Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y staff Diosg y ffedog ar ôl 34 mlynedd o wasanaethu
Mawrth 2007
Bu Dydd Gŵyl Dewi eleni yn ddiwrnod fydd yn aros yn y cof i Dawn Webb.
Pam? Am mai dyma'r diwrnod cyntaf o'i hymddeoliad. Wedi 34 mlynedd o weithio yng Ngholeg Gelli Aur, mae'r amser wedi dod i ddiosg ei ffedog. Ers iddi adael yr ysgol yn 15 oed, mae Dawn wedi gweithio yno ar wahân i rhyw gyfnod o tua deg mlynedd ar ddiwedd y 60au a'r 70au, i gael magu ei theulu.

Ar y dechrau, glanhau a gweini bwyd oedd ei dyletswyddau, ond yn 1965 cymerodd arni y ddyletswydd o goginio. Yn rhyfedd iawn, fe aned Dawn adeg yr eira mawr yn 1947 mewn bwthyn ar Fferm y Coleg lle nawr saif y ffreutur a'r gegin ble mae wedi bod yn gweithio ers i'r Coleg symud o'r hen blas i'r safle presennol ar y fferm.

Newidiadau
Gwelodd newidiadau mawr ers iddi ddechrau gweithio yn y coleg. Roedd y gwaith llawer mwy caled pryd hynny. Dywedodd Dawn
"Dwy Aga glo oedd gennym yn y gegin yn wreiddiol, ac ambell waith, byddai'n anodd cael y ffwrn i dwymo pan oedd y gwynt o rhyw gyfeiriad arbennig. Yna daeth stôf nwy, gan wneud bywyd tipyn yn haws. Ond bu'n rhaid sgrwbio lloriau cerrig y plas bob dydd. Pryd hynny roedd yr ystafelloedd yn cysgu tua 6 neu 8 o fyfyrwyr, a byddent yn gorfod gwisgo crys a thei i ddod i swper bob nos."

Erbyn hyn, mae ganddynt ystafell yr un. Mae'r wisg yn anffurfiol, ac maent yn cael dewis cymharol eang ar y fwydlen. Blynydde nôl dim ond dau ddewis oedd - bwyta fe neu peidio! Byddai'r myfyrwyr yn cael pedwar pryd y dydd, ond erbyn hyn dim ond tri phryd maent yn cael."

Pan dechreuodd Dawn, roedd deg aelod o staff yn gweithio yn y gegin, ond erbyn heddiw dim ond pump sydd. Maent yn griw sydd wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd. Ac mae gan ei chyd-weithwyr feddwl uchel iawn ohoni. Nid yn unig staff y gegin, ond aelodau eraill o'r staff hefyd.

Meddai Lyn Richards, sydd wedi bod yn ddarlithydd yn y Coleg ers 1994, " Mae Dawn yn gymeriad annwyl iawn, a bydd hi'n chwith iawn hebddi. Does dim neb yn medru bod yn rhan o'r coleg am gymaint o flynyddoedd heb ddod yn rhan o'r lle, ac mae Dawn wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at y naws deuluol, gartrefol, naturiol Gymreig sydd yn bodoli yma. Mae ganddi ffordd di-ffwdan gyda'r myfyrwyr, ond mae'n ffrind iddynt bob un a chanddi wên a gair o groeso bob amser."

Bydd Lyn Richards yn gweld eisie cyris Dawn yn enwedig, a'i mins peis adeg y cyngerdd Nadolig ond yn fwy na dim falle, y tynnu coes diniwed. Ers pedair blynedd bellach, mae'r coleg wedi ei ail-leoli lawr ar y fferm, ac mae pob cyfleuster modern y gallech feddwl amdano yno. Felly hefyd ar y fferm - fe fu hyd yn oed robot yno'n godro. Ond hyd yma, does neb wedi dod o hyd i'r un robot allai gymryd lle Dawn!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý