Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Coleg Llanymddyfri Hanner canrif yn ôl
Medi 2007
Prynhawn dydd Gwener, 19 Medi 1957, dyddiad sydd wedi'i serio ar fy nghof, gan taw hwnnw oedd y diwrnod pan ddeuthum i "fyw" yn Nyffryn Tywi am y tro cyntaf.

Yn grwt 11 oed, cyrhaeddais goridorau Coleg Llanymddyfri o bentre 'mebyd, Llangennech, yn sgil ennill lle fel un o'r "Carmarthen Six" y cyfeiria Huw Ceredig atynt yn ei gyfrol hunangofiannol, Cofio Pwy Ydw i. Cyn y diwrnod hwnnw, dim ond wrth basio trwy'r Dyffryn o bryd i'w gilydd y deuthum i 'nabod enwau trefi a phentrefi'r ardal. Treuliodd Mam y rhan fwyaf o 1949 yn dioddef o'r diciâu (salwch a laddodd fy Nhad ym 1947) yn y Sanatoriwm ar gyrion Llanybydder ac fe'm cludwyd yno ddwywaith bob wythnos gan berthnasau a ffrindiau i'w gweld yn raddol wella.

F'atgofion cyntaf o Landeilo, felly, oedd cerdded nôl a 'mlân ar y bont cyn ac wedi'r ymweliadau i geisio setlo'm stumog nad oeddwn yn hoff iawn o'r ffyrdd troellog. Er fy mod yn mwynhau'r daith o Landeilo trwy Dalyllychau erbyn hyn, mae'n rhaid imi yrru'r car neu mi fydd atgofion teithiau 1949 yn siŵr o achosi salwch.

Haws o lawer oedd teithio ar y trên "Pot Coffi" i Lanwrtyd am ein gwyliau blynyddol wedi i Mam wella. Dilyn hynt a helynt Afon Tywi oedd yr arlwy a gweld gorsafoedd blodeuog Llanwrda, Llangadog a Chynghordy yn rhoi cyfle am lyncu ychydig o awyr lan Dyffryn Tywi. Nid ar drên, fodd bynnag, y deuthum i Lanymddyfri ym mis Medi 1957 ond roedd ffrind i'm llys dad yn barod gymwynasgar a chynnig gwasanaeth tacsi ar gyfer y "Diwrnod Mawr". Taith debyg i'r rheiny i Lanybydder yw f'atgof o ddechre'r prynhawn ac, yn eironig ddigon, bu ond y dim i mi fod yn sâl wrth basio Fferm yr Ystrad. Eironig am fod mab y ffarm, Adrian Lloyd, yn dechre fel disgybl yn y Coleg ar yr un diwrnod â mi.

O ran fy nghyd-ddisgyblion, roedd Dai Gealy newydd adael y tymor cynt, gyda bechgyn mawr yn sôn yn ddi-baid am orchestion y crwt o'r Tymbl yn rhoi chwalad i Goleg Crist ar y cae rygbi flwyddyn ynghynt. Cofio gweld John Gwynne yn gwlffyn enfawr oedd ar fin ennill ei le'n ail reng y tîm rygbi, yn gymaint o gawr i'm tyb fel y byddwn yn ymdrechu i'w osgoi ef a'i debyg ar bob achlysur. Colin Elliott o Rydaman oedd capten y timoedd rygbi a chriced yn fy mlwyddyn gyntaf, gydag Edward Bevan, sylwebydd criced Ö÷²¥´óÐã Cymru erbyn hyn, yn fewnwr y tîm rygbi'n ei dymor olaf ar ôl bod yn gapten ar y tîm criced yn ystod haf 1957.

Oedd, roedd Huw Ceredig yno hefyd, ond "Dai Black" oedd ei ffugenw i ni laslanciau, hynny am fod tyfiant cryf ei farf yn lliwio'i brydwedd fesul awr! Digwyddais gyrraedd y Dyffryn mewn pryd i ddal y "Ffliw Asiaidd" a chael fy hunan yn y gwely nesaf at Alcwyn Evans, Talar Wen, a dod i'w 'nabod e a'i frawd, Dafydd, yn fuan. Wrth wella o'r ffliw, dyma rannu desg gyda Glyn ("Johnny") Mathias, fu'n newyddiadurwr gydag ITN cyn dod yn Brif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru. Ymhlith enwau eraill o'r cyfnod, cofiaf Alun Daniel o Abergwili ac roedd Vish Gdula o ardal Ffaldybrenin yn gymeriad lliwgar, gyda John Fferm Henllys yn fachgen hawddgar yn meddu ar yr amser i fod yn deg wrth fechgyn ofnus yn eu blwyddyn gyntaf.

Ymhlith y Cymry Cymraeg, roedd Deian Hopkin (Dirprwy Ganghellor Prifysgol y South Bank erbyn hyn), Iolo Walters a Geraint Eckley'n enwau dyfodd yn gyfarwydd ym myd addysg ac (yn achos Geraint) ym myd y gyfraith yn ddiweddarach. Ynghyd ag Adrian Lloyd yn dechre'n Llanymddyfri ar 19 Medi 1957, daeth Clive Lewis o bentre Caio, lle'r oedd ei dad, Danny, yn rheolwr gyda'r Comisiwn Coedwigaeth.

Dyfodiaid diweddarach oedd Peter Grey Hughes, Rod Richards, David Walters ac un o sylfaenwyr y Lloffwr, John Jenkins, ond roedd Carwyn James yn athro Cymraeg arnaf gydol fy nghyfnod cyntaf yn Nyffryn Tywi. Athro yn Ysgol Pantycelyn oedd Eifion Davies ym 1957 ond, flwyddyn yn ddiweddarach, daeth yntau'n athro Lladin imi a dim ond trwy'i ddyfalbarhad amyneddgar y llwyddais yn arholiad Lefel "0" yr heniaith honno! Carwyn ac Eifion oedd y nerth tu cefn i Gymdeithas Gymraeg Coleg Llanymddyfri'n ystod fy nghyfnod fel disgybl yno ac roedd y ddau'n eiddgar eu cefnogaeth i weithgareddau eisteddfodol y Coleg.

Atgofion melys, ar y cyfan, sy' da fi am fy nghyfnod cyntaf yn Nyffryn Tywi ac rwy'n sicr am un peth, sef taw diwrnod heulog oedd dydd Gwener, 19 Medi 1957. Tybed, wrth imi nesau at ddathlu 50 mlynedd ers dod i fyw yn Nyffryn Tywi, a fydd 19 Medi 2007 yn ddiwrnod heulog? Yn dilyn haf mor wlyb, mae angen rhywfaint o dywydd braf arnon ni!

Androw Bennett

Oes gennych chi atgofion o'r cyfnod hwn? Cyfrannwch trwy lenwi'r ffurflen isod.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý