Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Glesni Euros, Ania davies a Steffan Morris yn perfformio Nia Ben Aur Nia a'r Frenhines Ri yn cael sbri
Gorffennaf 2003
Dwy o brif gymeriadau pasiant y plant yn Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam eleni, Nia Ben Aur, yn edrych yn ôl ar y profiad ...
Tra bu rhai yn bwyta cinio dydd Sul, roedd aelodau'r pasiant yn ymarfer y Sioe Nia Ben Aur yng nghampfa Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn ddi-gwyn.

Roedd yr ymarferion cyntaf yn Neuadd Ysgol Gyfun Ystalyfera yn rhwydd, ychydig o ganu, a thamaid bach iawn o ddawnsio, gweddill yr amser yn siarad! Ond roedd yr ymarferion canlynol yn galed iawn, wel, erbyn y diwedd, nid oedd Rhiannon Rees (ein cynhyrchydd) yn fodlon i ni gael hoe!

Pan ddaeth Angharad, meistres y gwisgoedd i'n gweld i ymarfer ar fore Dydd Sul, roedd pawb wedi cyffroi. Roedd pawb yn holi:"Beth mae'r corws yn gwisgo?" "Beth mae Ri yn cael gwisgo? O! Pam na alla i wisgo'r sgert na hefyd, Rhiannon?" Ydy Gang Nia yn cael gwisgo hetiau hefyd?"

Wel yn y diwedd, roedd pawb yn hoff iawn o'u gwisgoedd lliw a phrydferth, ac nid oedd neb yn gallu aros i'w gwisgo ar y llwyfan!

Hir pob aros, ond yn y diwedd, fe ddaeth y diwrnod mawr! Pafiliwn tywyll fel y fagddu, goleuadau llachar fel sêr yn y nen, band swnllyd yn tarannu'n ddi-hoe. Popeth yn creu awyrgylch hudol y chwedl Gymreig!

Ac yna, fe ddaeth fy moment.... 1,2,1,2,1,2,....
Pedlais am fy mywyd i gyrraedd y llwyfan mawr - "Rhaid bod ofalus, ma na wifre ar y Ilawr!"

Y dorf yn dechrau chwerthin a gweiddi. Y gerddoriaeth uchel yn taranu -
Ri, Ri, Ri, Brenhines Tir Na N'og, Ri, yw'n enw i!

Gweld Dad yn y gynulleidfa'n ffilmio, Mamgu Ray yn chwerthin a chwifio! Profiad peni-gamp oedd bod yn y Pasiant. Mae'n rhaid i mi ddiolch i Mam am fy helpu drwy gydol yr amser, ac i Rhiannon am fod yn athrawes arbennig!
Glesni Euros

Ym mis Ionawr es i gael cyfweliad gyda dad, am rhan yn Sioe Nia Ben Aur. Teimlais yn gynhyrfus iawn wrth feddwl am ganu o flaen y panel o feirniaid am y tro cyntaf. Ar ôl tua wythnos fynd heibio cafodd yr ysgol ganlyniadau'r cyfweliad.

Pan glywais i taw fi gafodd rhan Nia Ben Aur yr own wedi dwli. O hynny ymlaen roedd eisiau lot fawr o amser a gwaith caled i ddysgu'r caneuon ar symudiadau ar gyfer y pasiant ym mis Mai.

Yn ystod yr ymarferion gwnes i lot fawr o ffrindiau newydd roedd yn brofiad da i gael gweithio gydag athrawon mor dalentog. Pan gyrhaeddodd y noson roeddwn yn edrych ymlaen at ganu ar y llwyfan am y tro cyntaf gyda Steffan Morris (Osian) a Glesni Euros ( y Frenhines Ri).

Pan roeddwn yn cerdded i lawr y grisiau tuag at y llwyfan a gweld y gynulleidfa fawr oedd yno; Mam, Dad a fy mrawd Rhydian rown yn teimlo'n falch iawn. Roedd yn noson fythgofiadwy.
Ania Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý