Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Clwb Rygbi Cwmllynfell 1959 Dathlu llwyddiant hanner can mlynedd yn ôl
Mehefin 2009
Mae dathliad arbennig wedi cael ei gynnal er mwyn cofio llwyddiant Clwb Rygbi Cwmllynfell hanner canrif yn ôl.

Ar brynhawn Sadwrn, Mai 2, roedd yna ddathliad arbennig ar Barc y Bryn, pan ddaeth aelodau o'r tîm llwyddiannus a enillodd Pencampwriaeth Undeb Rygbi Gorllewin Cymru i Gwmllynfell nôl ar ddiwedd y tymor 1958-59. Capten y tîm arbennig hwnnw oedd Royden Morgan, ac mae'n dal cysylltiad o hyd â'r clwb presennol, gan mai Royden yw Cadeirydd y clwb. Roedd y tîm hwnnw nôl hanner canrif yn ôl wedi cyflawni camp arbennig, gan iddynt ennill y Bencampwriaeth dair gwaith mewn pedwar tymor - arbennig iawn.

Daeth rhyw 16 o'r garfan ynghyd ar Fai 2 i hel atgofion am y cyfnod mwyaf llewyrchus yn hanes Clwb Rygbi Cwmllynfell.

O ran y tîm presennol sy'n chwarae yn yr Adran Gyntaf (Gorllewin), bu wythnosau ola'r tymor yn rhai pryderus a chyffrous a dweud y lleiaf. Gyda 6 gêm cyn diwedd y tymor, roedd y tîm yn gwynebu gostwng i'r Ail Adran. Ond roedd pedair o'r gemau i'w chwarae gartref ar Barc y Bryn, ac roedd cefnogwyr mwyaf teyrngar y clwb yn ffyddiog gan fod record dda ganddynt gartref, ac felly y bu. Yn ychwanegol, llwyddasant i faeddu Hen-Dy Gwyn (Whitland) ar eu tomen eu hunain, ac wrth drechu Corws, Maesteg, Llangennech ac Athletig Caerfyrddin gartref, sicrhawyd y byddai Cwmllynfell yn parhau yn yr Adran Gyntaf y tymor nesaf. Da iawn, fechgyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý