Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ffermdy stâd Rhydodin Y cam nesaf yn hanes stâd Rhydodin
Mai 2002
Mae ffermdy stâd Rhydodin, Talyllychau yn dyddio or 18fed ganrif ond rhaid cyfeirio at y 12fed ganrif wrth ystyried y stâd yn gyfan.
Allwn ni ddim ond derbyn tystiolaethau eraill am yr hen blasty gan i J.Y.Barber, hynafiaethydd o Loegr, ddisgrifio'r plasdy fel adfail wrth iddo deithio drwy'r ardal ym 1803.

Yr oedd llinach y teulu Williams oedd yn berchen ar y lle yn y 17eg ganrif yn ddisgynyddion i Hywel Dda, Rhodri Mawr a Rhys ap Tewdwr, tad Nest. Trwy briodas, yn ddiweddarach, unwyd uchelwyr Rhydedwin â'r Fychaniaid Gelli Aur.

Bardd yn sôn am y plasdy
Mae Lewis Glyn Cothi, bardd a oedd yn byw yn ystod ymgyrchoedd Syr Rhys ap Thomas o blaid Harri Tudur, yn sôn am Rhydodin.

Adnewyddwyd y plasdy ym mlynyddoedd cynnar y 18fed ganrif gan Syr Nicholas Williams un o bump o feibion Syr Rice Williams.

Ym mlynyddoedd ola'r ganrif priododd Bridget merch John, brawd Nicholas a Robert Hodgkinson, wr o Overton. Ef fu'n gyfrifol am ail adeiladu pont Rhydodin ar draws yr afon Cothi. Cyflawnwyd y gwaith gan un o feibion William Edwards a gynlluniodd y bont ym Mhontypridd.

Yng nghanol y 19eg ganrif mae Samuel Lewis yn sôn bod Rhydodin mewn cyflwr da. Dyma'r adeg pan ychwanegodd Syr James Williams at yr hen dy.

Cychwyn cyfnod newydd wnaeth y briodas rhwng Mary Eleanor merch Syr James a Syr James Drummond, gwr o Midlothian, Yr Alban. Fe unwyd un o deulu tywysogion Cymru â'r Drummond, yn wreiddiol o Perth.

Roedd teulu'r Drummond yn un o deuluoedd enwocaf Yr Alban. Bu Syr James Drummond yn deyrngar i'r ystâd ac i'r gymuned leol a bu'n Gynghorydd Sir dros ardal Llansawel hyd ei farw ym 1913.

Gadael y plasdy i'r bwtler
Bu farw'r olaf o deulu'r Drummonds ym 1970 gan adael y cyfan i'r bwtler!

Claddwyd y mwyafrif o linach Rhydodin ym mynwent Eglwys Talyllychau.

Wedi i amryw o wahanol denantiaid newid ac addasu'r adeiladau, mae'r ystâd 692 erw sy'n cynnwys bythynnod gwyliau erbyn hyn, ar fin newid dwylo unwaith eto a'r perchennog presennol Jonathan Heron yn gwerthu'r ystâd am £2 filiwn. Tybed a oes gan rhyw Gymro Cymraeg boced go ddofn!

(Seiliwyd yr hanes ar erthygl yn y Carmarthenshire Historian)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý