Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Catrin a'i ffrind Penwythnos llawn gigs i'w gofio
Awst/Medi 2008
Catrin Owen sy'n bwrw golwg ar benwythnos mawr menter Bro Dinefwr ar fferm Glangwenlais yng Nghil-y-Cwm.

Mae'n benwythnos o gerddoriaeth a chymdeithasu, sydd wedi tyfu i fod yn ŵyl â rhywbeth at ddant pawb. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r ŵyl wedi tyfu gyda mwy a bobl o'r ardal a thu hwnt yn dod i glywed cerddoriaeth gan rai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru, yn ogystal â bandiau newydd.

Felly sut oedd Penwythnos Mawr 2008 yn cymharu â'r blynyddoedd llwyddiannus a fu? Er i'r glaw ymddangos sawl gwaith ar Fferm Glangwenlais, Cil-y-cwm yn ystod y penwythnos, wnaeth hyn ddim amharu ar yr awyrgylch gwych a fu drwy gydol yr ŵyl.

Un nodwedd sy'n gwneud y penwythnos mor arbennig yw bod gan fandiau newydd ac ifanc gyfle i berfformio a dangos eu doniau. Yn wir, roedd sawl band a ddisgleiriodd ac yn sicr maent yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc yr ardal gydio mewn gitar neu ddrymiau a ffurfio band.

Uchafbwynt nos Wener i mi, a sawl un arall rwy'n siwr oedd perfformiad gwefreiddiol Dafydd Iwan. Ers rhai blynyddoedd bellach mae e wedi bod yn dod i berfformio yn yr ŵyl, a bob blwyddyn mae ei berfformiad yr un mor gyffrous a ffres.

Canodd yr hen glasuron ac amrywiaeth a ganeuon eraill gan ddenu torf o bob oedran a llwyddo i ddiddanu pawb. Caneuon dwys a'r digri a digon a ddawnsio! Parhaodd y naws bywiog o fwynhad i mewn i oriau man y bore, yn enwedig i'r rhai a fu'n gwersylla.

Unwaith eto roedd nos Sadwrn yn noson wych gyda bandiau fel Celt a Radio Luxembourg yn perfformio. Cafwyd gwrthgyferbyniad llwyr gyda Huw Chiswell yn canu wrth biano yn hamddenol tra bod Radio Luxembourg yn egniol a gwyllt - rhywbeth i blesio pawb!

I fi'n bersonol, roedd y cyfuniad o Radio Luxembourg a Celt yn llwyddiant llwyr am i'r ddau annog y gynulleidfa i ddawnsio, canu a mwynhau mas draw!

Er bod y penwythnos wedi bod yn wlyb, ni wnaeth hyn ddim niwed i'r awyrgylch drydanol. Roedd yn wych bod yno a gallu cymdeithasu â phobi ifanc yr ardal a thu hwnt wrth wrando ar gerddoriaeth gan sêr y presennol a'r dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at ŵyl Menter Bro Dinefwr 2009 yn barod!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý