Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Siwan Jones (awdures) Cynhyrfu Cytgord y Côr
Rhagfyr 2004 / Ionawr 2005
Ydych chi'n nabod y person sydd yn sefyll drws nesa' i chi yn y côr, ac a ydych chi'n nabod eich hunan? Dyma rai o'r cwestiynau y mae'r gyfres newydd Con Passionate ar S4C yn codi. Sgwrs gyda'r awdures Siwan Jones.
Os bydd y tywydd yn brathu a'r nosweithiau tywyll yn diflasu yn y flwyddyn newydd, bydd dim rhaid chwilio am esgus i aros mewn o flaen y tân, achos mae cyfres ddrama newydd yn dechrau ar S4C yn y flwyddyn newydd, ac mae'n argoeli i fod yn un arbennig.

Yn fwy na hynny, merch leol, sef Siwan Jones o Ddryslwyn sydd wedi ysgrifennu'r gyfres ddrama hon, ac roedd ei gŵr Emyr Wyn yn ymgynghorydd sgriptiau.

Felly, o gofio bod y ddau yn aelodau mewn corau lleol eu hunain - Siwan yn aelod o gôr merched Atsain, ac Emyr yn aelod o gôr Bois y Castell, maen nhw'n gwybod beth mae'n nhw'n sôn amdano. Ond mae Siwan yn gyflym iawn i bwysleisio mai hollol ddychmygol yw popeth yn y gyfres.

"Fe wnes i siarad gydag aelodau nifer o gorau," meddai Siwan, cyn ychwanegu gan chwerthin "ond dyw e ddim wedi selio ar unrhyw brofiadau personol, er bod Emyr a fi wedi trafod nifer o syniadau gyda'n gilydd, ac Emyr wedi bod yn rhyw fath o ymgynghorydd gan ei fod e'n aelod o gôr meibion ei hunan. Ond fe allai hwn fod yn gôr meibion yn unrhywle!"

Y cast gyda Shân CothiCôr Meibion Gwili, sef côr meibion dychmygol o orllewin Cymru yw'r sêr yn Con Passionate, a byddwn ni'n cael ein harwain trwy flwyddyn gyfan o hynt a helyntion aelodau'r côr a'u harweinyddes unigryw, sy'n cael ei phortreadu gan neb llai na' Shân Cothi, sy'n gwneud ei hymddangosiad cyntaf mewn drama deledu yn y gyfres.

Fel yr awgryma'r teitl, mae'r gyfres yn llawn angerdd, a llawer, llawer mwy! Yn gymysgedd o hiwmor du, ffantasïau a breuddwydion, cawn gyfle i ddod i 'nabod y cymeriadau a'u dyheadau, a does dim dal beth sydd rownd y gornel!

"Mae'n cynnwys elfennau o fiwsical a thriller" meddai Siwan, "ac mae'n delio gydag angerdd bywyd, hunaniaeth ac obsesiwn. Mae'n gofyn y cwestiynau, "Odych chi'n nabod y person sy'n sefyll drws nesa' i chi yn y côr? Odych chi'n nabod y person sy'n rhannu'r un gwely â chi ? Odych chi'n nabod eich hunan?"

Mae arweinyddes y côr, sef Miss Davina Roberts â digon o fynd iddi! Mae'n dod â llawer o gynnwrf a chyffro i'r gyfres, a doedd gan Siwan ddim amheuaeth mai Shân Cothi fyddai'r gorau i actio'r rhan.

"Ro'n i wedi dechrau meddwl am y gyfres cyn cwrdd â Shân," meddai Siwan, "ond fe ddaeth hi fel gwestai gwadd i ginio Nadolig Bois y Castell un flwyddyn, ac wedi cwrdd â hi'n iawn ro'n i'n gwybod yn syth taw hi oedd yr un i chwarae'r rhan!

Efallai bod Siwan yn fwy adnabyddus i lawer fel sgriptwraig Tair Chwaer, a ddarlledwyd ar S4C rai blynyddoedd yn ôl, ond mae hi wedi bod yn ysgrifennu ers nifer o flynyddoedd, ac wedi cael cryn flas arni.

"Wnes i ddechre ysgrifennu o ddifri yn ystod seibiant pan ro'n i'n actio ar Coleg ac yn raddol cymerodd yr holl beth drosodd " meddai Siwan.

O fewn dim, cafodd lwyddiant wrth ennill y wobr gyntaf am sgript ffilm yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a maes o law fe enillodd wobr BAFTA Cymru am yr awdur gorau ar gyfer y sgrin yn 1997,1998 a 1999 am Tair Chwaer.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld a chefnogi gwaith Siwan yn Con Passionate yn y flwyddyn newydd, a dymunwn pob dymuniad da iddi gyda'r gyfres.

Gan: Aled Vaughan
Prosiect Papurau Bro


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý