Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Brigyn Haleliwia
Ionawr 2009
Mae Brigyn wedi rhyddhau fersiwn o'r gân 'Halellujah' a ddaeth yn enwog diolch i Leonard Cohen. Gareth Morgan Jones sy'n dehongli'r haleliwia.

Haleliwia yw gair mawr addoliad Iddewig a Christnogol ar draws yr oesoedd ac mae'r gair wedi cyrraedd y siartiau pop. Yn wir, mae cân Leonard Cohen yn gyntaf ac yn ail (y tro cyntaf i'r un gân fod ar y brig ers hanner canrif pan oedd Tommy Steel yn gyntaf ac yn ail. Alexandra Burke sydd yn gyntaf a bydd pawb ohonoch yn ei chofio ar X Factor, a Jeff Buckley yn ail, ac yn wir mae'r gân hefyd yn rhif 36 a Leonard Cohen ei hun yn ei chanu.

Cafodd Ynyr Roberts o'r grwp Brigyn ganiatâd i'w chyfieithu i'r Gymraeg ac fe fernir fod y geiriau Cymraeg gan yr actor Tony Llewelyn yn rhagori ar y Saesneg.

Mae'r gân yn sôn am Fethlehem heddiw a dyma rai llinellau:

"Mewn dwrn o ddur mae seren wen, mae cysgod gwn dros Fethlehem, dim angel gwyn yn canu Haleliwia."

"Codi'r muriau, cau y pyrth, troi eu cefn ar werth y wyrth. Mor ddu yw'r nos ar strydoedd Palesteina."

"Mae weiran bigog gylch y crud a chraith lle bu creawdwr byd. Mae gobaith yno'n wylo ar ei gliniau, a ninnau'n euog bob yr un, yn dal ei gôt i wylio'r dyn yn chwalu pob un hoel o Haleliwia."

Dyna Fethlehem heddiw ac i'r un Bethlehem y daeth Mair a Joseff i dalu treth i Gesar. Ymerodraeth Rufeinig ormesol a'r esgid yn gwasgu'n drwm ar bob Iddew. Gwlad oedd yn cael ei llywodraethu gan frenin creulon, Herod. Roedd yno dlodi a digartrefedd a ffoaduriaid ac i fyd real iawn y ganwyd Crist. Yn ei chân, mae Mair yn y Magnifica yn sôn am y chwyldro fyddai'n digwydd o eni'r baban oedd yn ei chroth yn Waredwr byd a'r hyn fyddai'n digwydd wrthi bobl ymateb iddo. Chwyldro ysbrydol, moesol, gwleidyddol ac economaidd. Byddai'n dda i rai sydd tu ôl y sefydliadau ariannol y byd ei darllen. Roedd Simeon yn ei gân yntau wedi disgwyl yn hir ac wrth gofleidio'r bachgen yn tystio "Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth. Gweld yn Iesu Grist ei holl ddisgwyliadau yn cael eu gwireddu".

Mae neges y Crist i'n byd real ni. Mae'n neges heriol i'r byd yma - byd lle mae gennym ein Darfur, Congo, Simbabwe, Affganistan, Mumbai - chwedl Robert Burns, "Man's inhumanity to man" i fyd camdrin plant megis Baby P., i fyd diweithdra, colli cartrefi, crebachu ariannol, y credit crunch, y down turn, HIV ac AIDS.

Meddai'r gân, "Mae'r nos yn ddu, mae'r nos yn hir, ond mae 'na rai sy'n gweld y gwir, yn gwybod fod y neges mwy na geirau, mai o'r tywyllwch ddaw y wawr, a miwsig ddaeth â'r muriau lawr, daw awr i ninnau ganu Haleliwia".

Bydd Cristionogion ar draws y pum cyfandir yn dathlu ac yn cyhoeddi gobaith i'r byd yn y Mab a anwyd ym Methlehem ac ymunwn ninnau â hwy i ddweud:

"Haleliwia, haleliwia, haleliwia, haleliwia".

"Mae'r Haleliwia yn fy enaid i, A rhoddaf Iesu fy mawrhad i Ti".


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý