Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Teiliwr Myddfai yn fachgen ifanc. Pwy yw'r gweddill? Teilwriaid Bro'r Lloffwr
Mai 2003
Brethyn gwlân defaid mân
Dyna fel y gwisgai'r oes o'r blaen.

Acrylic, Courtelle, Polyester, Viscose. Dyna'r labeli ar ddillad o bob math heddiw, a chynyddu y mae'r cyfuniad o ddefnyddiau. Defnyddiau a ddyfeisiwyd gan ddyn yw llawer ohonynt gan fod dillad o wlân pur yn gostus i'w cynhyrchu y dyddiau yma.Tebycach i'r hen ffordd o wneud dillad gwlân yw'r diwydiannau cartre sydd yn dal mewn bri ar ynysoedd yr Aran.

Dyna fel yr oedd hi ar draws Cymru gyfan. Ers canrifoedd yr oedd y ffermwr a'r teuluoedd yn eu bythynnod wedi dibynnu ar gynnyrch cartre er mwyn dilladu'r teuluoedd. Gwyddai'r ffermwyr yn arbennig am ansawdd y gwlân ac mewn llawer cartre yr oedd gwragedd a merched yn nyddu. Proses hir oedd hi o gneifio'r ddafad i'r rholyn brethyn, ond nid oedd dim arall amdani.

Fel y dywed y teitl, nid amcan yr hanesyn yma yw olrhain y broses honno, ond ceisio cofnodi ychydig o hanes y teilwriaid a fu wrthi yn yr ardal yma, cyn i'r cof amdanynt ddiflannu am byth. Yr oedd y teiliwr yn un o nifer o grefftwyr a oedd ymhob plwyf a'r rheini yn cael eu cadw'n brysur trwy'r flwyddyn. Yn nhermau cenedlaethol mae'n bosibl mae'r teiliwr enwoca oedd y nofelydd Daniel Owen a weithiai yn ei siop yn yr Wyddgrug. Rhaid peidio ag anghofio hefyd Lythyrau'r Hen Deiliwr, William Rees (Gwilym Hiraethog).

Yr oedd y droell nyddu yn rhan annatod o ddiwydiant cartre llawer pentre a gwragedd wrthi hyd yn oed yn hel gwlân o'r cloddiau er mwyn sicrhau digon o wlân ac yna wedi'r nyddu, mynd â'r cyfan i'r ffatri i'w droi yn frethyn.

Ar ganol y 19 ganrif, 6 i 8 ceiniog y pwys mewn hen arian oedd pris y gwlân. Yr un gorchwyl oedd gan y ffermwr yn ogystal ond gwyddai ef ansawdd y brethyn. Gwyddai am ansawdd y ddiadell.

Byddai'r teiliwr yn sicr o waith am y flwyddyn gron. Cadwai'r teiliwr draw o'r ffermdai dros gyfnod prysur y cynhaeaf. Gelwid arno dros fisoedd y gaeaf i ddilladu'r teulu, y tad a'r meibion. Gweddill y flwyddyn byddai'n dilladu teuluoedd y bythynnod yn y pentref a thu hwnt. Oherwydd problemau cludo offer cadwai at gylchdaith reolaidd, cymaint â deng milltir weithiau. Treuliai'r teiliwr tua wythnos yn y cartre yn dilladu'r teulu gan wneud dwy siwt o ddillad ar gyfer bob aelod. Un ar gyfer y Sul ac un ar gyfer diwrnod gwaith.

Rhaid cofio cyn i'r trydan gyrraedd y ffermydd a'r bythynnod gwledig, yr oedd golau naturiol yn werthfawr, felly mynnai'r teiliwr gael gosod ei ford wrth y ffenest a llonydd i wneud ei waith. Pan alwai'r weinyddes yn ei thro mynnai hithau le o flaen y tân. Eisteddai'r teiliwr ar ben ei fwrdd ac o gwmpas yr oedd ei sisyrnau, styllod i ffurfio llewys yn ogystal â'r mân bethau fel edafedd, nodwyddau a botymau. Cyn dyfodiad y peiriant gwnïo rhaid oedd pwytho â llaw ac yr oedd yn waith blinedig iawn.

Yr oedd teiliwr prysur yn cyflogi un neu ddau o weithwyr i'w helpu. Amcan o'r gyflog ar ddiwedd y 19fed ganrif oedd deuswllt y dydd yn ogystal â'i fwyd a lle i gysgu'r nos. Yr oeddent yn cael y bwyd a'r lle gorau, gwell o lawer na'r gweision yn aml iawn fel y tystia'r pennill yma -

Lwmp o facwn melyn, bras
I mi a'r gwas a'r dyrnwr,
Hwyaden a phys gleision neis
A phwdin reis i'r teiliwr.

Ond yr oedd rhai yn amharod i roi'r bwyd gorau iddo -

Nid yf y teiliwr truan
Na chawl na maedd na sucan,
Tae rheini ganddo yn ei fwth
Fe yfai'r glwth nhw'n fuan.
A'r teiliwr yr un mor barod i'w wrthod!

Yr oedd y teliwr, yn wahanol efallai i'r crefftwyr eraill. Gallai ddod yn agos iawn at y teuluoedd gan ei fod yn gweithio yn y ty am ddyddiau. Yr oedd hyn yn wahanol i'r saer coed a weithiai y tu allan yn aml. Oherwydd hyn yr oedd yn rhaid iddo fod yn ofalus wrth gadw cyfrinachau a pheidio â mynd â straeon o dy i dy. Yr oedd yn rhaid cytuno â'r cwsmer yn ogystal. Dyma stori gan deiliwr o Sir Gâr tua 1855.

'Mi ddwedodd Mrs Rees y Black Lion na chawswn i fyth bwythyn o waith da hi am i mi joinio â'r totals, ond erbyn hyn ma hi wedi gweld mod i'n well gwiniwr - yn gwnio yn sowndach ac yn gwneud dillad i ffitio yn well na neb arall, oherwydd hynny rwy wedi cal cwstwm y Lion eto."

Sut wisg oedd gan y teiliwr ei hunan? Dyma ddisgrifiad -
Teiliwr bach yr Hendre
Yn gwisge sgidie lase
A throwsus melfed hyd ei glun
Fu yma'n trin y pwythe.
Ond er cytal y gwaith o wneud siwt i'w gwsmeriaid cawsai'r bai am wneud y dilledyn gorau ar gyfer ei wraig, fel yn y pennill .

Tlws yw esgid gwraig i grydd
Tlws yw mantel gwraig i wydd
Tlws yw spenser gwraig i deiliwr
Tlysa peth yw siaced llongwr.

Spenser oedd siaced fer iawn tebyg i gardigan heddiw. Bu gwragedd y dosbarthiadau uchaf yn eu gwisgo tua 1805-20.Cadwai ambell ffermwr lygad barcud ar y teiliwr. Wedi iddo gyflwyno rholyn o'r brethyn iddo gofalai na fyddai'n twyllo gan ddefnyddio brethyn rhatach a salach ar gyfer y dillad. Wrth gwrs ni ddigwyddai hynny yn ardal Y Lloffwr!

Er bod teiliwr ym mhob plwyf, ychydig sydd wedi ei osod ar gof a chadw yn yr ardal yma. Y mae'n amlwg bod y cof amdanynt yn marw o'r tir. Ar un adeg yr oedd dau deiliwr yng nghyffiniau Llanegwad yn dwyn y cyfenw Jones, William Jones (1875-1948) a oedd yn byw yn Penrheol Villa Llanegwad a Daniel Jones (1869-1940). Mae cof gan Mr Myrddin Parry am ei dad Thomas Peter Parry yn deiliwr yn ardal Myddfai. Ond fel ymhob achos bron, prin yw'r cof amdanynt yn gweithio.

Mewn bedd ym mynwent Llanfynydd y gorwedd David Evans (1814-91) mab i Thomas Evans, Cefnffordd, Penygarn, Llanfynydd, teiliwr a foddodd yn afon Cothi ger Rhydodyn ym mis Rhagfyr 1833, gan adael naw o blant ar yr aelwyd. Un o'r plant hynny oedd David a benderfynodd ddilyn ei dad fel teiliwr gan weithio o dy i dy er mwyn helpu i gynnal ei frodyr a'i chwiorydd. Priododd â Mary Davies, Maes yr Haidd, Llanfynydd ym 1837 a bu iddynt ddeg o blant.

Dechreuodd David fusnes trwy gadw gweithdy teiliwr ym mhentre Cwmdu, plwyf Talyllychau. Ef hefyd a fu'n cadw siop a thafarn yn y pentre.Wedi iddo ymdrechu i ddysgu Saesneg, meistrolodd reolau barddoniaeth Gymraeg. Gan fabwysiadu'r enw barddol "Dewi Dawel' bu'n cystadlu a beirniadu mewn eisteddfodau a chyrddau llenyddol yn yr ardal. Enillodd yn Eisteddfod Llandelio rywbryd ar draethawd ar ddyletswyddau rhieni i roi addysg dda i'w merched, syniad a oedd braidd yn ddieithr yn y cyfnod hwnnw. Bu'n glerc i bwyllgor ysgol Cwmdu tra'n parhau â'i fusnes fel teiliwr.

Mynegodd ei farn ar Adroddiad y Llyfrau Gleision 1847 mewn rhes o benillion. Bu dau o'i feibion yn ysgolfeistri, Thomas Morgan Evans (1838-92) yng Nghwmdu a Dafydd Evans (1842-93) yn Nhalyllychau. Mab arall a etifeddodd ddawn ei dad fel prydydd oedd Gwilym Caradog, sef William Caradog Evans (1848-78). Bu David Evans y teiliwr farw ar Ragfyr 20fed 1891 a'i gladdu ym mynwent Llanfynydd.

Tair blynedd cyn marw David Evans y ganwyd David John Rees ym Mrechfa, gwr a dyfodd i ddilyn ei grefft fel y teiliwr olaf yn ardal Brechfa ac o bosib y teiliwr ola a weithiai yn ardal y Lloffwr.

Yn deuddeg mlwydd oed gadawodd yr ysgol ym Mrechfa i ddilyn camrau ei dad, David Rees, a oedd yn un o dri teiliwr a weithiai yn ardal Brechfa ym 1900. Yr oedd bywyd yn anodd wrth i'r crest ddilyn ei dad ar gylchdaith o ddeng milltir o gwmpas y pentre a chael arian bach fel prentis. Dau swllt (10c) y dydd oedd cyflog y tad a chwe cheiniog (ychydig dros 2c) i'r prentis.

Ond, fel yn achos teilwr Cwmdu, bu farw David Rees, Brechfa yn wr ifanc 49 oed ym mlwyddyn y diwygiad 1904. Yn 16 oed, nid oedd y mab David John wedi gorffen ei brentisiaeth. Felly aeth at deiliwr arall, Mr Jones, Clunmelyn, Rhydargoeau ac aros yno o ddydd Llun hyd 4 o'r gloch ar brynhawn Sadwrn cyn cerdded yn ôl am Frechfa ac ail gychwyn eto am 6 o'r gloch fore Llun. Chwe swllt (30c) oedd cyflog y flwyddyn gyntaf yn codi i 10 swllt (50 ceiniog) yn ystod yr ail flwyddyn. Wedi'r brentisiaeth ymunodd ei chwaer ag e yn y busnes yn ogystal â dau grwt o Sais hyd 1914 pan aethant i'r rhyfel. Ychydig cyn i David John symud drws nesaf i Doren View ym Mrechfa, bu farw ei fam a'i dri brawd a oedd yn iau nag ef. Yn fuan iawn wedi cychwyn y busnes cadwai David John stoc o frethyn da yn ei siop. Gwerthid cot, trowsus a gwasgod am 8 swllt (40c).

Dros gyfnod o 80 mlynedd ni chollodd yr un diwrnod o waith oherwydd salwch, a dim ond yn ystod y gaeaf olaf cyn ei farw ar Fedi 20fed 1980 y bu'n rhaid iddo wisgo sbectol i wnïo. Yn anrhydeddau'r flwyddyn newydd 1981 dyfarnwyd iddo'r MBE, ond yn rhy hwyr. Yr oedd talp o hanes wedi cilio o'r fro a David John Rees yn ei amser wedi dilladu ugeiniau o deuluoedd o gwmpas Brechfa.

Y mae offer a llyfrau cownt David John Rees i'w gweld yn Sain Ffagan yn siop David Thomas, teiliwr o Cross Inn, Ceredigion. Y mae offer Daniel Davies, teiliwr Rhydlewis i'w gweld yno hefyd.Dau enw arall, Dafydd Jones a fu'n dilyn ei grefft fel teiliwr yn ardal Esgairdawe, a Tom y teiliwr mab Dafydd o'r Efail-fach, Rhydcymerau. Roedd gan Tom ddiddordeb mewn canu, ac roedd y cof amdano yn canu 'Bydd Myrdd o Ryfeddodau' ar lan bedd wedi aros gyda Gwenallt, y bardd, weddill ei oes.

Crafu'r wyneb a wnaethpwyd yn yr erthygl yma. Cysylltwch â mi os llwyddais i brocio'r cof am eraill o'r ardal yma a fu'n trin y brethyn.

Diolch i bawb a fu o gymorth wrth imi lunio'r erthygl.
Len Richards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý