Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Geraint Bowen (ar y dde) Llwyddiant i Geraint o'r Cwm
Gorffennaf / Awst 2007
Mae Geraint Bowen yn un o'r personau hynny sydd ag un troed ganddo mewn un pentref megis a'r llall mewn pentref arall.

Ar ochr ei dad Godfrey, mae Trebannws yn ei hawlio, ond ar ochr ei fam Jean y ni ar y Graig sydd berchen arno. Boed o Graig Cefn Parc neu o Drebannws, mae Geraint wedi dod â chlod i'w rhieni ac i'r ardal gyfan, ar sail y llwyddiant academaidd sydd wedi dod i'w rhan a hefyd y prosiectau mae wedi bod yn ymwneud â hwy fel peiriannydd dylunio.

Cyn ddisgybl yw o Ysgol Gymraeg Pontardawe ac Ysgol Gyfun Ystalyfera a chynnyrch hefyd Ysgol Sul Pantycrwys. Ar ôl graddio gydag anrhydedd B.Eng. ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1997 ychwanegodd y radd M.Sc at ei gym¬wysterau ym 1998, am ei waith ymchwil ym maes peirianneg sifil. Yn yr un flwyddyn llwyddodd i gael swydd fel peiriannydd dylunio gyda chwmni Arup. Ers ymuno â chwmni Arup mae Geraint yn rhinwedd ei swydd fel peiriannydd dylunio wedi bod yn gysylltiedig â nifer o brosiectau mawreddog a diddorol gan gynnwys pontydd, heolydd ac adeiladau o bob math.

I nodi rhai ohonyn nhw, ei gyfrifoldeb cyntaf oedd gweithio ar yr adeilad newydd i'r anifeiliaid ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Efallai taw'r prosiect mwyaf anghyffredin mae wedi bod yn gysylltiedig ag e, yw dylunio safle yng nghanol cylchfan yn Lutterworth, Canolbarth Lloegr ar gyfer awyren er cof am Sir Frank Whittle.

Er mwyn sicrhau ei ddatblygiad proffesiynol fel peiriannydd dylunio dewisodd Geraint weithio ar y prosiect sy'n ymwneud â'r heol A470 rhyw bellter o 7 cilometr yng Nghwm Lledr rhwng Dolwyddelan a Phont yr Afanc. O dan ei gyfarwyddyd mae'r prosiect arbennig yma wedi ennill llawer o wobrau am yr ystyriaethau a roddwyd i faterion amgylcheddol.

Ar ben hyn oll gan gymaint yw ei arbenigedd yn ei briodfaes, mae Geraint yn ymweld yn gyson â swyddfeydd eraill y cwmni fel ymgynghorydd. Yn ôl y galw mae wedi ymweld ag Ynys Manaw, Manceinion, Caerdydd, Belfast, Llundain yn ogystal â gwledydd tramor gan taw Geraint yw'r swyddog cyswllt rhwng y cwmni ac Arup U.K. Mae fwy nag unwaith wedi mynd i Sbaen i roi cyflwyniadau i beirianwyr yno ar banelau arbennig, sydd yn cael eu cynhyrchu yn yr Wyddgrug.

Hyd yn hyn y prosiect sydd wedi rhoi y mwya' o bleser i Geraint yw Hafod Eryri. Geraint yw rheolwr y prosiect a braf yw cael gwybod bod un o ardal y Llais ym mherson Geraint, â chymaint o gyfrifoldeb wrth adeiladu un o atyniadau mwyaf deniadol Cymru. Y gobaith yw y bydd yr adeilad ysblennydd yma'n agor adeg Pasg 2008.

Yn goron ar y cyfan oll, rydym am longyfarch Geraint yn wresog iawn am lwyddo yn ei arholiadau siarteriaeth C. Eng MICE yn ddiweddar. Ardderchog yn wir Geraint. Mae Geraint yn briod â Faye sydd yn beiriannydd sifil amgylcheddol ac wedi ymgartefu yng Ngogledd Cymru. Pob dymuniad da i Geraint i'r dyfodol.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý