Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Capten Daniel Nicholas Jemima Nicholas a Chapten Daniel Nicholas
Mai 2006
Fel y gwyddoch 'roedd Jemima Nicholas o Sir Benfro yn enwog am ei bod wedi cymryd rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn y Ffrancwyr yn ôl yn 1797 - y tro diwethaf i un¬rhyw wlad estron ymdrechu i oresgyn Prydain Fawr.
Ca¬fodd ei geni ym mhentre Mathry ac 'roedd yn hen fodryb i Daniel Nicholas a gafodd ei eni yn fferm Tresaer yn Mathry yn 1844. Buodd Daniel yn Gapten ar longau hwylio dros y byd am ryw 47 o flynyddoedd cyn ymddeol yn 1904.

Riedd Capten Nicholas yn byw ar un adeg yn fferm Ynysmeudwy Ganol, Pontardawe. Nid yw'r tÅ· fferm hwn yn bod y dyddiu yma ac mae'n dbyg fod ei leoliad gwreiddiol yn awr o dan yr heol newydd o Bontardawe i Ystalyfera.

Yn saithdegau'r ganrif cododd Capten Nicholas dŷ o'r enw Tresaer ar Heol Newydd yn Ynysmeudwy. Ca¬fodd tri o'i blant eu geni yn y tŷ a buodd Daniel fyw yno nes ei ddarfod yn 1919. 'Roedd Capten Nicholas a'i wraig Mar¬tha yn defnyddio cawell derw pan roeddent yn mynd â'u plant lleiaf ar y môr a mae'r cawell yn dal yn y tŷ.

Mae hefyd bont dros y gamlas ger y tŷ. Enw swyddogol y bont yw Pont Ynysmeudwy Ganol ond fe'i gelwir gan bawb Pont Nicholas. Dyna'r bont oedd Capten Nicholas yn def¬nyddio i fynd o fferm Ynysmeudwy Ganol i'r tŷ newydd sef Tresaer.

Mae llawer mwy i'r hanes hwn ac hefyd hanes tad Capten Nicholas sef Evan Nicholas a fu yn ymladd yn y Rhyfel An¬nibyniaeth yn yr Unol Daleithiau. Fedrwch ei weld ar y we¬fan yma: http://www.tytwp.plus.co./Waun/Waun.html - ewch i mewn a gwasgwch ar' What's New'. 'Mae rhai o hwyron Capten Nicholas yn dal i fyw yn ardal Pontardawe . Mae Randal Williams yn byw yn yr Alltwen, Huw ym Mhontardawe, Glyn yng Ngellinudd a'u chwaer Eugena Hopkin yng Nghraigcefnparc.

Mae rhagor o'r teulu yn byw yn Ne'r Affrig. Ar hyn o bryd mae ymchwil pellach yn cymryd lle ynglŷn â theulu gwreiddiol Captain Nicholas a Jemima a gobeithio cawn glywed fwy am hyn yn yr wyth¬nosau nesaf. Mae Eugena yn ddiweddar wedi gosod hanes cymdeithasol Capel y Baran ar y wefan y soniwyd amdano eisoes.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý