Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ci defaid wrth ei waith Croesawu Treialon Cŵn Defaid y Byd
Mehefin 2008
Ganol Medi fe fydd tre Llandeilo yn fôr o liw wrth i faneri 22 o wledydd gael eu chwifio mewn seremoni i groesawu Treialon Cŵn Defaid y Byd i Barc Dinefwr.

Gwelir yr ŵyl arbennig hon yn un bwysig i'r dre ac i Sir Gâr. Disgwylir 242 o gystadleuwyr i ymgiprys - o wledydd fel America, Awstralia ac Ewrop. Dyma'r digwyddiad pwysicaf yng nghalendr Cymdeithas Cŵn Defaid Gwledydd Prydain ac fe'i llwyfennir yn Llandeilo yn dilyn llwyddiant aruthrol y Treialon Rhyngwladol a gynhaliwyd yng Nghelli Aur yn 2004.

"Y mae'r treialon hyn yn bwysicach hyd yn oed na rhai 2004," meddai Meirion Owen, y trefnydd. "Mae 'na gymaint o wledydd yn cymryd rhan ac y mae'n rhoi cyfle i dre Llandeilo a Sir Gâr a Chymru ddangos i'r byd beth allwn ni ei gynnig. Eisoes mae clerc Cyngor Tre Llandeilo, Roger Phillips a'r cynghorwyr wedi bod mewn trafodaethau gyda ni i sicrhau y bydd croeso tywysogaidd i'r cystadleuwyr a'r ymwelwyr."

Ar Barc Dinefwr y cynhelir y treialon dros gyfnod o dridiau rhwng 11 a 14 o Fedi ac fe fydd pencampwr y byd yn cael ei goroni ar y nos Sul. Yn ystod tridiau'r cystadlu bydd modd i ymwelwyr fwynhau GŵyI Fwyd a Chefngwlad gyda phob math o atyniadau. Ymhlith y sêr i ymddangos fydd Dudley, y cogydd enwog, a Huw "Ffash" o gwmni Tinopolis - y ddau yn rhan o ddigwyddiadau'r Babell Fawr a fydd yn arddangos bwydydd a chrefftau Cymru i'r byd.

"Rydym wedi bod yn ffodus i gael nawdd sylweddol gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, Tesco a nifer o gwmnïau eraill - heb anghofio em prif noddwr Land Rover," medd Meirion. "Pan wahoddwyd y Treialon Byd cyntaf i'r Bala cafwyd gorymdaith liwgar a chyffrous drwy'r dre ac rwy'n sicr y cawn weld rhywbeth tebyg yn Llandeilo.

"Cymro, Aled Owen, oedd y Pencampwr Byd cyntaf a braf fyddai cael pencampwr o Gymru eto yn 2008. Pwy bynnag fydd yn ennill rwy'n ffyddiog y byddwn ni wedi gwneud ein gore i drefnu un o'r ymrysonfeydd mwyaf a'r ore a welwyd erioed gan obeithio y bydd pobol Llandeilo, Sir Gâr a thu hwnt yn ein cefnogi. Nid yn aml y mae'r byd yn dod mor agos atom ni."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý