Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Y cerddwyr wrth Cofeb Hopcyn ap Tomos ym Mharc Ynystawe Dilyn llwybr hanes
Ionawr 2004
" Y Glais a'i chymdogaeth a Chlydach a'i phentre,
Yr hardd Ynys Tanglwys, a'r hen Ynys Tawe ..."

Fel y canodd Y Parchg Phillip Morgan, Treforus mewn oes o'r blaen, a dilyn llwybr hanes gwnaeth y 30 cerddwr a fentrodd yn ddewr ar fore gwlyb oerllyd Sadwrn, Rhagfyr 27ain.

Cyfarfu'r cerddwyr wrth draed colofn Ludwig Mond (1839-1909), dyfeisydd dull unigryw o buro a chynhyrchu nicel. Un o gyn-weithwyr "Y Mond", Hywel Wood, esboniodd y modd o gynhyrchu nicel wedi i'r deunydd crai gyrraedd o Ganada.

Treuliodd Hywel ei oes yn y gwaith a gwyddai am bob twll a chornel ohoni. Mae adeiladau bric coch y gwaith yn hardd iawn ger y cylchdro a chyferbyn mae un o adeiladau hynaf y pentref, sef efail y gof.

Yn ôl Dewi Harris saif ar groesffordd tair o brif heolydd y cylch ac wrth ymyl Camlas Tawe a gwblhawyd ym 1794. Daeth cludo i ben ar y gamlas yn 1931 a dechreuwyd llanw rhannau ohoni. Cludwyd haearn a glo ar y gamlas o ben ucha Cwm Tawe i "ddociau Clydach" a byddai'r haearn yn cael ei drin yn y ffowndri a'r Forge Fach.

Cerddwyd ar hyd y gamlas i safle hen waith tunplat Player's ger Cwmdwr. Yma o dan dyfiant mae adfeilion Plasdy Ynystanglwys a godwyd gan berchennog Crochendy Abertawe, George Haynes. Yn of Dyfrig Harris, un a godwyd yn, Nghwmdwr, roedd Plasdy Ynystanglwys yn adeilad hardd gyda rhodfeydd a gerddi hardd. Chwalwyd y cyfan yn y 1950au. Anodd dychmygu'r olygfa ysblennydd yng nghanol y drysi a welwn heddiw. Gyda llaw, enw ar un o'r seintiau cynharaf yw "Tangwystl".

Ann Rosser bu'n ein tywys, wrth y garreg coffa ym Mharc Ynystawe, i'r canol oesoedd a dirgelwch Llyfr Coch Hergest a gopïwyd yma, yn ôl yr hanes, ar gais Hopcyn ap Tomos, uchelwr o Gymro a drigai gerllaw. Yn y llyfr hwn, a gopïwyd rhwng 1382 a 1410, sydd yn un o lawysgrifau pwysicaf yr iaith Gymraeg, y mae fersiynau llawn o'r Mabinogion, chwedlau Siarlymaen, Brutiau, Trioedd a Meddygon Myddfai ynghyd â chasgliad mawr o farddoniaeth.

Er bod cofeb i'r Uchelwyr yma ger safle Plasdy Ynystawe tybir mai ym Mhlasdy Ynysforgan roedd cartref Hopcyn ap Tomos, ac yn sicr roeddynt yn noddi beirdd, cyfieithwyr a chopiwyr ac yn casglu i'r llysoedd ar lan Tawe drysorau llenyddiaeth boblogaidd Cymraeg ac Ewropeaidd y yng Nghwm Tawe. Trefor Jones, Resolfen bu'n esbonio'r modd byddai'r rhewlif yn crafu a sgubo pridd a cherrig o'i blaen a) gollwng, gan greu bryncyn.Mae'r Garth yn enghraifft wych i farian ac mae daearegwr o bob rhan o Brydain yn galw heibio i'w astudio.

Pleser o'r mwyaf oedd ymweld â Chapel Seion, Y Glais a thalu gwrogaeth i T. E. Nicholas (1879-1971). Er mai yng ngogledd si Benfro y'i ganwyd ac yn Aberystwyth y treuliodd y rhan fwya o'i oes, eto â phentref Y Glais y cysylltir ei enw bob amser. Bu'n weinidog o 1904 nes iddo adael y weinidogaeth yn ystod y Rhyfel Mawr Cyntaf, ac yn y cyfnod hwn y daeth yn enwog trwy Gymru fel "Niclas y Glais".

Perthyn i'r cyfnod y bu yng Nghwm Tawe mae ei waith a'i gerddi pwysicaf, Salmau'r Werin a Cerddi Rhyddid. Blynyddoedd anodd i heddychwr a chomiwnydd oedi blynyddoedd y Rhyfel Mawr, yn enwedig i un a fynnai gyhoedd ei safbwynt mewn cerddi, erthyglau a phregethau mor amlwg herfeiddiol ag y gwnaeth Niclas, a daeth llawer helbul i'w ran fe gweinidog yn Y Glais, oherwydd ei ddaliadau amhoblogaidd. Diddorol hefyd oedd sylwi ar maen coffa un o fechgyn y cylch foddodd ar "agerlong y Titanic".

Wedi taith bleserus a gwybodus ymlaciodd y cerddwyr yn nhafan Y Globe ar gyfer lluniaeth. Cafwyd bore i'w gofio.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý