Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Y grwp a gerddodd Taith Gered Gŵyl y Nadolig
Ionawr 2008
Mae'r daith hon wedi bod yn rhan o ddyddiadur gweithgareddau lleol ers dros ddegawd ac eleni, am y tro cyntaf trefnwyd taith y tu allan i ddalgylch cymoedd Aman, Tawe a Nedd.
Y tro yma, mentrwyd i Gynffig a'r Sgêr ar yr arfordir rhwng Margam a Phorthcawl.

Mae'n le unigryw: llyn enfawr, twyni tywod, castell ac olion hen bentre, un o gartrefi hynodaf Gymru ac arfordir a thraethau braf, ac eto ychydig a wyddom amdano.

Cafwyd hanes yr ardal gan Ann Rosser, Y Gellifedw a chyflwyniad i fywyd gwyllt gan Dafydd ac Elen Richards, Castell-nedd.

Wyth gan mlynedd yn ôl yr oedd Cynffig yn fwrdeistref prysur gyda muriau yn ei hamgylchynu ac yn ganolfan i'r wlad o gwmpas. Mae olion hen gastell Normanaidd de Clare yma hefyd. Llosgwyd y cyfan i lawr gan y Cymry yn 1167 ac yn ddiweddarach gan Owain Glyndwr. Ond y tywod a orfu ac yn yr 16fed ganrif daeth storom fawr a gorchuddio'r dref. Mae un chwedl arall yn adrodd mai o dan y llyn ei hun mae'r dref (fel Cantre'r Gwaelod).

Diddymwyd siarter y bwrdeistref yn 1883, a heddiw nid oes yn aros o'r gogoniant a fu, ond cyfarfodydd y Cyngor Plwyf, a gynhelir mewn ystafell uwchben tafarn y Prince of Wales, a oedd unwaith yn ganolfan gweinyddol y bwrdeistref. Tan 1970 cynhaliwyd Ysgol Sul yma.

Tra'n cerdded i gyfeiriad Y Sger cawsom hanes y garwriaeth enwog rhwng y Ferch o'r Sger, Elizabeth Williams (1747-76) a'r telynor tlawd, Thomas Evans. Cariad ofer ydoedd a gorfodwyd y ferch i briodi Thomas Kirkhouse, diwidiannwr cefnog ond anniddorol o Gastell-nedd. Gyda llaw, mae'r stori'n debyg iawn i hanes y Ferch o Gefn Ydfa. Flynyddoedd ar ôl iddi briodi cyfansoddodd Thomas Evans y faled enwog:

"Mab wyf fi sy'n byw dan benyd Am f'anwylyd fawr ei bri..."

Mae arfordir garw yma hefyd a chafwyd hanesion am yr arfer o wreca, neu ysbeilio'r llongau a ddrylliwyd.

Y Sger

Wedi taith hynod o ddiddorol cafwyd pryd o fwyd blasus yn y Prince of Wales. Diolch i Ann Rosser ac Alun Pugh o'r Fenter laith am yr holl baratoi.

Bwriedir sefydlu Clwb Cered cyn bo hir a threfnir teithiau rheolaidd i bob oed. Bydd y manylion yn ymddangos yn y Llais yn fisol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý