Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Coron Dirgelwch y Goron
Ebrill 2003
Allwch chi helpu i ddatrys dirgelwch Coron Eisteddfodol a brynwyd mewn canolfan hynafolion yn Llandeilo? ...
Y mae gennym ni acw erbyn hyn gysylltiadau teuluol agos yn nhref Llandeilo ac achos, o'r herwydd, i gyrchu'n rheolaidd i Ddyffryn Tywi. Yn ddieithriad bron yn ystod yr ymweliadau rheini byddwn yn rhoi tro o gwmpas canolfan hynafolion 'The Works' yno yng ngwaelod y dref ac, yn amlach na pheidio, yn ildio i'r demtasiwn o brynu rhywbeth neu'i gilydd.

Yn ystod un o'n hymweliadau diweddar fe drawodd llygaid fy ngwraig ar eitem a oedd wedi ei gosod mewn sefyllfa beth o'r neilltu yno ond un er hynny a aeth â'n bryd yn llwyr yn syth.Eitem ar stondin CJC, Rhif 14 oedd hi, heb yr un manylyn yn ei chylch, dim namyn label wrth gatyn o linyn yn nodi'n swta "an old Eisteddfod Crown" - ac yna'r pris.

Roedd cwpwl o Saeson digon stwrllyd yn snwyrian o'i chwmpas erbyn i ni ddychwelyd - ei wraig yn cael hwyl fawr yn gosod y goron ar ei phen gan holi ei gwr yn goeglyd "Would this make me look like a true Welsh bard I wonder?" ac ati, ac ati.

Roedd rhywun, rywle, rywbryd maentumiais wedi gwastraffu gormod o'i ynni, wedi llafurio'n llawer rhy galed, wedi chwysu a stachu a phendroni wrth ymgodymu a'i awen, wedi treulio oriau digwsg uwchben ei greadigaeth arobryn i'w wobr yn y diwedd weld terfyn mor ddi-nod, mor isel wael, mor ddianrhydedd.

A dyna ei chipio o dan eu trwynau a mynd â hi at y dyn oedd piau'r drol - o leiaf Reolwr y sefydliad - i holi tybed pa ostyngiad a allai ei gynnig ar y pris a nodwyd. Ar ôl dygn fargeinio fe lwyddwyd!

Yn y cyflwr y'i prynwyd roedd hi'n hynod ddi-sglein, yn ymylu ar fod yn felynddu ei lliw, er y gellir cyflawni gwyrthiau rhyfeddol bob amser efo dim ond chwarter llond tun o Silvo neu o Duraglit! Ac fe wnaed hynny unwaith y cyrhaeddwyd gartre'.

Beth yw ei hanes?
Nid oes awgrym ar ei chyfyl i nodi ym mha eisteddfod yr enillwyd hi, na phryd chwaith y cynhaliwyd yr union eisteddfod honno. Prin efallai ei bod yn goron genedlaethol canys nid yw nod cyfrin Gorsedd Beirdd Ynys Prydain arni. Ond wedyn, o ystyried, ni osodir y nod cyfrin ar bob coron genedlaethol.

Beth bynnag am hynny mae o wneuthuriad hynod gain mewn plat arian, yn eitha' trom ei phwysau a chyda'r symbolau Cymreig, y delyn, y ddraig, y genhinen, dail y dderwen a'r fesen mewn boglynwaith celfydd o'i chwmpas a chyda meini o liwiau emerallt a saffr a rwbi yn disgleirio hwnt ac yma. Onid coron genedlaethol, allai hi tybed fod yn un o hen goronau buddugol rhyw eisteddfod daleithiol go bwysig, un Môn dyweder, neu Eisteddfod Powys? Dyn yn unig a wyr.

Ac eiddo pwy oedd hi'n wreiddiol? Yr un math o ateb a geir bron yn ddieithriad o holi unrhyw werthwr ynghylch unrhyw grair, ac ni thaflwyd llawer o oleuni ar y mater yn Llandeilo chwaith." The only thing that I am prepared to tell you is that it came from a house clearance in the Swansea area."

Ond pwy yn ardal Abertawe, a phle yn ardal Abertawe nid oedd modd gwybod.Ond does dim dwywaith na chafwyd gwefr fawr o'i hennill unwaith gan rywun. Roedd honno'n foment lachar, yr awr felysa' gaed i'r enillydd. Fe'i coronwyd yn ôl braint a defod, mewn rhwysg ac mewn bri, a does dim sy'n sicrach nad etifeddodd ei wobr safle o anrhydedd am flynyddoedd wedyn mewn cwpwrdd gwydr ystafell ffrynt yn rhywle, ar dop y dresar yn y parlwr gorau neu ar silff ryw stydi, cyn i mi 'mhen cenhedlaeth neu ddwy neu ragor wedyn ddod o hyd iddi'n ddigon gwael ei llun a'i lliw, yn llechu'n ddigon ddiymgeledd yn un o'r 'stafelloedd cefn yng nghanolfan gwerthu hen greiriau 'The Works' yn Llandeilo.

Erbyn hyn fodd bynnag fe'i symudwyd un can milltir a rhagor i fyny i'r gogledd a bellach fe ddechreuodd ymgartrefu yn Eifionydd lle derbynia'r parch a'r anrhydedd sy'n ddyledus iddi. Nid mor wael ei llun a'i lliw mwyach chwaith. Gorwedd ar glustog felfed borffor ar ôl cael gweddnewidiad llwyr. Ydy, mae'n syndod cymaint o wyrthiau y gellir eu cyflawni efo dim ond y mymryn lleiaf o Duraglit!

Os oes rhywun o blith darllenwyr Lleisiau Lleol a allai fod o unrhyw gymorth i ddatrys y dirgelwch, gallwch roi galwad ffôn i Mr William Owen, Borth-y-Gest, Porthmadog ar (01766) 513620.

Talfyriad yw'r erthygl hon gyda chaniatâd parod yr awdur Mr William Owen, o'i erthygl a ymddangosodd yn y rhifyn cyfredol o'r 'Casglwr'.

Dweud eich dweud
Fedrwch chi helpu i ddatrys y dirgelwch? A oes gennych chi hen Goron neu Gadair Eisteddfodol yn eich meddiant a wyddoch chi ddim o'i hanes? Gallwch drafod a holi cwestiynau ar safle Clecs Cymru ar Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd (gweler y linc i'r dde uchod.)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý