Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwilym Hughes, Archeoleg Cambria gyda safle'r gaer tu ôl iddo Darganfod Caer Rufeinig anhysbys yn Llandeilo
Mehefin 2003
Cafwyd hyd i Gaer Rufeinig na wyddai neb amdani o'r blaen gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr ger Llandeilo.
O ganlyniad i'r darganfyddiad, mae modd datrys, wedi hir ymaros, un o ddirgelion archeolegol yr ardal, ac mae'n ychwanegu'n fawr at ein dealltwriaeth o hanes teyrnasiad y Rhufeiniaid yng Nghymru.

Comisiynwyd Archeoleg Cambria gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal arolygon o barcdir Dinefwr i sicrhau gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd archeolegol yr ardal. Ariannwyd y gwaith gyda chymorth ariannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Nid oes dim yn amlwg ar yr wyneb ond mae arolwg geoffisegol, sy'n defnyddio technegau sy'n treiddio i'r ddaear wedi ein galluogi i ddehongli'r archeoleg sydd wedi ei gladdu o dan yr wyneb i ddatguddio amlinell Caer Rufeinig na wyddai neb amdani o'r blaen. Mae arolwg geoffisegol yn un o arfau sylfaenol archwiliad archeolegol heddiw ac mae canlyniadau mor eglur â'r rhai y cafwyd hyd iddynt yn Ninefwr yn eithriadol.

Mae archeolegwyr wedi amau ers tro bod caer wedi bodoli yn neu'n agos at Landeilo. Lleolwyd caerau Rhufeinig ar bellterau penodol oddi wrth ei gilydd ac oherwydd bod un yn Llanymddyfri ac un arall yng Nghaerfyrddin roedd disgwyl bod un yn yr ardal hon. Mae ffyrdd Rhufeinig a nodwyd mewn ffotograffau a dynnwyd o'r awyr gan Archeoleg Cambria hefyd yn ymddangos fel pe baent yn canolbwyntio ar y dref a'i man pwysig i groesi'r afon.

Milwyr cynorthwyol fyddai wedi amddiffyn y safle yn hytrach na'r llengfilwyr uwchraddol na fyddent yn mentro i ardaloedd mwyaf anghysbell yr ymerodraeth. Fel caerau eraill yn Ne Orllewin Cymru mae'n debyg iddi gael ei hadeiladu oddeutu 70 OC, ychydig wedi'r ymosodiad, a byddent wedi ei gadael erbyn canol y ganrif ganlynol.

Yn Ninefwr mae caer hirsgwar sy'n ymddangos fel pe bae hi'n llawn o adeiladau a strydoedd yn gorchuddio caer sgwâr neu hirsgwar fwy, nad oes ond rhan ohoni wedi ei darganfod yn yr arolwg. Mae'r ddwy yn dilyn patrwm arferol caer Rufeinig, cynllun a atgynhyrchid ledled yr ymerodraeth. Maen debyg fod y gaer fwy wedi ei hadeiladu'n fuan wedi goresgyniad terfynol De Orllewin Cymru oddeutu 70 OC.

Mae potensial gan y gaer fwy hon i fod yn un o'r caerau ymgyrchu mwyaf yng Nghymru ac efallai y bydd yn newid yn llwyr ein dealltwriaeth o'r goncwest Rufeinig. Oherwydd eu lledaeniad yng ngogledd Prydain ac ar y cyfandir roedd angen milwyr ychwanegol ac efallai fod hyn wedi eu gorfodi i ardal y gaer fwy dros gyfnod o amser. Adeiladwyd y gaer lai pan ddaethent yn ôl i'r ardal a gan ei bod yn ganolbwynt rhwydwaith o ffyrdd mae'n debyg ei bod wedi ei defnyddio am gyfnod llawer hwy. Mae aneddfeydd dinasyddion o'r enw vici yn gysylltiedig â chaerau bob amser a gwelir tystiolaeth o anheddiad o'r fath i'r dwyrain o'r gaer ar naill ochr y ffordd sy'n cysylltu'r safle hwn â'r gaer Rufeinig yn Llanymddyfri.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý