Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Hywel Gwynfryn yn cyd-gerdded Clawdd Offa gydag Arwyn Davies Hywel Gwynfryn yn cyd-gerdded Clawdd Offa gydag Arwyn Davies
Mai 2009
Mae Arwyn Davies yn cerdded ar hyd Clawdd Offa i godi arian at achos da.

Ar 5 Mai bydd Arwyn Davies Y.H., Cysgod y Garth, Bethlehem (Capel Tydist gynt) yn cychwyn ar daith 177 milltir ar hyd Glawdd Offa o Gas-gwent i Brestatyn yn y Gogledd. Bydd yn daith bythefnos ac ambell ddiwrnod bydd yn cerdded hyd at 16.5 milltir. Pwrpas y daith galed hon yw codi arian i'r elusen y National Society for Phenylketenuria (NSPKU).

Mae'r elusen yn bodoli i gynorthwyo'r rhai hynny sy'n dioddef o'r cyflwr Phenylketenuri neu PKU a'u teuluoedd i ymdopi â deiet hynod arbenigol ac i hyrwyddo ymchwil pellach. "Fe ddaethon ni'n ymwybodol o'r cyflwr a'r elusen pan ddywedwyd wrthon ni bod Ifan ac Awen, ein hwyr a'n hwyres fach yn dioddef o'r cyflwr creulon yma. Doedden ni erioed wedi clywed am PKU cyn hynny," meddai Arwyn.

Mae PKU yn gyflwr genetig etifeddol a achosir pan fo ensym yn y corff yn methu torri asid amino i lawr, sy'n golygu ei fod yn cynyddu yn y corff. Mae gormod o asid amino yn y corff yn wenwynig i'r ymennydd. Mae lefelau uchel dros gyfnod o amser yn gallu arwain at drawiadau, problemau seicolegol ac ymddygiadol, ac arafwch meddwl difrifol.

Gellir rheoli'r salwch trwy ddeiet, a thrwy beidio â bwyta bwydydd sy'n cynnwys protein. Mae hynny'n golygu peidio â bwyta cig, wyau, cynnyrch llaeth a chnau, a hefyd fwydydd megis tatws, y rhan fwyaf o gynnyrch gwenith (e.e. pasta a bara) a rhai ffrwythau megis orennau a cheirios. Rhaid dilyn y deiet caeth iawn yma am oes, gan nad oes unrhyw wellhâd ar hyn o bryd.

Mae arian yn hanfodol er mwyn parhau â'r ymchwil i'r clefyd gweddol anhysbys hwn. Profir pob baban newydd-anedig am y cyflwr (y prawf Guthrie) ers i sgrinio ddod yn orfodol yn 1969.

Bydd Arwyn yn cerdded y milltiroedd ar ei ben ei hun i bob pwrpas. Ei unig gwmni fydd Hywel Gwynfryn am ychydig ar y dechrau i recordio sgwrs ar gyfer Radio Cymru. Ar y chweched diwrnod mae rhai o'i gyd-gantorion o Fois y Castell a rhai ffrindiau eraill yn bwriadu ymuno ag Arwyn yn y Gelli Gandryll ar gyfer y daith o 14 milltir i Geintun (Kington). Tybed faint ohonyn nhw wnaiff orffen y daith?

Os hoffech chi neu unrhyw Gymdeithas noddi Arwyn ar ei daith 177 milltir, cysylltwch ag ef ar 01558 822200.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý