Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llun o Rhydian Roberts Rhydian - Y Seren o Bontsenni
Rhagfyr 2007
Mae'r gyfres deledu X FACTOR yn un hynod boblogaidd ac yn un gyffrous i'r Cymry eleni.

Mae yna Gymro Cymraeg lleol wedi cyrraedd y pump olaf yn y sioe a ddaw i ben yng nghanol mis Rhagfyr. Ydych chi'n un o wylwyr selog y rhaglen deledu? Wel os ydych fe fyddwch wedi gwylio'r canwr bariton dawnus a'r cymeriad hyderus o ardal Pontsenni sef Rhydian Roberts.

Mae yna ddiddordeb mawr gan bobl o bob rhan o Brydain yn anturiaethau ac hyfforddiant cerddorol y gŵr ifanc wrth iddo geisio cael cefnogaeth beirniaid y sioe a'r cyhoedd i ennill y gystadleuaeth a dod yn fyd-enwog.

Cafodd Rhydian ei addysg yn Ysgol Feithrin Pontsenni; Ysgol Gynradd Gymraeg Y Bannau, Aberhonddu a Choleg Preswyl Llanymddyfri ac fe ddywed taw un o gyfnodau hapusaf ei fywyd oedd yn y Coleg ac mae'n teimlo hi'n fraint aruthrol iddo orffen ei gyfnod yno fel prif-fachgen. Ynghyd â bod yn ganwr gwych mae'n chwarae'r trwmped a'r corned yn hyderus. Contractiwr trydanol yw ei dad Malcolm wrth ei alwedigaeth ac mae ei fam Angela yn gweithio i Croesffyrdd, yr elusen sy'n gofalu am ofalwyr. Mae'r teulu'n cadw cysylltiad agos â'r ardal, a thra ar ymweliad â Choleg Llanymddyfri cafodd gohebydd Y Lloffwr gyfle i holi Rhydian a'i rieni balch.

Dywedodd Angela fod yna gefnogaeth anhygoel wedi bod i'w mab a'i fod yntau'n ddiffuant yn ddiolchgar i bawb sy'n pleidleisio bob wythnos. Bob prynhawn Gwener mae Rhydian yn sôn am ddigwyddiadau'r wythnos ar rhaglen radio Dylan a Meinir ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru ac mae'n rhoi gwybodaeth a negeseuon ar ei wefan - ac yno rhoddodd deyrnged i Ray Gravell. Bob Dydd Sadwrn mae wyth o'i gefnogwyr yn cael mynd i'r Thames Talk Back Studio ger Wembley i'w gefnogi - arwahân i'w rieni sy'n mynd yn rheolaidd mae Rhydian yn ceisio gwahodd gwahanol bobl sydd wedi ei helpu ar hyd ei yrfa i fynd i weld y sioe gyffrous.

Deallir ei bod hi'n uchelgais ganddo gael cytundeb recordio; i ganu gyda Kathryn Jenkins ac i ganu'r Anthem Genedlaethol mewn Gêm Rygbi Rhyngwladol yng Nghaerdydd. Mae Rhydian yn ŵr heini gan yr arferai chwarae criced a rygbi yn Aberhonddu ac yn yr ysgol roedd yn godwr pwysau penigamp. Cyfrifir Rhydian fel gŵr ifanc annwyl, serchog, hapus ac ymroddgar gan ei deulu a'i ffrindiau, ac mae'n haeddu pob llwyddiant.

  • Gwrandewch ar y cyfweliadau gyda Rhydian Roberts ar raglen Dylan a Meinir ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.

    Gwrando

  • Rhydian yn gorffen yn ail

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý