Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwenfudd James Gwenfudd a'i gwên
Ionawr / Chwefror 2006
Mae'r golofn hon yn gyfle i un o ferched bro Dinefwr ddweud ei dweud bob mis yn Y Lloffwr. Y mis hwn, tro Gwenfudd James, Caio yw hi.
Blwyddyn Newydd Dda! Gwenfudd James ydw i, 'rwy'n byw yng Nghaio ers 1960 er yn enedigol o waelod Sir Gâr. Cwrddais â Peris yn 1958 mewn garddwest gyda'r Ffermwyr Ifanc yng nghartref Syr Grismond Phillips, Plas Cwmgwili, wen i yno yn cynorthwyo Brenhines y Sir.

Ganed tair o ferched bach i ni sef Sioned, Sara a Tegwedd Haf, yn aml fydd Peris yn canu'r dôn enwog 'Thank heavens for little girls'. Mae gen i ŵyr Kieran Peris a dwy wyres Sara Mair a Carys Haf.

Yn 1970 pan oedd Sara ein hail ferch fach yn ddwy flwydd oed canfuwyd ei bod yn dioddef o Leukaemia, a'r meddyg yn ysbyty Llandochau yn dweud wrthym faint o fywyd bach oedd ar ôl gan Sara. Rwy'n gallu ei glywed ef nawr yn dweud wrthym fod Leukaemia arni ac yn rhoi llai na blwyddyn iddi fyw. Dychmygwch y sefyllfa wen i gyd fel teulu yn mynd trwyddo yn enwedig wrth weld y flwyddyn newydd yn dod fewn a finnau yn fy ngofid yn meddwl ac ofni'r gwaethaf. Tybed ai'r flwyddyn hon fydde'r olaf?

Cawsom gadw Sara am saith mlynedd arall i'w hanwylo. Bu farw yn fy mreichiau yn Ysbyty Llandochau ym mis Mawrth 1977. 'Anwylwch eich atgofion - maent i gyd yn werthfawr.'

Efallai nad yw darllenwyr Y Lloffwr yn gwybod mod i yn casglu hen ddywediadau ers blynyddoedd maith. Dangosais nhw i fy wyresau, a dros y gwyliau cawsant flas yn darllen fy llyfr. Dyma fi'n cael syniad, beth am rannu rhai ohonynt gyda chi, neu'n well fyth beth pe bai pawb yn gwneud adduned fach syml ar ddechrau'r flwyddyn. Rwy'n siŵr allwch gadw'r adduned fach yma i fynd am byth. Felly, beth am wneud y flwyddyn newydd hon yn flwyddyn 'Y Wên'? Fe gymer yr ymdrech leiaf, ond mae'n gwneud bywyd yn werthfawr.

Byddai un wên fach y dydd yn gwneud llawer mewn blwyddyn; un wên fach i'r plentyn i gadw'r deigryn yn ôl; ac un wên i'ch cymydog i'w gyfarch wrth fynd heibio. Peidiwch ag aros hyd yfory - efallai bydd hynny'n rhy hwyr. Eiliad mae'n gymryd i wenu ond gall barhau yn y cof am byth.

Mae gwên yn cynyddu gwerth eich wyneb ar unwaith. Cadwch i wenu mae yn eich siwto chi, a'r pellter agosaf rhwng dau berson ydy gwên. Mae rhai pobl yn rhy brysur i wenu - gwenwch chi arnyn nhw. Nid oes neb fwy o angen gwên na'r person sydd byth yn gwenu! Cofiwch, mae'n cymryd llawer o gyhyrau i bwdu ond dim ond dau i wenu.

Gwenwch a phan wenwch, un arall a wena, yn fuan, bydd na filltiroedd ar filltiroedd o wên - oherwydd i chi wenu. Mae ystyr gwên yr un fath ym mhob iaith. Allwn ni i gyd wenu¬does na ddim crefft arbennig. Rwy'n barod - ydych chi? Gawn ni gyd ddechrau nawr, gan ddymuno blwyddyn newydd dda i ddarllenwyr Y Lloffwr - gyda gwên!!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý