Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plas Taliaris Adnabod pentref Taliaris
Hydref 2006
Mae papur bro Y Lloffwr yn gwahodd tref neu bentref penodol ym mro Dinefwr i gyfrannu tudalen o newyddion arbennig am eu hardal. Y tro hwn pentref Taliaris sy'n gyfrifol am y dudalen nodwedd.
Taliaris
Pen y fan lle ceir heidiau o ieir...
Ble ar y ddaear mae hwn?
Mae'n debyg taw dyma ystyr yr enw Taliaris, ond efallai y byddai sawl un yn dal i ofyn ble yn gwmws mae Taliaris? Nid yw'n gwestiwn hawdd i'w ateb gan fod ardal Taliaris yn ymestyn i 3 phlwyf - Manordeilo a Salem; Talyllychau a Llansadwrn. Ond mae'n debyg taw Plas Taliaris ac Eglwys Taliaris yw'r mannau mwyaf adnabyddus.

Plas Taliaris
Gwelir enw Plas Taliaris yn Rholiau Patent 1336 fel Taleyares. Syr Rhys ap Griffith, a fu farw ym 1356 oedd Arglwydd Llansadwrn a Thaliaris. Maes o law aeth yr arglwyddiaeth i Syr Rhys ap Thomas, Dinefwr. Perchnogion y stad o'r 1630au ymlaen oedd y teulu Gwynne a gwerthwyd y stad i'r Arglwydd Robert Seymour ym 1787.

Mewn arolwg a wnaed ym 1814 roedd y stad yn ymestyn i 3,146 o erwau. Fe'i gwerthwyd am £65,000 ym 1833 i Robert Peel cefnder y gwleidydd Syr Robert Peel (a wnaeth sefydlu Heddlu'r Metropolitan yn Llundain). Gwerthwyd y plasdy gan y Peel olaf ym 1967.

Adeiladwyd darn cynharaf yr adeilad presennol yn y 1630au ar sail selerau o'r 16fed ganrif. Ail-flaenwyd yr adeilad fel y gwelir heddiw yn y 1780au. Heddiw mae Plas Taliaris yn ganolfan astudio sy'n cynnig rhaglenni hyfforddiant a chyrsiau preswyl i ymwelwyr.

Eglwys y Drindod, Taliaris
Yn wreiddiol Capel Anwes i Landeilo Fawr yn ystod y canol oesoedd oedd eglwys Taliaris. Tua 1660 ail adeiladodd William Gwynne o Blas Taliaris y capel wedi iddo fod yn furddun am amser. Yn ystod y 18fed ganrif gweithredodd Capel Taliaris fel uned annibynnol oddi fewn i blwyf Llandeilo gan fod rhoddion y teulu Gwynne yn talu am reithor.

Adeiladwyd yr adeilad presennol gan Herbert Peel ym 1892.

Ysgol Taliaris
Adeiladwyd ysgol Taliaris gan y teulu Peel ym 1837 er mwyn rhoi addysg i 70 o 'blant tlawd' rhwng 7 a 13 oed. Roedd yr ysgol yn sefyll yng nghae Tafarn Bwci ac fe'i caewyd ym 1919. Tybed a all unrhyw un egluro ystyr yr enw 'Cae Tafarn Bwci'?

Heblaw am y Plas a'r eglwys mae na sawl man o ddiddordeb hanesyddol arall yn yr ardal.

Maescastell
Bron yn gyfochrog a Llyn Taliaris mae olion hen gaer Gymreig sy'n deillio o'r ganrif gyntaf CC. Lleolwyd y gaer er mwyn amddiffyn y tir bryniog tu cefn iddi ac er mwyn cael man ffafriol i weld dyffryn Tywi i'r de a'r de orllewin. Ymddengys y byddai Llyn Taliaris dipyn yn hwy 2000 o flynyddoedd yn ôl ac yn rhan bwysig o amddiffynfeydd y safle.

Mae'r gaer yn hirgrwn a thua dwy erw o faint. Byddai'r mynedfeydd bob pen i'r hirgrwn. Gellir gweld y gwrthgloddiau, sef dwy ffos a bancyn, yn eglur o'r hewl. Mae'n debyg taw llwyth Celtaidd y Silures neu'r Dementiae fyddai wedi trigo yno.

Bwthyn Nantwallter
Bwthyn Nantwallter Dyma adeilad bach syml sydd wedi teithio ymhell o'i gynefin. Adeiladwyd bwthyn Nantwallter yn y 1770au fel cartref i weithwyr stad Plas Taliaris. Bwthyn to gwellt wedi'i adeiladu a waliau o fwd oedd Nantwallter. Roedd y teulu yn byw mewn un ystafell gyda llofft gysgu uwchben.

Ar ddechrau'r 1990au symudwyd y bwthyn i Amgueddfa Sain Ffagan darn wrth ddarn. Erbyn heddiw mae'r bwthyn wedi'i ail adeiladu yno ac yn safle gwerth ei weld. Cedwir yr enw yn fyw yn yr ardal gan Garej Nantwallter sydd ar yr hen safle.

Ffermdy Aberdaunant
Tŷ ffrâm nenfforch sy'n dyddio'n wreiddiol o ddiwedd y canol oesoedd yw Aberdaunant. Ychwanegwyd at yr adeilad yn ystod y 17fed, 18fed a'r 19eg ganrif ac mae wedi parhau yn dŷ fferm ar hyd yr amser. Prynwyd yr adeilad to gwellt a'r tir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y 1990au, ac mae'n dal i gael ei ffermio mewn dill traddodiadol gan denantiaid. Mae dwy ystafell yn y tŷ^ ar agor i ymwelwyr ar ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng Ebrill a mis Medi.

Hoffwn ddiolch yn fawr i Euros Owen am ei gymorth parod gyda'r erthygl yma.

S.M.


Cyfrannwch

Siw harston o Laleham, Staines

Ces i fy nghodi yn yr ardal hon yn y chwedegau a dw i'n nabod yr ardal yn dda iawn. Ro'n ni'n byw ar y fferm y Maerdy ac ro'n i'n arfer mynd i weld yr hen Mrs Peel yn y plasdy. Hi roedd yr olaf o'r Peels ond roedd perthnasau iddi hi yn byw drws nesa i ni yn "Maerdy House" ar ddechrau'r 60gau. Dw i'n cofio hen dy "spooky" iawn ganddi hi, heb drydan ac eisiau ei adnewyddu - gwynt nwy yn y coridor.

Dw i hefyd yn cofio'r ysgoldy oedd wedi ei leoli ar yr hewl rhwng y Maerdy a'r plasdy. Fel plentyn roedd "Bwci" neu "Bwci-bo" yn meddwl rhywbeth annifyr yn debyg i ysbryd. Efallai oherwydd y lleoliad yr ysgol mewn cwm tywyll ynghanol coedwig fe gafodd y tafarn yr enw.

Roedd yna dwnel yn mynd o'r fferm y Maerdy i'r plasdy yn ôl fy nhad. Dw i'n cofio gweld dechrau'r twnel ond es i byth i mewn!

Dw i hefyd yn cofio gweld bedd Robert Peel yn mynwent yr eglwys ac yn meddwl taw e oedd dechreuwr yr heddlu.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý