Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Tîm rygbi Ystalyfera yn cymdeithasu gyda chwaraewyr Ysgol Excelsior, De Affrig. O Ystalyfera i Dde Affrig
Gorffennaf 2005
Mae carfan rygbi dan 15 Ysgol Ystalyfera newydd ddod nôl o daith rygbi i Dde'r Affrig. Taith arloesol i'r ysgol a phrofiad bythgofiadwy i'r bechgyn, eu hathrawon a chriw bach o rieni a ddaeth fel cefnogwyr.

Y criw rygbi yma oedd pencampwyr ysgolion Cymru llynedd ac fe gafodd Undeb Rygbi Ysgolion De'r Affrig ddigon o amser i ddewis y pedair ysgol oedd i'w chwarae. Roedd y gobeithion yn uchel am wrthwynebwyr safonol, ac ni'n siomwyd. Roedd safon y rygbi yn uchel gyda un o ysgolion Cape Town, SACS (South Africa College School) wedi ei henwi y drydedd ysgol orau yn y Weriniaeth. Enillwyd dwy a chollwyd dwy o'r gemau. Anodd peidio a swnio'n ddi-duedd, ond y farn gyffredinol oedd mai Ystalyfera oedd y tîm gorau ym mhob un o'r gemau.

Collwyd y gêm gyntaf yn erbyn Ysgol Swartland, yn nhref Malmesbury, awr i'r gogledd o Cape Town. Tref wledig, ardal amaethyddol, gwinllanoedd ym mhob man, pobl hyfryd. Ar ôl dechreuad rhy dawel daeth Ystalyfera nôl yn gryf iawn yn yr ail hanner, cyn ildio cais hwyr i ddod â'r sgôr yn 22 - 12 i Swartland yn y diwedd.

Ymlaen i Ysgol Excelsior yn nhreflan Langa, Cape Town. Tlodi rhyfeddol yn yr ardal ond brwdfrydedd ac ymrwymiad i wneud y gorau o'i sefyllfa gyda'r bechgyn a'r rhieni ddaeth i gefnogi a pharatoi'r bwyd. Ennill y gêm honno o 12 - 7. Ymlaen i Ysgol SACS a'r 'gêm brawf'. Disgwyliadau mawr ganddynt, ysgol fonedd moethusrwydd ymhobman, cyfleusterau y gallwn ni ond breuddwydio amdanynt. Gorfoledd mawr wrth i ni ennill o 13 - 12. Daeth y daith i ben gyda gêm ym Mhretoria, cadarnle yr 'Afrikaner', ond er adfywiad rhyfeddol yn yr ail hanner, colli'r gêm o 23 - 21 oedd yr hanes.

Cyfrwng fu'r rygbi i fynd â ni i wlad hynod ddiddorol, i gwrdd â phobl hynaws a chyfeillgar; synhwyro bodolaeth diwylliant a meddylfryd gwahanol, a gweld rhyfeddodau hanesyddol a naturiol y wlad.

Fe ddringom 'Table Mountain' a rhyfeddu at y golygfeydd - cefnfor India un ochr a chefnfor yr Iwerydd yr ochr arall. Aethom i amgueddfa rygbi'r wlad gan gyffwrdd â chwpan y 'Tri-Nations', taith o amgylch maes rygbi Newlands a'r maes criced rhyngwladol drws nesaf. Y teithiau hyn, yn y glaw gyda llaw, dechrau eu gaeaf nhw oedd hi. Lwcus i ni ddringo'r mynydd yn syth wedi glanio, ni welsom mohono wedi hynny oherwydd niwl a chymylau.

Taith i Ynys Robben a mynd i gell Nelson Mandella, braidd digon o le i orwedd lawr yn syth. Ein tywyswr oedd un o'i gyd garcharorion gwleidyddol; angerdd teimladau hwnnw yn amlwg yn ei ddisgrifiadau.

Fe wnaethpwyd ffrindiau oes yn ysgol Swartland, un o rinweddau teithiau rygbi. Uchafbwynt y daith i rai o'r bechgyn oedd aros gyda theuluoedd, rhywbeth oeddynt yn nerfus iawn i'w wneud ar y dechrau. Athro addysg gorfforol yr Ysgol oedd Frikk Stander, a fu'n ganolwr i Lanelli yn ystod y 70'au cynnar. Maent yn gobeithio teithio yn ôl i Gymru yn 2007. Fe gymerodd flwyddyn a hanner i ni drefnu'r daith a chynilo'r arian; mae'n cymryd pum mlynedd iddynt hwy.

Symud o Cape Town i Pretoria i ganolfan gwyliau Sun City, lle sydd â chysylltiadau cryf gyda'r cyfnod apartheid. Ni fedrai unrhyw berson cyffredin du ei groen ystyried fynychu'r safle nawr oherwydd y gost, ac nid oedd yr hawl ganddynt yn y cyfnod a fu. Gwestai moethus, llynoedd, llefydd bwyta trachwantus (dwy stecen y dydd!!), casinos, parc dŵr, cyrsiau golff, cyfle i'r bechgyn ymlacio, ac fe wnaethont. Yn agos roedd parc anifeiliaid gwyllt. Cawn ein twyllo gan raglenni natur ar y teledu, popeth mor agos, cyfleus, hawdd i'w weld. Llwyddodd y parc yma, maint ardal Castell Nedd a Phort Talbot, guddio 140 o eliffantod, 4 pac o lewod a 280 o giraffiaid wrthom. Teimlon fel tasen nhw yn edrych arnon ni o'u cuddfannau dirgel, ac nid y gwrthwyneb.

Roedd yr ymweliad â'r dreflan yn agoriad llygaid. Cymunedau gwbl hapus, plant troednoeth yn rhedeg ym mhobman i weld y twristiaid, cartrefi dwy ystafell gydag ymdrech amlwg i geisio gwella eu hunain, ysgolion, siopau bach ond y cyfan ar wahân i'r dinasoedd mawrion. Un rhan ohonynt oedd y cytia - y shantis. Unrhyw ddarn o bren neu sinc i greu pedair wal, a tho bregus yn gwneud y tro, a phopeth ar ben ei gilydd - miloedd ohonynt. Tlodi aruthrol, cymysgwch o fewnfudwyr anghyfreithlon o wledydd cyfagos yn chwilio am waith nad oedd i'w gael; rhai yn aros i'r llywodraeth i adeiladu rhywbeth gwell iddynt; rhai heb ddim dewis.

Mae'r deddfau wedi mynd ond fe ddwedwn i fod apartheid economaidd yn bodoli o hyd. Pris llafur yn rhad iawn, digonedd o bobl mewn gwaith ond yn segur gan fod cymaint ohonynt. Pob swydd y byddech chi a fi ddim am ei wneud, person du oedd yn llenwi'r sgidiau. Addysg yw'r ateb i wella cyflwr economaidd y bobl, ond fe gymer hwnnw genhedlaeth neu ddwy. Hyd yn oed gyda'r ymdrech i wella bywyd pawb, mae'r bwlch yn parhau er enghraifft gyda rhieni gwynion yn ymladd i gael lle i'w plant yn yr ysgolion bonedd oherwydd bod safon yr ysgolion gwladol yn gostwng wrth roi cyfle cyfartal i bawb. Bu'r daith yn brofiad ysgytwol i bawb. Nid taith gyfforddus mohoni.

Huw Bowes


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý