Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bethan Walsh Sgiliau Busnes Bethan
Ionawr / Chwefror 2005
Roedd un ferch ifanc o Seilo ger Llanymddyfri yn rhan annatod o fwrlwm cystadleuaeth Cymraes y Flwyddyn 2004.

Mewn seremoni wobrwyo grand yn Arena Rhyngwladol Caerdydd, fe gyhoeddwyd mai Bethan Walsh yw'r ferch ifanc sydd wedi cyflawni fwyaf trwy Gymru gyfan, wrth iddi ddod yn fuddugol yng nghategori 'Cyflawnwraig Ifanc, Menter yr Ifanc Cymru 2004'. Camp enfawr, yn enwedig o ystyried mai ond 17 oed yw Bethan.

Mae Bethan yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Tre-gib, Ffairfach ac yn un o'r 16 oedd wedi sefydlu cwmni Underwood Visions. Bethan oedd Rheolwr Gyfarwyddwr y prosiect, a'i chyfoedion yn yr ysgol wnaeth ei henwebu hi am y wobr. Bu'r cwmni yn dylunio a gwerthu CD-Rom ar fywyd a gwaith y bardd o Dalacharn, Dylan Thomas.

Bu'r prosiect yn llwyddiant mawr, gan ennill cystadleuaeth a gynhaliwyd gan yr elusen Menter yr Ifanc trwy Brydain y llynedd. Ydi, mae Bethan yn hen gyfarwydd ag ennill gwobrau, ond dyw hi ddim wedi dod i'r brig ar chwarae bach.

"Mae e' wedi bod yn lot o waith caled, ond dwi wedi cael profiadau gwerthfawr iawn, ac wedi dysgu llawer o'r holl broses," esbonia Bethan, wrth gael saib o'i gwaith adolygu. Mae Bethan yn ei blwyddyn olaf yn ysgol Tre-gib, ac yn wynebu un o'i heriau meyaf - ei arholiadau Lefel A! Mae hi'n astudio Cymraeg, Saesneg ac wrth gwrs Busnes - pwnc y mae ganddi brofiad helaeth ynddo, a hithau ond yn 17 oed.

"Fe ddechreuodd yr 16 ohonom ni gwmni Underwood Visions nôl ym mis Hydref 2003, ac roedd rownd gyntaf cystadleuaeth 'Menter yr Ifanc' flwyddyn wedi hynny. Fe wnaethom ni ennill rownd y sir, wedyn rownd gorllewin Cymru a rownd Cymru, ac yna rownd Prydain. Rhan o'r wobr oedd cael cwrdd â Gordon Brown yn 11, Stryd Downing ac yna cynrychioli Prydain yn rownd Ewrop am bum diwrnod bendigedig ym Malta.

O'r cannoedd a ymgeisiodd am y brif wobr 'Cyflawnwraig Ifanc Cymru', gan gynnwys nifer o'i chyd-ddisgyblion, fe ddewiswyd Bethan a dwy arall i fynychu'r rownd derfynol yng Nghaerdydd. Yno, cafodd gyfweliad a rhoddodd gyflwyniad 10 munud o flaen y panel cyfweld. Cyhoeddwyd Bethan yn enillydd mewn noson glitzy yn yr Arena Ryngwladol yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Noson fydd yn aros yng nghof Bethan am byth - ond yn anffodus, atgofion yw'r oll erbyn hyn.

"Ma' 'da fi ddigon ar fy mhlât nawr rhwng yr arholiadau a cheisio am fynediad i Brifysgol" meddai Bethan, "ond dwi dal yn cadw llygad ar beth sy'n digwydd yn y byd busnes, a dwi'n derbyn pethau drwy'r post gan fy mod wedi gwneud llu o gysylltiadau ar ôl ennill y cystadlaethau."

Mae Bethan yn ddiolchgar iawn am bob cefnogaeth gan ei rhieni, ei hathro Busnes yn yr ysgol Mr Tim Williams, ac wrth gwrs i griw Underwood Visions. Pob lwc iddi yn ei harholiadau ac wrth geisio ymhellach yn maes y Gyfraith yn y Brifysgol. Fe glywn lawer mwy am Bethan yn y dyfodol - pob lwc i ti.

Heledd ap Gwynfor (Prosiect Papurau Bro)


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý