn adeiladau'r darlledwyr yn seinio i nodi cyhoeddi ffigurau gwylio dros-nos BARB. Mi fentraf swllt y bydd y ffigyrau hynny'n dangos cwymp sylweddol yn nifer y gwylwyr wrth i'r ddadl fynd yn eu blaen ac mai penawdau fel "The Great Switch-Off" fydd ar dudalennau blaen papurau fore Sadwrn!

Y gŵr sydd ar y gorwel

Vaughan Roderick | 13:09, Dydd Iau, 15 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

_45279989_kirsty2261pa.jpgMae hi wedi bod yn fore prysur gyda Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn lansio eu maniffestos. Yn ddigon ffodus roedd y ddau yn ddigon agos at ei gilydd gan sicrhau nad oedd yn rhaid i selogion bybyl y Bae deithio'n rhy bell o'u cynefin. Credwch fi, mae 'na ambell un yn lle 'ma sy'n dioddef o "banic attacks" bob tro maen nhw'n gorfod mentro i'r gogledd o'r brif lein rheilffordd!

Digon di-nod oedd lansiad y Democratiaid Rhyddfrydol. Fe'i cynhaliwyd mewn ystafell gyfarfod oedd yn fwy addas i gyfarfod o'r Rotari na sbloets cyfryngol gyda Jenny Willot a Kirsty Williams yn llywio'r peth.

Doedd dim son am Roger Williams, y gŵr a fyddai'n Ysgrifennydd Cymru pe bai'r blaid yn ffurfio llywodraeth. Nid bod hynny'n debyg o ddigwydd, wrth gwrs, ond roedd ei absenoldeb yn rhyfedd.

Mae'n amhosib dychmygu Llafur Cymru yn cynnal lansiad heb Peter Hain, er enghraifft. Cofiwch, efallai y dylai Plaid Cymru fachu'r syniad o gelu'r arweinydd seneddol o gofio'r smonach achosodd Elfyn Llwyd ar ddiwrnod ei lansiad hi!

Ta beth, beth oedd y rheswm am absenoldeb Roger?

"He's not as photogenic as me" oedd ateb Kirsty. Roedd hi'n tynnu coes... efallai.


Silffoedd gweigion

Vaughan Roderick | 15:58, Dydd Mercher, 14 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

manga.jpgFe fydd aelodau Cymdeithas Bob Owen a phobol y Llyfrgell Gen yn poeri gwaed am y stori fach nesaf.

Mae'r Sunday Times newydd gyhoeddi rhestr o'r chwe Llyfrgell gorau yn y byd. Dyma nhw; Bibliotheca Alexandrina, Yr Aifft, Llyfrgell Stephen A Schwarzman, Efrog Newydd, y Customs House, Sydney, Llyfrgell Manga Kyoto, Llyfrgell Genedlaethol Denmarc a... Llyfrgell Ganolog Caerdydd.

Nawr, camgymeriad, medden nhw yw barnu llyfr o'i glawr a chamgymeriad, dybiwn i, yw barnu llyfrgell o'i phensaernïaeth.

Dyna mae'n ymddangos y mae'r Sunday Times wedi eu gwneud. Wedi'r cyfan beth bynnag yw'ch barn chi am gartwnau Japaneaidd dyw casgliad o "Sailor Moon" a "Phokemon" yn Kyoto ddim mewn gwirionedd yn cymharu â thrysorau'r Bodleian neu'r Bibliothèque Nationale.

Nawr peidiwch â chamddeall, rwy'n dwli ar y llyfrgell newydd yng Nghaerdydd. Mae hi gan waith gwell na'i rhagflaenydd. Serch hynny mae'n werth cofio mai dim ond ymgyrchu dygn gan lond dwrn o lyfr-garwyr ystyfnig wnaeth rwystro Cyngor Caerdydd rhag gwerthu miloedd o'r trysorau yr oedd y Llyfrgell wedi eu casglu ar hyd y blynyddoedd. Yn eu plith roedd atlasau unigryw ac argraffiadau cynnar o waith Shakespeare. Dadl y Cyngor oedd nad oedd y llyfrau'n "Gymreig" ac y byddai'r arian yn fodd i wella llyfrgelloedd eraill y ddinas.

Fel mae'n digwydd mae'r llyfrau hynny o hyd yng Nghaerdydd, ond yn y nid yn palas ar yr Es, ar ôl i'r academyddion achub casgliad yr oedd y cyngor yn fodlon ei wasgaru er mwyn troi ceiniog.

Mae'r cyfan yn fy atgoffa fi o gartŵn wnaeth ymddangos yn "Private Eye" blynyddoedd yn ôl. Roedd yn dangos gweithiwr siop yn WH Smith yn dweud wrth gwsmer; "Books, Sir? I'm afraid we've just sold the last one." Mae'n debyg bod y gwreiddiol yn Kyoto.


Ple gan Paul

Vaughan Roderick | 15:02, Dydd Mercher, 14 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

paulf.jpg
Ydy Paul Flynn yn disgwyl ras agos yng Ngorllewin Casnewydd? Mae'n bosib ei fod e.

Fel mae'n digwydd roeddwn i yn y cownt yng Nghasnewydd yn pan gafodd Paul ei ethol yn 1987 gan gipio'r sedd o Mark Robinson. Fe symudodd hwnnw i fod yn aelod seneddol yng Ngorllewin Lloegr cyn colli ei sedd yno i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fel byddai Lady Bracknell yn dweud; "To lose one seat, Mr. Robinson, may be regarded as a misfortune; to lose both looks like carelessness."

Ta beth, 2,708 oedd mwyafrif Paul yn 1987. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach roedd wedi cynyddu i 14,537 gyda'r aelod barfog yn derbyn dros 60% o'r bleidlais. Roedd 1987 yn annus mirabilis i Lafur wrth gwrs ac erbyn 2005 roedd y mwyafrif wedi gostwng i 5,458. Fe fyddai angen gogwydd o ryw 7.5% ar y Ceidwadwr, Matthew Williams, i gipio'r sedd y tro hwn.

Dyw hynny ddim tu hwnt i'w gyrraedd yn enwedig o gofio mai 1,401 oedd mwyafrif Rosemary Butler yn 2007. Yn y fath amgylchiadau mae pob pleidlais yn cyfri ac mae 1,278 o bleidleisiau yn drysor gwerth ei chwennych. Dyna'r nifer o bleidleisiau wnaeth Plaid Cymru ei dderbyn yn 2005 ac mae'n esbonio'r neges yma ar yr ymgeisydd Llafur.

Plaid Cymru launched their main policies today. Bring the boys home from Afghanistan. A fair deal for pensioners. Stop Trident. In Newport West they have an simple choice in finding a champion for those three aims. Please don't try too hard in Newport West Plaid. You already have a candidate who is committed to all three issues and is the bookies favourite to win. Think different. Think tactical.

Ymgeiswyr eraill; Veronica Watkins (Dem. Rhydd.) Jeff Rees (Plaid) Huw Moelwyn Hughes (UKIP) Pippa Bartalotti (Gwyrdd)

Tom

Vaughan Roderick | 13:37, Dydd Mercher, 14 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

tomellis170bbc.jpgFe fu farw Tom Ellis cyn aelod seneddol Llafur Wrecsam. Roedd yn un o'r tri aelod Llafur Cymreig wnaeth groesi'r llawr i ymuno a'r SDP ac yn un o fy hoff bobol mewn gwleidyddiaeth.

Un o Rhos oedd Tom ac fel y rhan fwyaf o feibion "pentref mwyaf Cymru" fe drodd at y diwydiant glo am fywoliaeth. Gyddonydd ac yna rheolwr, nid gweithiwr ar y talcen, oedd Tom cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth. Fe fu'n rheoli glofa'r Bers nid nepell o Rhos ac ef hefyd oedd rheolwr olaf pwll y Ffynnon. Caeodd y gwaith hwnnw yn 1968, ddwy flynedd cyn ei ethol i'r senedd.

Roedd Tom yn ddyn hynod o annwyl. Roedd ganddo ddaliadau cryfion oedd, efallai, yn agosach at y Rhyddfrydwyr nac at Lafur o'r cychwyn cyntaf. Roedd yn ddatganolwr pybyr ac yn gadarn yn ei gefnogaeth i'r Farchnad Gyffredin gan gynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop fel aelod enwebedig. Doedd hi ddim yn syndod felly ei fod wedi dewis ymuno a phlaid newydd y giang o bedwar.

Dydw i ddim yn cofio'r union amgylchiadau ond yn etholiad 1983 fe safodd Tom yn Ne Clwyd yn hytrach na Wrecsam gan golli i'r Ceidwadwr o ryw ddwy fil a hanner o bleidleisiau. Does fawr ddim amheuaeth y byddai wedi cadw ei hen sedd pe bai wedi sefyll yno. Efallai mai camddarllen y sefyllfa wnaeth Tom neu efallai ei fod yn amharod i bechu Martin Thomas yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn Wrecsam. Beth bynnag oedd y rheswm am ei benderfyniad, fe dalodd yn ddrud amdano.

Yn wahanol i Ednyfed Hudson Davies a Jeffrey Thomas ni ddiflannodd Tom o wleidyddiaeth Cymru ar ôl iddo golli ei sedd. Fe dderbyniodd glatsied dros ei dim trwy gario baner plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn isetholiad Pontypridd a than yn gymharol ddiweddar roedd yn wyneb cyfarwydd mewn cynadleddau a chyfarfodydd.

Doeddwn i ddim wedi ei weld ers peth amser ond rwy'n teimlo colled ar ei ôl. Doedd Tom Ellis ddim yn gawr o wleidydd ond roedd e'n ddyn da a didwyll ac mae'r rheiny'n gallu bod yn ddigon prin.


Dal i fyny

Vaughan Roderick | 16:04, Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010

Sylwadau (4)

cawl2_203.jpgRhyw lob scows o bost yw hwn i ddal fyny ac ambell i stori sy'n mudferwi o gwmpas y lle. Llwyaid o hyn a llwyaid o'r llall felly!

Mae'n sicr y byddai'r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a'r Fali yn brysur y dyddiau yma gyda'r awyren yn llawn dop o wleidyddion. Hwyrach y byddai hyd yn oed ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol yn ei ddefnyddio pe bai'n hedfan! Y gair gan lywodraeth y Cynulliad yw bod y cynigion i gynnal gwasanaeth dros dro wedi eu derbyn a bod pethau'n ymddangos yn bositif. Disgwylir cyhoeddiad rhyw bryd wythnos nesaf.

Mae Plaid Cymru wedi derbyn ymateb i'w chwyn ynghylch y dadleuon teledu gan Ymddiriedolaeth y Ö÷²¥´óÐã. Mae'r gohebu'n parhau, mae'n debyg ac fe fyddwn yn gwybod mwy yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae wedi cyhoeddi manylion "rhanbarthol" arolwg dyddiol YouGov. Mae angen pinsied o halen oherwydd maint y sampl Gymreig ond fel yn Etholiadau Ewrop yng Nghymru y mae'r gogwydd mwyaf i'r Ceidwadwyr.

Er bod y Cynulliad o hyd ar wyliau fe fydd CF99 yn dychwelyd nos yfory. Guto Bebb, Jonathan Edwards, Alun Michael ac Elgan Morgan yw'r gwesteion.

O, ie. Fe wnes i bron anghofio. Mae Gavin Henson a Charlotte Church wedi dyweddio. Wel, mae rhai o'r papurau'n credu mai dyna'r unig newyddion o bwys o Gymru! Mae'n well i mi gynnwys y stori felly.

Argraffiadau Cantre'r Gwaelod (Ynys Môn)

Vaughan Roderick | 11:55, Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

We're all in this together" medd clawr Maniffesto'r Ceidwadwyr. Wel, pawb ond pobol Môn, mae'n ymddangos. Mae'r fam ynys wedi diflannu o'r map o Brydain islaw. Efallai bod Môn o dan y môr a'i donnau o safbwynt y Torïaid ond mae hi dal ar fap y blog yma! Dyma argraffiadau Rhun ap Iorwerth;

rhun_ap_iorwerth.jpg"Dwi'n cofio gofyn i ymgeisydd o blaid fechan oedd yn sefyll yn Ynys Mon flynyddoedd yn ol sut yr oedd yn credu yr oedd ei ymgyrch yn mynd. Roedd yn bryderus. Roedd rhai'n dweud y gallai ennill, ac roedd yn ofni am ddyfodol ei fusnes pe bai'n gorfod mynd i San Steffan. Wrth gwrs, ryw 800 pleidlais gafodd o, a cafodd ei fusnes barhau i ffynnu!

Ond os mai breuddwyd ffwl oedd ei freuddwyd o - nodwedd y "first-time candidate syndrome" fel y'i gelwir gan fy nghyfaill ac awdur y blog hwn, Vaughan Roderick - mae Ynys Mon yn gallu bod yn freuddwyd o sedd i rai gwleidyddion, ond yn hunllef i eraill.

Breuddwyd, gan bod pobl yr Ynys wedi profi eu parodrwydd yn y gorffennol i bledleisio dros unrhyw liw gwleidyddol os yw'r ymgeisydd iawn yn dweud y pethau iawn ar yr amser iawn. Gall pob ymgeisydd ei berswadio ei hun mai fo neu hi sydd a'r allwedd i galon yr ynys. Ond mae hynny yn ei dro yn hunllef i'r strategwyr gwleidyddol sy'n ceisio darllen meddylilau pobl yr etholaeth.

Ar bapur, gyda'r Blaid Lafur wedi bod ar drai, y Ceidwadwyr yn dechrau o sylfaen cymharol isel, a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu'n gyson ac ennill tir, Plaid Cymru ddylai fynd a'r sedd y tro hwn.

Ond profodd y cyn aelod Cynulliad Ceidwadol Peter Rogers yn yr etholiad diwetha bod ganddo fo'r gallu i ddylanwadu ar y canlyniad. Pwy a wyr i ba blaid y byddai'r 5000 wnaeth ei gefnogi o yn 2005 wedi pleidleisio pe na bai o'n sefyll. Fe allai efelychu'r gamp y tro hwn. Ond, wrth gwrs, fel y gwr busnes o ymgeisydd slawer dydd, fe fydd yn ei berswadio'i hun y gall o ennill.

Yn sir fwyaf gwyntog Cymru, mae'n rhy gynnar i ddarogan pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu o ran y gefnogaeth i Mr Rogers - ond mi fydd yn glamp o frwydr.

Rhywbeth yn dechrau gydag "A"

Vaughan Roderick | 09:28, Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

_44584363_wyn_jones.jpgRwy'n amau taw Radio Cymru sydd ymlaen yn y cefndir o gwmpas byrddau brecwast y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma ond os gewch chi gyfle heddiw cerwch draw i'r iPlayer a gwrandewch ar "Today" am ychydig.

Roedd y rhaglen yn cael ei chyd-gyflwyno o Gymru heddiw fel rhan o'r ymdrechion, dybiwn i, i dawelu'r ffrwgwd ynghylch y dadleuon teledu. Yr awr olaf yw'r fwyaf difyr yn enwedig y sgwrs banel reit ar ddiwedd y rhaglen.

Gwnes i ddim clywed y sgwrs i gyd ond roedd amgell lais yn gyfarwydd, Peter Stead a Laura McAllister yn eu plith.

Trafod degawd o ddatganoli oedd y panel ac fe ddigwyddodd y cwestiwn o annibyniaeth godi ei ben. Roedd yr ymateb yn ddiddorol yn enwedig ateb y gwr busnes ar y panel sef David Lea Wilson o "Halen Môn". "Mae hynny ychydig dros y gorwel" meddai, "mae'n rhaid cymryd pethau cam wrth gam".

Nawr, dyw'r arolygon barn ddim yn awgrymu unrhyw gynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i annibyniaeth ers sefydlu'r cynulliad. Serch hynny mae'n ymddangos i mi nad yw'r syniad yn cael ei ddiystyru y tu fas i rengoedd Plaid Cymru yn yr un modd ac oedd yn digwydd deng mlynedd yn ôl.

Yn lansiad maniffesto Plaid Cymru bore fe ofynnodd gohebydd SKY pam nad oedd y maniffesto yn trafod y pwnc. Yn anffodus iddo fe, mae annibyniaeth yn cael ei chrybwyll ac roedd Ieuan Wyn Jones hyd yn oed gallu enwi rhif y dudalen!

Ar y llaw arall mae'n wir nad yw'r cwestiwn cyfansoddiadol yn ganolog i ymgyrch Plaid Cymru yn y ffordd y mae wedi bod ym mhob un etholiad cyffredinol arall yn ei hanes. Nid swildod yw'r rheswm am hynny, dybiwn i. Yn hytrach mae'n ymgais osgoi drysu'r etholwyr ar drothwy'r refferendwm at gynyddu pwerau'r cynulliad.

Fel dywedodd y dyn busnes ... "cam wrth gam".

Argraffiadau- Ceredigion

Vaughan Roderick | 15:46, Dydd Llun, 12 Ebrill 2010

Sylwadau (10)

Am y tro cyntaf, yn yr etholiad hwn mae gan Ö÷²¥´óÐã Cymru gohebwyr llawn-amser mewn rhai o'r etholaethau mwyaf diddorol. Fe fydd eu hargraffiadau'n ymddangos ar y blog o bryd i gilydd. Fe wnawn ni gychwyn yng Ngheredigion gydag Owain Clarke.

owain.jpgOs ydych chi am ddianc rhag yr etholiad, dyma gyngor caredig.

Peidiwch drefnu trip glan môr i Geredigion.

Prin yw'r llefydd sy'n fwy dymunol yn heulwen mis Ebrill ond o ran bwrlwm a chyffro etholiadol - does unman yn fy marn i yn gallu cystadlu ag etholaeth y Cardis.

Pan deithiais i yn y car o un pen o'r etholaeth i'r llall wythnos yn ôl - oriau'n unig cyn i Gordon Brown danio gwn yr etholiad - fe gyfrais i hanner dwsin o bosteri ar ochr yr hewl.
Wrth ddychwelyd tridiau yn ddiweddarach fe golles i gownt ar ôl cyrraedd 80!

Ond peidiwch a meddwl taw etholaeth amryliw yw hon. Ar wahan i ambell ddarn o gardfwrdd coch a glas mewn pocedi - yr unig liwiau welwch chi yw gwyrdd ac oren. Dyma'r unig etholaeth ymylol rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amddiffyn mwyafrif o 218 pleidlais yn unig. Hon, gyda llaw, yw'r unig etholaeth yng Nghymru a Lloegr lle nad oes gan Lafur na'r Ceidwadwyr obaith caneri o ennill.

Mae'r dadlau ynghylch yr holl bosteri wedi dechrau'n barod. Smo fi moyn eich diflasu chi'n ormodol ond dyma i chi flas o'r cecri.

Plaid Cymru - cyhuddo'r Democratiaid Rhyddfrydol o ddinistrio coed yn yr etholaeth ar ôl hoelio'u posteri i'r pren.

Y Democratiaid Rhyddfrydol - mynnu ei bod nhw wedi cael caniatâd perchennog pob coeden - a bod ambell ffarmwr yn cwyno bod posteri Plaid wedi ymddangos heb ganiatâd.

Y Ceidwadwyr- galw ar y Cyngor Sir i gael gwared ar tua 20% o'r posteri mae'r Toried yn dadle sy'n anghyfreithlon.

Llafur- cwyno bod dim digon o arian gyda nhw i gystadlu a'r lleill. Yng ngeiriau'r ymgeisydd "does gyda ni ddim coed Llafur yng Ngheredigion... ond mae 'da ni ffens"!

Pwy sydd a'u trwynau ar y blaen? Gwelaf ffens. Eisteddaf arni!

Rhagor gan Owain ar CF99 Nos Fercher.

Brecwast Llawn

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Llun, 12 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

tedheath.jpgMae taflen ddiweddaraf Llafur Cymru newydd gyrraedd fy nesg. Arni mae llun o fowlen o "corn flakes" a'r neges (uniaith Saesneg) yma;

"When the Tories were in government they stole your milk... don't risk your children's breakfast"

Nawr, mae 'na sawl problem gyda'r neges yma. Yn gyntaf, wrth gwrs, un o gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad yw'r brecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd. Does a wnelo llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim byd a'r peth.

Dadl Llafur Cymru yw y gallai toriadau yng nghyllid y Cynulliad arwain at ddileu'r cynllun. Efallai bod honno'n ddadl ddilys ond os felly, Llywodraeth y Cynulliad fyddai wedi penderfynu aberthu'r brecwastau er mwyn amddiffyn cynlluniau eraill. Ydyn ni i gymryd felly nad yw Llafur bellach yn credu bod brecwastau yn flaenoriaeth sy'n rhaid eu hamddiffyn ar bob cyfri? Nid dyna oedd y blaid yn dweud yn etholiad y cynulliad!

Y broblem arall yw bod y ffrwgwd ynghylch "dwyn llaeth y plant" yn hen fel pechod. Nid codi bwci-bo llywodraeth Thatcher (ac mae hwnnw'n ddigon hen erbyn hyn) y mae Llafur yn fan hyn ond llywodraeth Ted Heath! Ar gychwyn y llywodraeth honno yn hydref 1970 y cyhoeddodd yr ysgrifennydd addysg, Margaret Thatcher, bod dyddiau "llaeth amser chwarae" yn dirwyn i ben.

O gofio hynny, dyw hi ddim yn debygol iawn bod yr etholwyr wnaeth golli eu llaeth yn 1970 â phlant sy'n derbyn brecwastau'r dyddiau hyn. Eu hwyrion ac wyresau efallai- ond eu plant? Go brin!

Ond os ydy Llafur am ail-frwydro'r rhyfeloedd llaeth hwyrach y dylai Plaid Cymru achub ei chân etholiad o isetholiad Merthyr o gefn rhyw gwpwrdd yn Nhŷ Gwynfor. Yn cael ei chanu i don yn "Eton Boating Song" dyma hi;

"They both tried to diddle the workers,
They both pinched the milk from the schools...
... But we're beating them hell for leather
and chucking them over the side
so it's up we go together
to make a fresh start with the Plaid"

Mae cofio honna'n gwneud i mi deimlo'n hen! Rwy'n ddigon hen i gofio'r poteli bach o laeth ysgol hefyd a, iesgob, roedd y stwff yn afiach, bron cynddrwg a'r bresych!

Ar yr Amledd Uchel Iawn

Vaughan Roderick | 09:35, Dydd Llun, 12 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

jonsi.jpgGallaf glywed yr ymateb nawr. "Beth uffern mae Jonsi'n gwneud ar flog Vaughan? Mae'r cythraul y mhob man!"

Darllenwch ymlaen. Chwi gewch esboniad!

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i ddoe deffrodd trigolion Caerdydd i sain gorsaf radio newydd. Wel, fe wnaeth rhai ohonyn nhw wrando, ta beth, dim digon yn anffodus i sicrhau parhad Cwmni Darlledu Caerdydd.

Serch hynny roedd hi'n ddiwrnod mawr i mi. Roeddwn i'n gweithio yno ac fe drodd y lle yn dipyn o ffatri gynhyrchu darlledwyr Cymraeg. Ymhlith eraill o'r graddedigion mae Sian Lloyd, Gareth Charles ac Ian Gwyn Hughes a... Jonsi.

Un o'r pethau wnaethon ni geisio gwneud oedd trefnu system rwydweithio i gyflenwi newyddion cenedlaethol Cymreig i orsafoedd masnachol eraill Cymru. Y broblem ar y pryd oedd bod y gorsafoedd eu hun yn casglu newyddion lleol yn eu hardaloedd tra'n derbyn ffid o newyddion Prydeinig. Doedd dim modd i "Marcher Sound" neu "GB", er enghraifft, rhoi sylw i straeon Cymreig o bwys o'r tu allan i'w hardaloedd. Trist yw dweud bod y broblem yn bodoli hyd heddiw.

Pe bai cynlluniau Ofcom i sefydlu gwasanaeth newyddion teledu annibynnol i gymryd lle rhaglenni ITV Wales wedi cael eu gwireddu fe fyddai'r broblem wedi eu datrys. Roedd cyflenwi deunydd cenedlaethol Cymreig i orsafoedd lleol a chymunedol yn rhan o'r cynllun.

Oherwydd gwrthwynebiad chwyrn y Ceidwadwyr fe gafodd y cymalau perthnasol eu gollwng o Fesur yr Economi Digidol wythnos ddiwethaf. I raddau felly mae dyfodol newyddiaduraeth a gwasanaethau newyddion Cymru yn dibynnu ar ganlyniad ar etholiad.

Pe bai Llafur yn arwain y llywodraeth nesaf mae'n debyg y byddai cynlluniau Ofcom yn cael eu gwireddu. Mae'n ansicr beth fyddai'n digwydd o dan Lywodraeth Geidwadol.

Dyw sylwadau eu llefarydd, Jeremy Hunt, ynghylch "market-led solutions", llacio'r rheolau ynghylch perchnogaeth y cyfryngau a sefydlu gorsafoedd teledu dinesig ddim o reidrwydd yn swnio'n addas iawn i Gymru.

Mae 'na bynciau pwysicach o lawer yn yr etholiad ond fe fydd hi'n ddiddorol gweld os fydd 'na fwy o eglurder ym Maniffesto Ceidwadwyr Cymru.

Hawdd yw anghofio...

Vaughan Roderick | 18:01, Dydd Sul, 11 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

sengfilm_203_other.jpgDwi'n ceisio cadw'n gall y dyddiau 'ma trwy ddarllen pethau a gwneud ambell bost sydd a dim byd, neu fawr ddim byd, i wneud a'r etholiad. Mae hwn yn un ohonyn nhw!

Rwyf wedi crybwyll o'r blaen ar y blog bod llawer o wreiddiau fy nheulu yn yr ardal fynyddig rhwng Pontypridd a Chaerffili ardal sy'n cynnwys mynyddoedd Eglwysilan a Meio yn ogystal â chwm Aber. Roedd fy hen dad-cu yn weinidog yn yr ardal ac fe gladdodd nifer o'r 439 o lowyr fu farw yn nhanchwa Senghennydd yn 1913- y trychineb gwaethaf yn hanes y diwydiant glo ym Mhrydain. Mae'r rhesi o gerrig bedd ym mynwentydd Eglwysilan a chapeli'r cylch o hyd yn ddigon i dorri calon dyn.

Roeddwn yn meddwl fy mod yn gwybod bron popeth oedd 'na i wybod am y trychineb sydd wastad wedi bod o ddiddordeb mawr i mi. Profiad rhyfedd felly oedd canfod y gerdd yma ar Americanaidd heddiw. Doeddwn i erioed wedi dod ar ei thraws hi o'r blaen.

Of course there was an outcry
At so many lives cut short
And the owners faced stern justice
Before the local court.

But really it would never do
To give too great offence.
They found no case to answer
Of wilful negligence.

They were in direct contravention
of the Mines and Quarries Act,
But it was considered impolite
To dwell upon the fact.

Still for such a fatal mischance
A culprit must be found
And so they fined the manager
Five and twenty pounds.

It was a source of comfort
To mother, child or wife,
To find their menfolk valued
At a shilling for each life.

"Senghennydd, 1913" yw teitl y gerdd ac mae'n darllen fel un o eiddo Idris Davies (neu Harri Webb, efallai) i mi ac es i chwilio amdani ar y we. Yr hyn sy'n rhyfedd yw nad yw'r gerdd yn ymddangos a'r unrhyw wefan Cymreig, hyd y gwelaf i. Yn hytrach mae i'w gweld yn aml ar wefannau gwleidyddol ac undebol yn yr Unol Daleithiau yn fwyaf diweddar mewn eitemau ynghylch y trychineb glofaol yng Ngorllewin Virginia yr wythnos hon.

Efallai nad yw'r gerdd yn siarad â ni yng Nghymru heddiw yn sgil gwladoli a thranc y diwydiant glo yn yr un modd ac mae'n dal i siarad â gweithwyr yng nglofeydd preifat a pheryglus yr UDA.

Ta beth, os oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth ynghylch tarddiad y gerdd byswn yn falch i gael gwybod.

Cymariaethau

Vaughan Roderick | 09:20, Dydd Sul, 11 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

_44677238_ballotbox_bbc226.jpgGo brin fod 'na eiriau sy'n cael eu gorddefnyddio mwy mewn newyddiaduriaeth nac "unigryw" ac "hanesyddol".

Mater i'r haneswyr yw barnu pwysigrwydd hanesyddol unrhyw etholiad ac mae bron pob etholiad yn "unigryw" mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. 2005, er enghraifft, oedd y tro cyntaf i Lafur ennill trydydd etholiad o'r bron ond go brin y bydd hwnnw'n cael ei gofio fel "etholiad mawr".

Ar ôl dweud hynny mae'n anodd meddwl am unrhyw etholiad sy'n gymhariaeth hawdd ac un 2010.

Roedd canlyniad 1970, pan etholwyd Ted Heath, yn groes i'r disgwyl yn un agos ond dyw hwnnw ddim yn cymharu mewn gwirionedd. 1970 oedd yr etholiad olaf mewn cyfres yn dyddio yn ôl i 1945 pan oedd Llafur a'r Ceidwadwyr rhyngddyn nhw yn ennill oddeutu nawdeg y cant o'r bleidlais. Dim ond yn 1974 y dechreuodd y drefn amlbleidiol bresennol amlygu ei hun. Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth nodi un ystadegyn difyr. Enillodd Llafur 43.1% o'r pleidleisiau yn 1970 a cholli. Yn 2005 roedd 36% yn ddigon i sicrhau mwyafrif o hanner cant.

Chwefror 1974 oedd y tro diwethaf i senedd grog gael eu hethol ond yn wahanol i eleni doedd neb, mewn gwirionedd, wedi rhagweld hynny. Gyda dim ond rhyw ddeg ar hugain o aelodau'r pleidiau llai yn NhÅ·'r Cyffredin roedd pawb yn disgwyl y byddai'r naill blaid fawr neu'r llall yn sicrhau mwyafrif. Wedi'r cyfan, i hynny beidio digwydd fe fyddai angen i Lafur a'r Ceidwadwyr fod bron yn union gydradd. Dyna beth ddigwyddodd, wrth gwrs, ond gyda dim ond gogwydd bach ei angen i sicrhau mwyafrif y naill ffordd neu'r llall yr ateb oedd cynnal ail etholiad o fewn byr o dro. Mae hynny'n llai tebygol pe bai na senedd grog y tro hwn oherwydd niferoedd tebygol y pleidiau llai.

Ymlaen a ni at 1992. Hon yw'r gymhariaeth orau yn fy marn i. Roedd llywodraeth amhoblogaidd yn wynebu gwrthblaid hyderus ar ôl 14 blwyddyn mewn grym. Y drwg yn y caws i'r wrthblaid oedd amheuon y cyhoedd ynghylch ei harweinydd ifanc carismataidd.
Fe gafodd yr amheuon hynny ynghylch Neil Kinnock eu crisialu yn nyddiau olaf yr ymgyrch ac mae 'na le i gredu mai yn y dyddiau olaf y bydd yr etholiad hwn yn cael ei benderfynu hefyd.

Yn ôl yn 2005 pleidleisiodd rhyw 40% o'r etholwyr i'r pleidiau llai ac roedd y rhan fwyaf o'r pleidleisiau hynny i bleidiau ar y chwith sef y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a'r SNP, Y Gwyrddion a Respect. Y cwestiwn yn 2010 yw a fydd rhai o'r etholwyr hynny yn fodlon achub Llafur neu sicrhau senedd grog neu ydyn nhw wedi cael digon o lond bol ar y llywodraeth i adael iddi suddo.

Ar drothwy'r etholiad y bydd y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud, fe dybiwn i.

O gofio 1992 mae'n werth nodi hefyd bod sawl Ceidwadwr yn meddwl mai ennill yr etholiad hwnnw oedd y peth gwaethaf wnaeth ddigwydd i'r blaid. Yn ôl y ddamcaniaeth hon pe bai Neil Kinnock wedi ei ethol fe fyddai Llafur wedi wynebu union yr un problemau a'r ERM wnaeth arwain at "Black Wednesday" a chyda "anallu Llafur i reoli'r economi" wedi cadarnhau ym meddyliau'r etholwyr fe fyddai'r Torïaid wedi bod yn ôl yn rhif deg mewn byr o dro. Dim ond dweud.

Sibrydion

Vaughan Roderick | 14:14, Dydd Gwener, 9 Ebrill 2010

Sylwadau (10)

wispa203body_pa.jpgUn o'r pethau braf am y swydd yma yw bod dyn yn clywed sibrydion. Lot o sibrydion.

Wrth reswm, dyw pob un o'r sibrydion ddim yn mynd i gael eu gwireddu. Mae optimistiaeth neu besimistiaeth yn gallu lliwio'r hyn mae pobol yn credu. Ar ben hynny mae 'na resymau da dros geisio arwain newyddiadurwr ar gyfeiliorn ar adegau!

Ta beth, fel y gwnes i yn ystod etholiad y Cynulliad a'r etholiadau lleol rwy'n bwriadu cyhoeddi'r sibrydion mwyaf difyr gan ychwanegu pob rhybudd iechyd posib. Cewch chi farnu eu gwerth nhw.

Beth am gychwyn ym Mlaenau Gwent? Yn ôl Karl y Bwci "does dim arwydd y bydd pobol yn cefnu ar Dai" yn yr etholaeth honno. Cysylltodd cyfaill Llafur a mi i anghytuno. Yn ôl y cyfaill hwnnw mae'r sefyllfa Brydeinig a'r posibilrwydd o lywodraeth Geidwadol yn crisialu meddyliau yn nhopiau Gwent ac mae canlyniadau canfasio Llafur yn awgrymu bod Nick Smith a'i drwyn ar y blaen o ryw bedair mil o bleidleisiau.

Fe wnawn ni groesi'r ffin o Went i Bowys nesaf i etholaeth Brycheiniog a Maesyfed lle mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth eu boddau bod sylfaenydd Creation Records Alan McGee yn trefnu cyngerdd codi arian i Roger Williams. Mae'r cerddor yn byw yn yr etholaeth erbyn hyn ac yn ffan fawr o'r Aelod Seneddol mae'n debyg. Dyw Nick Clegg ddim am ymweld â B&M yn ystod yr ymgyrch, gyda llaw. Arwydd o hyder tawel, efallai.

Yn olaf gair bach gan un o hen bennau Plaid Cymru- dyn sy wedi gweld mwy o etholiadau na fi hyd yn oed- ac wedi ennill bron pob un ohnyn nhw. "Gwylia Cwm Cynon- os nid y tro hwn, y tro nesaf." Does bosib.

Etholiad di-ddiwedd

Vaughan Roderick | 09:40, Dydd Gwener, 9 Ebrill 2010

Sylwadau (6)

Does 'na'r unman yng Nghymru lle mae'r etholiad yn fwy gweladwy nac Aberystwyth. Hyd yma, o leiaf. Mae posteri Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i'w gweld ym mhob man yn etholaeth fwyaf ymylol Cymru.

O gofio hynny ai heddiw oedd y diwrnod gorau i Google hela car camera i dynnu lluniau o'r dref?

Fe fydd etholiad 2010 yn fyw ar "street-view" am flynyddoedd i ddod!

Mawrion y Genedl

Vaughan Roderick | 16:47, Dydd Iau, 8 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

_47607221_comp_election.jpg

Fedra i ddim gwrthsefyll y demtasiwn i atgynhyrchu'r llun yma o dudalen flaen gwefan y Ö÷²¥´óÐã.

I aralleirio hen, hen jôc;

"Pwy yw'r boi 'na da Michael Caine?"

"Sai'n gwybod ond rwy'n credu taw'r bachan Brown 'na sy nesaf at Ieuan"

Croes i Groes

Vaughan Roderick | 12:03, Dydd Iau, 8 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

_45068532_121d26a3-cd66-42a0-8cd3-e2c97754be80.jpgDyw'r pethau yma ddim yn sicr tan i'r enwebiadau gau ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos y bydd naw plaid yn cyrraedd y trothwy angenrheidiol i sicrhau darllediad etholiadol yng Nghymru.

Yn ogystal â'r pedair plaid fawr mae'n debyg y bydd UKIP, y Blaid Werdd, y BNP, y "Jury Team" a'r Blaid Gristnogol yn ymddangos ar ein setiau teledu.

Coeliwch neu beidio mae hynny'n golygu eu bod hefyd yn haeddu mensh ar y blog! Nid bod hynny'n broblem i fi. Rwy'n gallu meddwl am rywbeth difyr i ddweud am bawb. Gobeithio!

Cymerwch y Blaid Gristnogol fel esiampl. Nawr, y cyfan mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod am y blaid honno yw ei bod yn cael ei harwain gan y boi wnaeth sgwennu "So Macho" i Sinitta yn yr wythdegau ond fe allai hi fod yn allweddol mewn dwy etholaeth y tro hwn.

Mae'n anodd meddwl am ddwy sedd fwy gwahanol i'w gilydd na Na h-Eileanan an Iar a Barking yn Essex ond rheiny yw'r etholaethau lle y gallai blaid gael dylanwad.

Ynysoedd Heledd yw Na h-Eileanan an Iar i chi a fi. Hon oedd y sedd gyntaf i genedlaetholwr ennill mewn etholiad cyffredinol pan etholwyd Donald Stewart yn 1970 a'r SNP sy'n ei dal ar hyn o bryd gyda mwyafrif o 1,441.

Cipio'r sedd o Lafur wnaeth yr SNP yn 2005 ac yn yr etholiad hwnnw fe dderbyniodd plaid George Hargreves (Christian Voice ar y pryd) ychydig dros fil o bleidleisiau.

Dydw i ddim yn arbenigwr ar grefydd Ynysoedd Heledd. Dwi'n gwybod fawr ddim am Eglwys yr Alban heb sôn a y "wee frees" a'r "wee wee frees"! Ond mae Calfinwyr mwyaf sobor yr ynysoedd wedi cael sawl clatsied yn ddiweddar. Cafwyd y fferi sabothol a'r briodas hoyw gyntaf ar Lewis ar yr un penwythnos y llynedd, fel enghraifft.

Dyw'r SNP ddim yn orbryderus ond maen nhw'n gwylio'u cefnau.

Llafur yw'r blai allai ddioddef o bresenoldeb y Blaid Gristnogol yn Barking lle mae Margaret Hodge yn wynebu her gan Nick Griffin a lle mae'r BNP yn gobeithio cipio awenau'r cyngor lleol.

Mae gan y Blaid Gristnogol gefnogaeth gref ymhlith cynulleidfaoedd yr eglwysi du ac mae nifer sylweddol o'r rheiny yn Barking. Hyd yma mae'r blaid wedi gwrthod pob apêl i beidio ag enwebu ymgeiswyr seneddol a chyngor yn yr etholaeth. Yn ôl hen bennau Llafur yn yr etholiadau cyngor y mae'r bygythiad fwyaf gan y BNP ac fe ddylai cefnogwyr George Hargreves gallio ynghylch goblygiadau buddugoliaeth i'r dde eithafol yn y dref.

Dyna i chi ddwy frwydr ddiddorol yn yr Alban a Lloegr ond beth am Gymru fach? Wel, rwy'n fodlon mentro y bydd poblogrwydd y Blaid Gristnogol yn fan hyn rhywle rhwng cyfanswm aelodaeth y Bedyddwyr Albanaidd a nifer selogion Capel Wesle!

Darllen y siart

Vaughan Roderick | 20:15, Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

jevansmep203.jpg
Fe wnes i ddigwydd taro mewn i Jonathan Evans y cyn weinidog a darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd yn ystod ymweliad David Cameron a Chymru ddoe. Roedd e mewn hwyliau da hefyd gan wenu pan wnes i ofyn iddo ai fe oedd "once and future king" Ceidwadwyr Cymru.

Ond roedd Jonathan yn crafu ei ben am rywbeth. Bydd neb yn synnu i wybod mai rhai o'r "bar charts" melltigedig yna yn nhaflenni rhai o'i wrthwynebwyr oedd yn peri'r pendroni.

Yn etholiad 2005 cadwodd Julie Morgan y sedd gyda 39% o'r bleidlais. Y Ceidwadwyr oedd yn ail gyda 36.5% a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd gyda 18.7%. Yn etholiad y Cynulliad derbyniodd y Ceidwadwyr 45.3% o'r pleidleisiau gyda Llafur ar 30.9% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 12.7%.

Eto i gyd yn ôl siart y Democratiaid Rhyddfrydol (quelle suprise) "ras dau geffyl yw hon" rhyngddyn nhw a'r Ceidwadwyr. Cyfanswm cynghorwyr y pleidiau yn yr etholaeth sy'n cael eu dangos yn y siart.

Fel mae'n digwydd mae UKIP hefyd o'r farn mai dau geffyl sydd yn y ras yng Ngogledd Caerdydd- nhw a'r Ceidwadwyr. Mae'n rhai bod nhw'n iawn. Wedi'r cyfan, mae ganddyn nhw siart i brofi'r peth! Cyfanswm pleidleisiau'r pleidiau trwy Brydain gyfan yn yr etholiadau Ewropeaidd sy'n cael eu dangos y tro hwn.

Wrth drafod defnydd y Democratiaid Rhyddfrydol o'r siartiau yma draw ar mae Cai yn dweud hyn;

Petai'r rhesymeg yn cael ymestyn ar hyd Cymru (ac y byddai pobl yn ddigon gwirion i'w gredu) yna byddai pleidlais y Lib Dems yn syrthio trwy'r llawr - mewn lleiafrif gweddol fach o etholaethau yn unig maent yn gyntaf neu'n ail.

Wel ie, ond... Pam cyfyngu'ch hun i ganlyniad yr etholiad diwethaf pan mae 'na loddest o ystadegau eraill i ddewis ohonyn nhw?

Yn achos Gogledd Caerdydd mae'r dacteg yn un weddol hurt ta beth. Mae'n dibynnu ar y cynsail amheus nad yw'r etholwyr yn gwybod mai aelod seneddol Llafur sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd a bod yr arolygon yn awgrymu bod y ras ar lefel Brydeinig yn un agos.

Go brin bod etholwyr un o etholaethau mwyaf ymylol Cymru mor ansoffistigedig a hynny!

Miri Mawr

Vaughan Roderick | 16:36, Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

mmawr2.jpg
Mae galw etholiad yn golygu tipyn o dro ar fyd i ni'r darlledwyr. Yn symbol o'r newid hwnnw mae aelodau uned wleidyddol Ö÷²¥´óÐã Cymru wedi hel eu paciau a gwasgaru ar draws y wlad ar gyfer y frwydr sydd i ddod.

Mae 'na rheolau newydd i ufuddhau iddyn nhw hefyd. Dyw nhw ddim chwarter mor gaeth a'r rhai oedd yn bodoli yn nyddiau Deddf Gynrychiolaeth y Bobol, diolch byth! Roedd y ddeddf honno i bob pwrpas, yn gwahardd holi ymgeiswyr nad oeddynt ymhlith enwau mawr eu pleidiau ar radio a theledu.

Un peth sy'n newid yn ystod yr ymgyrch yw bod y pleidiau yn cael enwebu llefarwyr ar gyfer rhaglenni. Y darlledwyr sy'n penderfynu gweddill yr amser.

Cofiwch mae'r pleidiau i gyd yn ceisio dod rownd i'r sefyllfa honno wrth i etholiad agoshau. Rhoi eu hymgeiswyr blaenllaw yn ffenest y siop yw bwriad pob un blaid, wedi'r cyfan. Dwn i ddim faint o weithiau rwyf wedi clywed cynhyrchydd yn dweud rhywbeth fel hyn lawr y ffon; "ydych chi'n sicr bod annwyd arno fe? Na na dydyn ni ddim eisiau Penri na Myfanwy/ Albert na Nia/ pwy bynnag!"

Un o'r rhaglenni y mae'r pleidiau'n enwebu llefarwyr ar eu cyfer yn ystod yr etholiad yma yw dadl arbennig i blant a phobol ifanc sydd wedi ei threfnu gan CÖ÷²¥´óÐã.

Mae'n amlwg bod y Ceidwadwyr yn credu bod eu barn (neu farn eu rhieni, efallai) yn bwysig gan enwebu David Cameron ei hun i lefaru ar eu rhan. Yr Ysgrifennydd Cartref Alan Johnson yw dewis y blaid Lafur ond pwy fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, tybed? Wel, Lembit, wrth reswm.

Heb os, fe fydd Lembit yn dda gyda chynulleidfa ifanc ond rwy'n amau bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli tric yn fan hyn. Oni fyddai Lembit yn apelio'n fwy at frodyr mawr aelodau'r gynulleidfa?

Wedi cyfan, mae aelod Maldwyn wedi bod ym mlaen y gad yn y frwydr i geisio atal y cynydd yn y dreth ar seidr cryf- hoff foddion rhai o'n llanciau.

Fel mae'n digwydd fe gafodd y dreth honno ei hatal yn y "wash-up". Dydw i ddim yn gwybod p'un ai'r cynllun wnaeth Lembit ei awgrymu yn y Daily Sport oedd yn gyfrifol am y llwyddiant hwnnw;

"So, let's get Daily Sport stunna Lucinda to deliver a crate of pear cider to Gordon Brown to help change his mind. Maybe he'd say "Oh what a lovely pear!"

Nefoedd.

Wrth eu boddau...

Vaughan Roderick | 13:09, Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

orme_tram.jpgMae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Aberconwy, Guto Bebb "wrth ei fodd" a pholisi yswiriant cendlaethol ei blaid yn enwedig y darn sydd, yn ol un o daflenni Guto, yn eithrio busensau bach o dalu yswiriant y deg aelod cyntaf o'i staff.

Wrth gwrs bod Guto wrth ei fodd a'r polisi. Fe fyddai perchnegion gwestai a llefydd gwely a brecwast Llandudno wrth eu boddau hefyd a pholisi o'r fath.

Ond beth yw'r polisi'r blaid mewn gwirionedd? Dyma ar wefan swyddogol y blaid.

"Any new business started in the first two years of a Conservative Government will pay no Employer National Insurance on the first ten employees it hires during its first year."

Ydy hynny'n golygu'r un peth, dywedwch? Mae 'na am hyn ar y prif safle.

_42842757_peterrogers203bbc.jpgHefyd wrth ei fodd heddiw mae'r bythol wyrdd Peter Rogers sydd wedi derbyn caniatad gan ei feddygon i sefyll ar Ynys Môn yn dilyn llawdriniaeth.

Fe fydd Ceidwadwyr yr ynys ac i raddau llai pobol Plaid Cymru yn diawlio'u lwc ond oedd unrhyw un yn credu mewn gwironedd y byddai unrhyw beth dan haul yn rhwystro Peter rhag sefyll?

Chwifiwn ein baneri

Vaughan Roderick | 10:45, Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

_42883249_ukip_203.jpgFe fyddai dyn yn meddwl y byddai pob plaid yn gweithio'n galed i geisio osgoi cydymffurfio a stereoteip anffodus. Ydy UKIP yn gall felly i drefnu ei lansiad Cymreig mewn Clwb Hwylio?

Oce, dyw blasers yn orfodol ac fe fyddai Clwb Golff yn waeth. Serch hynny...

Gan fy mod wedi crybwyll y Gwyrddion yn gynharach mae'n werth nodi bod UKIP yn bwriadu sefyll ym mhob etholaeth yng Nghymru y tro hwn.

Mae na ambell i stereoteip anffodus arall. O'r 38 darpar ymgeisydd sy'n cael eu rhestri ar y blaid mae 36 yn ddynion. Does na ddim llawer o Gymraeg ar y safle chwaith.

Da yw dau

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

_39039913_gwyrdd203.jpg
Mae'n ddydd dau. Dydd da i chi!

Cyn cyrraedd y bregeth dyma ambell i gyhoeddiad.

Mae gwefannau etholiad Ö÷²¥´óÐã Cymru yn awr yn fyw. Mae'r un Gymraeg yn a'r un Saesneg yn . Gan fod y safleoedd yn cynnwys deunydd unigryw mae'n werth cadw llygad ar y ddau. Fe fyddwn yn ychwanegu llwyth o bethau newydd i'r safleoedd wrth i'r ymgyrch fynd yn ei flaen.

O safbwynt newyddion mae'n ffocws ni ar y Gogledd heddiw gyda ffrae ddifyr yn datblygu mewn un etholaeth allweddol. Mwy am hynny yn y man.

Yn y cyfamser mae'r Gwyrddion wedi cyhoeddi eu bod am sefyll mewn pedair ar ddeg o etholaethau Cymru y tro hwn. Dyma nhw;

Arfon, Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Ceredigion, Mynwy, Pontypridd, Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe a Thorfaen.

Mae rhai o'r rheiny yn etholaethau ymylol lle y gallai ychydig gannoedd o bleidleisiau wneud gwahaniaeth. Rwy'n rhyw dybio mai'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n dioddef fwyaf o ymyrraeth y Gwyrddion er mai ar sail greddf rwy'n dweud hynny yn hytrach nac ar sail unrhyw dystiolaeth bendant.

Hen bethau anghofiedig...

Vaughan Roderick | 21:38, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

Sylwadau (0)


Dyw'r stori yma'n ddim byd i wneud a'r etholiad. Mae'n ddiddorol, serch hynny.

Mae pawb yn gyfarwydd ac enw Thomas Jefferson, prif awdur datganiad annibyniaeth America a thrydydd Arlywydd y wlad honno.

Mae'n debyg ein bod ni'r Cymry hefyd a rhyw fath o gof bod ganddo gysylltiadau Cymreig. Yn ei hunangofiant mae Jefferson ei hun yn dweud bod ei deulu arfer byw "yng nghysgod yr Wyddfa" ac yn 2005 gosodwyd cofeb iddo yn Llanberis.

Yr hyn nad oeddwn i'n gwybod oedd bod Jefferson yn rhyw fath o Edward Llwyd o foi, gan gofnodi rhai o ieithoedd cynhenid y wlad o'u siaradwyr olaf.

Fel yn achos Edward Llwyd a'r Gernyweg mae cofnodion Jefferson yn awr yn cael eu defnyddio mewn ymdrech i adfer ieithoedd hen golledig Long Island. Mae 'na rywbeth sy'n gyfarwydd iawn yn y geiriau yma;

" Knowing the language is an integral part of understanding our own culture, past and present. When our children study their own language and culture, they perform better academically. They have a core foundation to rely on."

Mae'r stori gyfan yn.

Pwys o gnawd

Vaughan Roderick | 16:16, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

Sylwadau (3)

logos_batwing_ident.jpgOs oeddech chi'n gwylio sianel newyddion y Ö÷²¥´óÐã neu "Sky News" y prynhawn yma efallai eich bod wedi sylwi bod y ddwy wedi darlledu cynhadledd newyddion Plaid Cymru yn fyw. Hwn yw'r tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn etholiad cyffredinol i'n nghof i.

Does dim angen bod yn athrylith i wybod pam y darlledwyd y gynhadledd. Mae'r Ö÷²¥´óÐã a Sky fel eui gilydd yn hynod o sensitif ynghylch y sylw y mae'r pleidiau sydd wedi eu cau allan o'r dadleuon teledu yn cael. Gallwch ddisgwyl rhagor o sylw tebyg yn ystod yr wythnosau i ddod.

Mae Plaid Cymru a'r SNP wedi ysgrifennu'n swyddogol at ymddiriedolaeth y Ö÷²¥´óÐã ynghylch y dadleuon. Ni dderbyniwyd ateb hyd yma a theg synhwyro bod panjandrums yr ymddiriedolaeth yn ceisio gwneud popeth posib i sicrhau nad yw eu penderfyniad yn cael ei wyrdroi gan arolwg barnwrol.

Yn y cyfamser gall Plaid Cymru ddisgwyl mwy o sylw ar ein sgriniau teledu nac mewn unrhyw etholiad o'r blaen. Mae p'un ai ydy hynny'n ddigon i dawelu dicter y blaid ynghylch trefniadau'r rhaglenni dadlau ai peidio yn fater arall.

Gwaelod y Dosbarth

Vaughan Roderick | 15:27, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

_45290203_cherylgillan226_bbc.jpg Fe wnes i grybwyll yn gynharach bod y Guardian wedi galw Alun Cairns yn un o "sêr y dyfodol". Efallai eich bod o'r farn na fyddai pawb yng Nghymru yn llwyr gytuno a'r dadansoddiad.

Ta beth am allu proffwydol Lewis Baston fe fydd Ceidwadwraig amlwg yn gobeithio nad yw un arall o newyddiadurwyr y Guardian a'i fys ar byls.

Mewn blogbost awgrymodd Nicholas Watt fod aelodau mainc flaen David Cameron yn perthyn i un o saith dosbarth. Dyma nhw:

1. Y "naw Diogel" sef pobol fel Kenneth Clarke a William Hague.
2. Y "tri ffefryn personol" (Greg Clark, Nick Herbert a Jeremy Hunt).
3. Yr "hen ffyddloniaid" sef Oliver Letwin a'i debyg.
4. Y "rhai sy'n haeddu bod", David Willets yn eu plith.

Mae'r blog yn awgrymu y byddai aelodau'r pedwar dosbarth cyntaf yn sicr o gael lle yn y Cabinet pe bai'r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad. Mae dyfodol y bobol yn y tri dosbarth nesaf yn llai sicr. Dyma'r gweddill felly;

5. Y "ddau ar y cyrion"
6. Y "pump anlwcus"

Yn olaf oll i gyd mae dosbarth sydd a'r enw hyfryd y "plodding four".

Fedrwch chi dyfalu ym mha ddosbarth y mae Cheryl Gillan?

Efallai bod Lewis Baston yn iawn ac y bydd 'na agoriad i Alun wedi'r cyfan!

Byw mewn gobaith

Vaughan Roderick | 12:51, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

Sylwadau (2)

_45181419_-5.jpgAm wn i mae optimistiaeth yn hanfodol i unrhyw un sy'n ymhel a gwleidyddiaeth. Os nad ydych chi'n un o'r creaduriaid prin hynny sy'n credu bod "gweithio dros yr achos" yn wobr ynddi ei hun mae'n rhaid credu mewn buddugoliaeth. Os nid yn fama, yn rhywle. Os nid y tro hwn, y tro nesaf.

Mae angen cyplysu'r optimistiaeth a realiti wrth gwrs. Does dim byd yn fwy sicr o gael eu chwalu 'na gobeithion di-sail.

Fe wnaeth ffrind i mi yn Awstralia, sy'n hen ben ar wleidydda, fathu'r term "first-time candidate syndrome" i ddisgrifio'r ffaith bod ymgeiswyr sy'n sefyll am y tro cyntaf bron yn ddieithriad yn argyhoeddedig eu bod am ennill erbyn diwrnod yr etholiad.

Roedd fy nghyfaill yn mynd allan o'i ffordd i sicrhau bod traed yr ymgeiswyr hynny'n dychwelyd i'r ddaear. Roedd angen byrstio swigen gobeithion yr ymgeisydd tro cyntaf neu fe fyddai fe neu hi fyth bythoedd yn dychwelyd am ail ymdrech.

Sut mae barnu'r geiriau yma o eiddo Kirsty Williams, felly?

"Each election, the Liberal Democrats gain more and more ground. In the last election, 1 in 4 people voted Liberal Democrat in Britain. If that increases to 1 in 3, the Lib Dems can lead the next government and we will deliver the change that works for Wales."

Rwy'n cymryd mai at etholiadau seneddol y mae Kirsty'n cyfeirio. Wedi'r cyfan dyw plaid y 6-6-6 ddim wedi ennill llawer o dir yn y Cynulliad!

Am wn i mae'r honiad y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol arwain y llywodraeth pe bai'r blaid yn ennill traean o'r pleidleisiau yn gywir ond oes unrhyw un yn digwyl i hynny ddigwydd mewn gwirionedd?

Mae un o ddau beth yn gallu digwydd gyda datganiadau fel yr un yma. Naill ai mae pobol yn gwrthod eu credu gan danseilio hygrededd y gwleidydd perthnasol neu mae pobol yn llyncu'r peth gan olygu bod hyd yn oed canlyniad clodwiw yn ymddangos yn siomedig.

Mae angen cyffroi'r trwps, wrth gwrs ond gallai gosod amcanion na ellir eu cyflawni brofi'n ffolineb.


Gweld sêr

Vaughan Roderick | 11:20, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

_44749025_cairns226bbc.jpgMae'n braf gweld newyddiadurwyr Fleet Street (neb beth bynnag mae'r wasg Brydeinig yn cael ei alw'r dyddiau 'ma) yn dangos eu dyfnder gwybodaeth arferol am wleidyddiaeth a gwleidyddion Cymru!

Mae'r Guardian wedi cyhoeddi cyfres ddefnyddiol o'r enw "Lewis Baston's Regional Guides" ac wrth gwrs mae yn un o'r "rhanbarthau" hynny.

Mae'n amwg bod Mr Baston wedi gwneud ei waith cartref yn enwedig wrth ddewis ei "star of the future". Pwy sy'n cael ei ddisgrifio fan hyn, dywedwch?

"He would be a logical choice for Welsh Secretary, to handle the liaison between a Tory Westminster and a Labour/Plaid government in Wales."

Alun Cairns. Wrth gwrs. Pwy arall?

TÅ· ar y tywod

Vaughan Roderick | 10:10, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

Sylwadau (1)

_45628431_brown_bbc_226b.jpgDyma i chi gwestiwn diddorol. Ydy Llafur yn gallu ennill yr etholiad?

Nid sôn am sicrhau senedd grog ydw i yn fan hyn, na hyd yn oed bod yn blaid fwyaf mewn senedd o'r fath, ond ennill go iawn. Hynny yw, oes 'na siawns i Lafur sicrhau mwyafrif dros bawb trwy ennill dros hanner y seddi yn Nhŷ'r Cyffredin?

Doedd y cwestiwn ddim wedi fy nharo nes i ryw un ei ofyn y bore 'ma. Mae pethau wedi bod cynddrwg i Lafur ers cyhyd nes i mi gymryd yn ganiataol bron mai senedd grog oedd y gorau y gallai Llafur ei disgwyl. A barnu o brisiau'r bwcis mae rhan fwyaf o'r rhai sy'n mentro swllt ar y canlyniad o'r un farn.

Mae 'na ddwy ffactor y mae pobol yn anwybyddu yn fan hyn, dwi'n meddwl, y naill yn ymwneud a'r gyfundrefn etholiadol a'r llall a thactegau'r Ceidwadwyr.

Y pwynt cyntaf i gofio yw cyn ised yw'r trothwy y mae'n rhaid i Lafur ei gyrraedd oherwydd y manteision y mae'n system bleidleisio yn rhoi i'r blaid. Wedi'r cyfan, fe enillodd Llafur a mwyafrif cysurus yn 2005 er iddi dderbyn llai na 36% o'r bleidlais. Mae 'na ad-drefnu ffiniau wedi bod sydd wedi lleihau'r fantais Lafur i ryw raddau ond mae hi dal yn bodoli. Siawns nad yw trothwy mor isel y tu hwnt i gyrraedd y blaid.

Yr ail bwynt yw hwn. Rydym wedi clywed hyd syrffed am y ffordd y mae'r Ceidwadwyr wedi canolbwyntio adnoddau ar y seddi ymylol ond os ydych chi'n palu ymhellach nid yn y rheng flaen o etholaethau y mae'r arian hwnnw wedi buddsoddi. Yn hytrach mae'r Torïaid wedi canolbwyntio ar y seddi llai ymylol sydd eu hangen er mwyn ennill mwyafrif.

Mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith. Wedi'r cyfan fe ddylai'r seddi mwyaf ymylol ddisgyn heb fawr o ymdrech yn yr hinsawdd bresennol. Ond mae 'na ochor arall i'r geiniog fach yna.

Pe bai Llafur yn llwyddo i adennill tir i'r graddau mai senedd grog oedd y canlyniad tebygol fe fyddai maes y gad yn symud o'r ail reng o seddi ymylol i'r rheng gyntaf- yr union seddi lle nad yw'r Ceidwadwyr wedi buddsoddi'n helaeth.

Nid proffwydoliaeth dy gen i yn fan hyn ond sylw.

Y peryg i'r Ceidwadwyr yw eu bod wedi codi tŷ heb osod sylfaen. Pe bai'r gwynt yn dechrau chwythu i gyfeiriad Llafur gallai'r gwynt hwnnw ddymchwel gobeithion y Ceidwadwyr yn y seddi mwyaf ymylol yn ogystal â'r ail reng. Dydw i ddim am fentro hanner coron y bydd hynny'n digwydd ond yr ateb syml i'r cwestiwn "oes gobaith i Llafur ennill?" yw "oes gleu".

5... 4... 3... 2... 1....

Vaughan Roderick | 08:59, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

_36625023_bigben_bbc150.jpgBant a ni felly.

Ar ôl ychydig ddyddiau i ffwrdd mae'n bryd troi'r tyrbo ymlaen ar y blog! Fe fydd fy mhroffwydoliaethau ynghylch yr etholiad yn ymddangos draw ar y prif safle'n ddiweddarach heddiw.

Yn y cyfamser mae'r wobr am gamgymeriad cynta'r ymgyrch yn mynd i Blaid Cymru am ddatganiad newyddion a'r pennawd yma;

"Ron Davies urges voters to back Lindsay Whittle as Plaid AM for Caerphilly"

Fel dywedodd rhyw un "they don't know their AMs from their elbow"!

Yn y cyfamser dyw gwleidyddiaeth y Cynulliad ddim ar stop yn gyfan gwbwl. Mae Darren Millar wedi ymosod heddiw ar Gomiswn y Cynulliad am wario £80,000 ar "sesiynau'r Pierhead" i nodi ail-agor yr adeilad hwnnw. Digon teg. Mae Darran yn ychwanegu hyn;

"It beggars belief that the Commission thinks it is acceptable to spend so much taxpayers' money on events like these. Serious questions must now be asked as to how the Assembly Commission can become more accountable for the cash it spends."

I bwy y dylai Darren ofyn y cwestiwn? William Graham, efallai? Wedi'r cyfan fe sy'n cynrychioli'r Ceidwadwyr ar y Comisiwn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.