Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Mrs beti Williams gyda un o blant Rwmania Ymweliad â Rwmania
Chwefror 2004
Fe aeth Beti Williams i Rwmania o Ragfyr 15-21 gyda'r sefydliad "Smiles". Mae'r elusen yn cefnogi prosiectau yn Armenia, Honduras a Rwmania i gefnogi pobl sy'n wynebu problemau newyn, di-gartrefedd ac afiechyd yn ddyddiol.
Dyma ddatganiad cenhadaeth y sefydliad.Ein Hysbrydoliaeth - Galatiaid Pennod 6 adnod 2 "Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch Gyfraith Crist".

Ein Cymhelliad
Ein cariad at Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr a'n dymuniad i rannu Ei gariad ag eraill.Ein Hamcanion I'r Comisiwn Elusennau
(a) I hyrwyddo Cristnogaeth yn fyd-eang drwy annog ymwybyddiaeth efengyl Iesu Grist.
(b) I leddfu tlodi.
(c) I hyrwyddo addysg.

Ein gweddi yw i ddodi gwên ar wynebau pobol yn enw Crist. I helpu pobol, yn enwedig plant i fod yn ymwybodol eu bod yn cael eu caru a heb gael eu anghofio pa beth bynnag eu hamgylchiadau.

I rannu y ddarpariaeth mae Duw wedi'i baratoi ar ein cyfer, gyda'r bobol sydd angen llety sylfaenol, bwyd a chariad.

Bu Beti yn helpu gyda llwytho faniau a threilars gyda basgedi bwyd a bocsys esgidiau o "Operation Christmas Child" i'w rhannu â'r bobol a phlant. Treuliodd amser hefyd yn ymweld â theuluoedd tlawd iawn - un menyw yn byw mewn un ystafell heb wely, dim bwyd a chardbord fel carped ar y llawr.

Wedyn ymweld â mam a'i phedwar plentyn yn byw mewn un ystafell a chegin fach, gydag un gwely sengl a soffa, y plant yn cysgu ar y rhain, tra roedd y fam yn cysgu ar y llawr.


Mrs Beti Williams gyda rhai o drigolion Rwmania
Mrs Beti Williams gyda rhai o drigolion Rwmania

Dywedodd Beti y bydd wynebau'r plant pan yn agor y bocsys esgidiau yn aros gyda hi am byth - pethau bach syml fel tegan bach, sebon, het, pensil a llyfr coluro yn rhoi cymaint o foddhad iddynt.

Yr ymweliad a wnaeth yr argraff fwyaf arni oedd i gartref amddifaid lle'r oedd 25 o bobol o dan anfantais corfforol neu feddyliol o 16-25 mlwydd oedd. Roedd "Smiles" wedi ariannu adeiladu ystafelloedd newydd yn y cartref, a roedd y £900 a gasglodd Beti wedi cyfrannu sawl bricsen yma. Cyfrannodd Cymdeithas Chwaeroliaeth y Capel £100, ac aelodau unigol dros £100 i'r elusen. Mae'n dda deall bod 100% o'r arian a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio yn y gwahanol brosiectau.

Credai Beti ei bod wedi cael galwad gan Dduw i wneud y gwaith hyn, er ei bod yn 66 mlwydd oed a ddim yn adnabod neb ar y daith. Gwelodd sefyllfaoedd dirdynnol iawn ac erys y profiadau yn ei chof am byth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý