Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blackpool O fro Dinefwr i Bwlldu
Tachwedd 2006
Trefnodd Hywel Jones o Gwmdu daith arbennig i griw o fro Dinefwr i Blackpool. Dyma ychydig o hanes y criw yng ngwesty'r cantorion o Gymru Tony ac Aloma.

Ar y penwythnos cyntaf ym mis Hydref trefnais daith i 38 o bobl mewn bws wedi ei logi gan Midway Motors Crymych, i'r Pwlldu (Blackpool) i sefyll yn ngwesty'r Gresham, sydd yn cael ei redeg gan Aloma a'i phriod Roy James a Tony ers 19 mlynedd.

Saif gwesty'r Gresham dafliad carreg o'r adeilad enwog "Winter Gardens" a thua 300 medr o'r tŵr enwog. Roedd wynebau'r teithwyr i gyd i weld yn hapus ar fore dydd Gwener, rhai ar eu taith cyntaf i'r Pwlldu i weld y goleuadau lliwgar enwog, rhai parau priod i ffwrdd am y tro cyntaf ers 35 mlynedd o fywyd priodasol.

Penderfynwyd cael cinio mewn bwyty yn y parc antur o'r enw Coed -y- Dinas tu allan i'r Trallwng. Safle hen fferm yw, a penderfynodd y perchennog arallgyfeirio ar ôl cael ei holl stoc anifeiliaid wedi eu difa pan gafodd ei fwrw gan y clefyd Traed a'r Genau nôl yn 2001. Hyfryd oedd gweld yr adeiladau wedi cael eu troi i wahanol bwrpas, fel tŷ^ bwyta, siop fwyd a chanolfan garddio.

Cyraeddasom westy'r Gresham tua amser te, ac ar ôl swper reit flasus roedd Wyndham Rees yn barod i'n gyrru yn ei fws moethus i weld y goleuadau lliwgar sydd yn ymestyn tua 6 milltir a chymerodd hyn awr a hanner. Nôl i'r gwesty ble roedd Tony a Roy ar yr allweddellau yn barod i'n diddanu. Aeth y canu ymlaen tan ganol nos, mewn awyrgylch hollol Gymreig.

Bore trannoeth ar ôl brecwast ymweld â Marchnad Fleetwood, ble roedd popeth ar gael am bris rhesymol, yn y prynhawn ymweld â "Ystafell Ddawnsio". Nid oedd yn bosib mynd i fyny i'r Tŵr oherwydd gwynt cryf.

Ar ôl swper euthum â thua hanner dwsin ar daith enwog ar y tram am tua pedair milltir i fyny i Bisham. Roedd hyn yn brofiad iddynt, oherwydd nid oeddent wedi teithio ar un o'r blaen. Mae rhan fwyaf o dramiau y Pwlldu yn dyddio nôl i ganol tridegau'r ganrif ddiwethaf. Cyrraedd yn ôl ac yn y gwesty roedd Caryl Parry Jones a'r Band yn barod i'n diddanu sef Christian Phillips (gitâr), Miriam Isaac (ei merch yn canu), a Steffan Rhys Williams, enillydd Cân i Gymru 1999, (llais / peiriannydd sain). Cawsom wledd o ganu ganddynt. I gloi'r noswaith, fel syrpreis i ni, cawsom weld Tony ac Aloma ar y llwyfan yn canu dwy gân sef "Wedi colli rhywun sy'n annwyl" a "Cofion gorau". Yr oeddem i gyd yn ddiolchgar i Aloma am frwydro i ganu, oherwydd cyflwr ei hiechyd.

Ar ôl brecwast blasus fore Sul, rhaid oedd troi yn ôl am adre gan alw yn Chorley i ymweld â siop enfawr "Bygone Times" yn cynnig pob math o hen bethau fel offer ffermio, hen gelfi, ambell feic ac arwyddion hynafol fel "Lyons Tea" a'i debyg. Heb ddatgelu unrhyw enw, roedd Wyndham yn fwy na pharod i gludo ym mol y bws pethau fel cadair siglo, bwrdd crwn, stondin cylchgronau a set procio tân.

Erbyn hyn maent mewn cartrefi clud "rywle ym Mro Dinefwr". Roedd pawb yn awyddus i gael cinio rhost Dydd Sul fel arfer, a threfnais ymlaen llaw i alw yn ôl yn Coed -y- Dinas, a chafodd pawb wledd. Cyrhaeddom yn ôl i Fro Dinefwr tua 7 o'r gloch.

Bwriedir mynd nôl i'r Gresham yn yr ail benwythnos ym mis Hydref 2007,gan fod y gwesty eisioes wedi llogi Iona ac Andy a'u Canu Gwlad i diddanu am y penwythnos. Mae Aloma, Roy, a Tony bob amser yn falch i weld rhai o Gymru yn dod i sefyll yn eu gwesty yn enwedig yn ystod tymor y goleuadau. Mae adloniant Cymreig wedi ei baratoi ganddynt o flaen llaw i'r gwestion.

Carwn ddiolch i bawb am fy nghefnogi, ac i Wyndham Rees gyrrwr a pherchennog Midway Motors Crymych am daith hwylus.

Hywel Jones


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý