Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Daffodil Y Genhinen, y Daffodil a Lloyd George
Ebrill 2004
Pa un yw gwir symbol Cymru -y daffodil del ynteu'r genhinen hardd?
Pe bai'r gystadleuaeth yn dibynnu ar ba un sy'n fwyaf naturiol i Gymru, yna'r daffodil fyddai'r enillydd gan fod modd ei weld yn tyfu'n wyllt yn rhannau dwyreiniol y wlad. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r daffodil gwirioneddol wyllt (Narcissus pseudonarcissus) gystadlu ag oddeutu mil o fathau eraill. Mae nifer helaeth o'r rhain wedi eu plannu mewn gerddi a stadau gwledig, ac yn ddiweddar mae modd eu gweld yn tyfu ar ymylon ffyrdd.

Hefyd, fel y sylwodd William Wordsworth y bardd o Loegr, a'r Cymro o fardd, I. D. Hooson, mae harddwch y daffodil yn destun da dros ben i farddoniaeth er enghraifft :

Ni welwyd un erioed mor llon
Â'th fantell werdd â'th euraidd rudd,
Yn dawnsio yn y gwynt a'r glaw
I bibau pêr rhyw gerddor cudd.
Gan: I.D. Hooson

Ond, mewn gwirionedd, mae modd dadlau mai'r hen genhinen ddirodres yw gwir symbol Cymru. Er na chredir ei bod yn naturiol i Gymru, mae wedi bod yn rhan o ddiwylliant y wlad ers llawer mwy na'r daffodil. Gan fod y genhinen yn llysieuyn sy'n aeddfedu'n hwyr, yn sicr roedd yn bwysig iawn ar gyfer gwneud cawl yn ystod misoedd llwm y gaeaf.

Yn ôl y sôn, fe roddodd hen Frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, gennin i'w filwyr eu gwisgo ar eu hetiau yn OC633, fel bod modd gwahaniaethu rhyngddyn nhw a'r gelynion Sacsonaidd. Hefyd, roedd cryn werth meddyginiaethol i'r genhinen, a chaiff hyn ei gydnabod gan hen feddygon Myddfai. Ymhlith pethau eraill, roedden nhw'n awgrymu y dylid defnyddio cennin i drin cleisiau ac esgyrn wedi torri.

O ystyried ei bryd a'i wedd, a'r ffaith nad oes arogl cryf iddo, does ryfedd fod y daffodil wedi dod yn fwy poblogaidd na'r genhinen fel gwir symbol Cymru.

Yn ôl y sôn, roedd Lloyd George yn gefnogol iawn i'r daffodil, gan ffafrio'r blodyn hwn yn hytrach na'r genhinen fel symbol i gynrychioli hunaniaeth y wlad. Fodd bynnag, fe fydd lle pwysicach i'r genhinen yn hytrach nag i'r daffodil harddach a mwy diweddar yn niwylliant Cymru.

Gan : Jonathan Neale

Beth ydych chi'n ei feddwl? Oes gennych chi farn am symbol y Cymry? Cysylltwch â ni trwy glicio - yma - i ddweud eich dweud!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý