Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Broga du Glaw yn denu ymwelwyr
Ebrill 2005
Bu mis Mawrth yn fis newidiol dros ben o ran y tywydd - ac mae hyn wrth gwrs yn effeithio ar fyd natur o'n cwmpas.
Ar ddechrau'r mis cafwyd efallai y cyfnod oeraf o'r Gaeaf gyda rhew bron bob nos am gyfnod o bythefnos. Yna yn ystod y drydedd wythnos fe ddechreuodd y tywydd dwymo gydag arwyddion bod y Gwanwyn ar y trothwy.

Nodwedd arall yn ystod y drydedd wythnos oedd y niwl a'r glaw di baid am bedwar diwrnod. Y glaw yma fu'n gyfrifol am ddenu'r ymwelwyr. Na, nid ymwelwyr i ddod i fwynhau golygfeydd a thraethau ein gwlad ond yn hytrach ymwelwyr o'r math amffibaidd sef llyffaint du (common toad).

Dyma'r union math o dywydd sydd yn mynd i ddeffro'r llyffaint duon o'u gaeafgwsg sef tywydd gwlyb a llaith. Sylweddolais bod rywbeth ar droed wrth i mi yrru'r car ar hyd Ffordd Capel am tua wyth o'r gloch y nos. Sawl gwaith ar hyd y ffordd sylwais ar lyffaint duon yn ymlwybro ar hyd wyneb y ffordd yng ngoleuni'r car. Mae croesi ffyrdd o dragwyddol berygl i lyffaint duon ac mae rhai cannoedd ohonynt yn cael eu lladd yn flynyddol ar ein ffyrdd wrth iddynt ddychwelyd i, bwll neu lyn traddodiadol i fagu.

Golyga'r reddf yma i fagu, daith o hyd at ddwy filltir i rai llyffaint sydd yn golygu croesi sawl ffordd beryglus. Mewn rhai ardaloedd bu'n rhaid gosod arwyddion ffyrdd pwrpasol i rybuddio gyrwyr o bresenoldeb (lyffaint duon yn mudo. Wedi mi roi'r car yn y garej fe ddaeth yn amlwg bod y llyffaint yn symud fel petal yn un fintai. Rhwng y garej a'r tÅ· deuthum ar draws tri o lyffaint duon ar y lawnt. Yno roedd dwy fenyw ac un gwryw. Roedd y gwryw wedi dringo ar gefn un o'r benywod gan gloi y coesau blaen yn dynn o gwmpas ei gwddf. Roedd y fenyw arall yn gorffwys gerllaw.

Wrth i'r llyffaint symud tuag at eu pyllau neu lynnoedd traddodiadol mae'n arferol i'r gwryw ddringo ar gefn benyw a gelwir hyn yn amplexus. Bydd y gwryw yn aros ar gefn y fenyw hyd nes iddi ryddhau y wyau o'i chorff ac fe fydd yntau yn eu ffrwythloni gyda'i semen. Ar rai adegau ceir sawl gwryw yn ymladd am yr un fenyw (tebyg iawn i'r hil ddynol) ac o ganlyniad fe fydd y fenyw yn cael ei niweidio neu hyd yn oed ei boddi yn y dŵr. Bydd y broses o ryddhau'r wyau yn cymryd tua deg awr ac mewn rhai achosion hyd at ddiwrnod cyfan. Mewn rhai safleoedd traddodiadol cofnodwyd rhai llyffaint yn dodwy hyd at 12,000 o wyau.

Fe gymerir tua deg diwrnod i'r wyau ddeor cyn bod y penbwl yn rhyddhau ei hun o'r sach jeli sydd wedi ei amgylchynu. Tua deuddeg wythnos yn ddiweddarach fe fydd y llyffaint yn ddigon aeddfed i adael y dŵr lle 'u ganed. Yn ystod Mis Gorffennaf neu Awst (yn dibynnu ar y tywydd) fe fydd y llyffaint duon yn symud mewn mintai allan o'r pyllau a llynnoedd traddodiadol gan wasgaru yn y wlad o gwmpas. Credir eu bod yn symud mewn niferoedd er mwyn diogelwch. Amcangyfrifir bod dros 90% o lyffaint duon yn marw yn ystod y flwyddyn gyntaf gydag efallai cyn lleied ag 1 % yn dychwelyd i fagu y flwyddyn ganlynol.

Gellir gweld felly pa mor bwysig yw dodwy cymaint o wyau i barhad y llyffant du. Ar gyfartaledd fe fydd y benywod yn byw hyd at 9 mlynedd tra bo'r gwrywod yn byw am chwe mlynedd. Honnodd Pennant yn y ddeunawfed ganrif bod llyffant du wedi byw am 35 mlynedd o dan stepan ei ddrws. Er mwyn goroesi rhaid i'r llyffaint duon fyw ar ddeiet o bryfetach a thrychfilod. Prae byw yw eu deiet. Er mwyn dal eu prae mae'r llyffant du yn gallu ymestyn ei dafod hyd at 2 cm, ac mae'r prae yn glynnu i wyneb gludog y tafod.

Pwysigrwydd mawr yw sicrhau cyflenwad digonol o fwyd yn ystod yr Hydref er mwyn gosod digon o fraster ar y corff i oroesi'r gaeaf. Tybed os fydd y tri ymwelydd a ddaeth i'n gardd ar noson niwlog wlyb ym mis Mawrth yn taro heibio yn ystod mis Gorffennaf neu Awst?

Dewi Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý