Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Dryw Manteision modrwyo adar
Gorffennaf 2008
Y colofnydd Dewi Lewis sy'n trafod manteision modrwyo adar dros fisoedd yr haf.

Mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn gyfnod gwych i fodrwyo adar. Dyma'r adeg pan fo cywion yn y nyth sydd yn golygu ei bod yn hawdd eu dal ar gyfer eu modrwyo.

Un o fanteision modrwyo cywion yn hytrach nag oedolion yw'r ffaith bod hynny yn galluogi arbenigwyr i gael oedran pendant i'r aderyn. Mantais arall modrwyo o'r nyth yw'r ffaith nad oes angen gosod rhwydi er mwyn dal yr adar.

Gall y dasg o osod rhwydi fod yn dasg hir a chymhleth gan gymryd i ystyriaeth natur y tywydd a'r cynefin yn gyffredinol. Nid oes sicrwydd ychwaith y daw yr adar i mewn i'r rhwyd er mwyn eu modrwyo.

Mae gosod modrwy ar aderyn yn gwneud yr aderyn hwnnw yn unigryw. Mae pob modrwy yn dwyn rhif arbennig a nodir manylion yr aderyn wrth ei fodrwyo. Darn o fetel ysgafn neu blastig yw'r fodrwy felly nid yw'n amharu mewn unrhyw fodd ar yr aderyn.

Mae'r fodrwy yn gallu bod yn fodd i adnabod yr aderyn, ei symudiadau dros y blynyddoedd ac achos a lleoliad ei farwolaeth. Os bydd rhywun yn darganfod aderyn â modrwy, yn fyw neu'n farw yna gofynnir iddynt anfon y manylion at Ymddiriedolaeth Adareg Prydain.

Mewn gwirionedd dim ond dau o bob cant o'r holl adar sydd yn cael eu modrwyo ym Mhrydain sydd yn cael eu gweld neu eu darganfod byth eto. Er mai bychan lawn yw'r niferoedd sydd yn cael eu gweld yr eilwaith mae'r data yma yn ddefnyddiol ar gyfer nodi patrymau poblogaeth rhai rhywogaethau er mwyn gweld a oes cynnydd neu ostyngiad.

Mantais mawr modrwyo wrth gwrs yw gallu gweld pa mor bell neu am ba hyd mae adar yn byw. Mae rhai adar mudol yn gallu mudo rhai miloedd o filltiroedd ac mae modrwy yn gallu rhoi gwybodaeth am gyflymder a Ilwybr y mudo. Gall modrwy hefyd roi gwybodaeth am oedran yr aderyn yn enwedig os yw wedi ei fodrwyo pan yn gyw.

Ar y cyfan byr yw oes adar bach megis y dryw neu'r titw tomos las, dim ond ychydig o fisoedd yw hyd bywyd y mwyafrif. Ar y law arall mae adar mwy o faint yn gallu goroesi tipyn mwy, gyda rhai adar megis aderyn Drycin Manaw yn gallu byw am ddegawdau. Mae un aderyn wedi dychwelyd i nythu ar Ynys Enlli am dros hanner canrif a hynny yn dilyn taith mudo sawl mil o filltiroedd a Ben LlÅ·n i'r ardal oddi ar arfordir De America yn flynyddol.

Ym Mhrydain y mae pob math o rywogaethau yn cael eu modrwyo o'r dryw eurben sef ein haderyn lleiaf i'r alarch dof.Yn ddiweddar llwyddwyd i fodrwyo tri chyw gwalch y pysgod yng ngogledd Cymru. Dyma'r drydedd flwyddyn iddynt fodrwyo cywion gwalch y pysgod a mawr yw'r gobaith y bydd un o'r cywion yn dychwelyd i'r ardal i nythu rhyw ben a bydd modd adnabod yr aderyn trwy'r fodrwy.

Er mwyn modrwyo adar mae'n rhaid cael trwydded ac yn achos adar ysglyfaethus neu adar prin trwydded ychwanegol sy'n rhoi caniatad i unigolyn fynd at y safle nythu. Rhaid bod yn ofalus dros ben rhag amharu ar yr adar yn ormodol. Cyn sicrhau trwydded mae'n rhaid cael cyfnod o hyfforddi trwyadl.

Ar y cyfan gwirfoddolwyr sydd yn gwneud y gwaith modrwyo ac mae'r Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn rhoi trwyddedau i tua 200 a wirfoddolwyr yn flynyddol. Eleni y disgwyl yw y bydd dros 800,000 a adar yn cael eu modrwyo dros Brydain y rhelyw ohonynt dros fisoedd yr haf.

Felly os gwelwch aderyn yn fyw neu'n farw anfonwch y manylion ymlaen i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Fe fydd yr ymddiriedolaeth yn ei dro yn anfon manylion atoch am rywogaeth yr aderyn, ei oedran ac efallai symudiadau yr aderyn yn enwedig os yw wedi ei weld mewn safle arall cyn hynny. Felly cadwch lygad barcud am adar sydd yn gwisgo modrwy.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý