Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pauline Quirk Actorion enwog yn Llandelio
Mawrth 2003
Trawsnewidiwyd rhan o Landeilo yn ddiweddar, gan y Ö÷²¥´óÐã, wrth iddyn nhw fynd ati i ffilmio rhai golygfeydd yno ar gyfer y cynhyrchiad mwyaf diweddar o 'Carrie's War', sef addasiad teledu o nofel enwog Nina Bawden.
Yr Awdur : Nina Bawden
Pan oedd Nina Bawden yn blentyn yn Llundain yn ystod y rhyfel cafodd ei hanfon fel evacuee i dde Cymru. Wedyn ar ôl dyddiau ysgol ac astudio yng Ngholeg Somerville yn Rhydychen (yn yr un flwyddyn â Margaret Thatcher!), dechreuodd ysgrifennu.

Mae'n ysgrifennu nofelau ar gyfer oedolion a phlant. Yn wir daeth ar restr fer Gwobr Booker am ei nofel 'Family Money' ac enillodd Wobr Guradian am ffuglen i blant yn 1976 am 'The Peppermint Pig'. Yn 1973 yr ysgrifennodd 'Carrie's War', ac er ei fod yn tynnu ar ei phrofiad hi pan oedd yn blentyn, mae dychymyg yr awdures ar waith yma hefyd. Yn 2002 cafodd Nina Bawden ei brifo yn ddifrifol yn namwain trên Potter's Bar. Fe laddwyd ei gwr Austen Kark, cyn bennaeth World Service y Ö÷²¥´óÐã, yn y drychineb. Ers hynny mae hi yn gyson yn cwestiynu polisi rheilffordd y Llywodraeth.

Carrie's War: Y nofel.
Cyhoeddwyd y nofel hon yn 1973 ac ers hynny mae wedi bod yn ffefryn gan genedlaethau o ddisgyblion ysgol.Hanes Carrie a'i brawd Nick sydd yma. Maen nhw'n cael eu hanfon i dref lofaol yng Nghymru i aros gyda Mr Evans, y groser. Bwli go iawn yw Mr Evans, ond mae'r plant yn dod i adnabod ei chwaer sef Anti Lou.

Cymeriad pwysig arall y mae'r plant yn dod ar ei thraws yw Hepzibah Green sy'n cadw ty - Druid's Bottom. Ac yma mae'r antur yn dechrau.

Yn yr addasiad ar gyfer y teledu mae Keeley Fawcett yn chwarae rhan Carrie, a Pauline Quirk - rhan Hepzibah.

Mae posib gwrando ar gyfweliad gyda'r awdures Nina Bawden ar safle gwe y Ö÷²¥´óÐã.

Pauline Quirk : Yr actoresGanwyd hi yn 1959 yn Llundain. Mae'n briod gyda dau o blant. Dechreuodd actio ar 'Dixon of Dock Green' pan oedd ond yn 10 oed. Yn 16 oed roedd ganddi ei rhaglen ei hun - rhaglen sgwrsio. Mae ei rhestr o berfformiadau yn faith iawn, ond hwyrach y mae fwya enwog i bawb fel Sharon yn y gyfres deledu 'Birds of a Feather'.

Profiad disgyblion Ysgol Gymraeg Teilo Sant
Ar gyfer y cynhyrchiad hwn cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Teilo Sant gyfle i ymddangos yn y cefndir. Nid yn unig y bu iddyn nhw gael gwisg o'r cyfnod ond hefyd, bu rhaid defnyddio colur a newid steil eu gwalltiau. Edrychwch am wynebau cyfarwydd disgyblion yr ysgol yn y darllediad!

Os oes gan rai o ddarllenwyr Y Lloffwr atgofion neu luniau o'r evacuees yn Llandeilo - cysylltwch â'r Lloffwr oherwydd fe fyddai'n gwneud erthygl ddifyr iawn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý