Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Enfys James a Cynthia Davis ar lan bedd Adelina Patti ym Mharis yn ystod eu hymweliad â Pharis Ymweld â bedd Madam Adelina Patti
Mai 2008
Enfys James a Cynthia Davies fu'n ymweld â bedd Adelina Patti ar gyrion Paris.

Wrth ymweld â Pharis, mae rhywun yn ymdrechu i daro heibio holl fannau adnabyddus y ddinas brydferth hon: Notre Dame, Sacre Coeur, y Mona Lisa yn amgueddfa'r Louvre, i enwi ond ychydig.

Ond anghofiwn yn fynych mai ym Mynwent Pere Lachaise y claddwyd un a fu'n gantores fyd enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Madam Adelina Patti. Clywir yn aml am ei gyrfa canu anhygoel ac am ei chraffter fel menyw fusnes, ond anfynych y sonnir am flynyddoedd olaf ei hoes yng Nghastell Craig y Nos.

Erbyn 1909, roedd Madam Patti wedi ymddeol i bob pwrpas a nifer ei staff yng Nghraig y Nos wedi gwtogi i ddeunaw: yn eu plith ei Ffrancwr o chef a phedwar garddwr. Ei pherfformiad cyhoeddus olaf oedd i gefnogi achos y Groes Goch yn Neuadd Albert yn Llundain yn 1914 pan oedd hi'n 71 oed.

Wedi ei marwolaeth ar Fedi 27ain 1919, peraroglwyd ei chorff ym mherfeddion castell Craig y Nos. Gorweddodd ei chorff yn ei chapel preifat yn ei chartref ym mlaenau Cwm Tawe tan Hydref 24ain y flwyddyn honno. Aethpwyd â'i chorff wedyn i orwedd yn Eglwys Sant Cynog, Ystradgynlais ac o'r fan honno i Eglwys Gatholig Kensal Green yn Llundain er mwyn i'r byd gael cyfle i dalu teyrnged iddi.

Yn ôl ei hewyllys, cludwyd ei chorff a'i gladdu yn agos i fedd ei hoff gyfansoddwr, Rossini ym mynwent Pere Lachaise ym Mharis. Yma, ar gyrion Paris, ceir beddau enwogion lu o fyd cerdd gan gynnwys Faure, Bizet, Maria Callas ac Edith Piaf, ac yn wahanol i holl feddrodau'r fynwent hon, carreg ddu blaen sy'n nodi gorffwysfa olaf Adelina Patti.

Enfys James a Cynthia Davies fu'n ymweld â bedd Adelina Patti ym Mharis.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý