Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
T Graham Williams gyda rhai o'r awduron noson lansio'r llyfr 'Hunaniaeth Gymreig' yn neuadd Rhiw-fawr. Adolygiad o'r llyfr 'Hunaniaeth Gymreig'
Gorffennaf / Awst 2004
Daeth cynulleidfa dda ynghyd i neuadd Rhiw-fawr nos Fawrth,15 Mehefin, i lansio llyfr newydd Hunaniaeth Gymreig / Welsh Identity.

Cyfrol ddwyieithog ddiddorol ac unigryw yw hon a olygwyd gan T. Graham Williams, neu 'Cefnfab' fel y'i hadwaenir orau yn y byd eisteddfodol Cymraeg. Dywed y bardd a'r awdur hwn - a gŵr, gyda llaw, sy'n arbenigwr ar lefaru barddoniaeth a rhyddiaith Dylan Thomas, mai dilyn cwrs gradd gyda'r Brifysgol Agored flynyddoedd yn ôl a'i hysgogodd i fynd ati i lunio'r gyfrol hon.

Sefydlodd weithdy llenyddol yn Rhiw-fawr ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf symbylwyd yr aelodau i fynegi trwy gyfrwng ysgrifau a storïau yr hyn yw Cymreictod iddynt hwy. Sonia Roger Whatcott, Maggie Wagstaff a Phyllis Wagstaff am y rhesymau y daethant i fyw i Gymru. Mynega Jean E. Williams yn ei stori am y modd y canfu'r Cymry'n gefnogol iawn yn ei hanes wrth ddioddef argyfwng teuluol.

Y mae Marjorie Showalla yn sôn am y profiad cyffrous o fod yn alltud yn Aden a sut y bu'n rhaid iddi ffoi yn ôl i Gymru. Llawn hiwmor yw ysgrif Leon am ei brofiadau fel cyn löwr. Nid oes prinder deunydd gan Cefnfab ei hun a cheir ganddo erthyglau a barddoniaeth am Dylan Thomas, Gwynfor Evans, Amgueddfa Werin Sain Ffagan ac Urdd Gobaith Cymru.

Gwahoddwyd nifer o awduron eraill y tu allan i'r cylch ysgrifennu i gyfrannu at y gyfrol. Ceir ysgrif ddiddorol gan yr hanesydd lleol, Brian Davies, Ystradgynlais, ar y sgweiriaid Cymreig yn ceisio efelychu eu tebyg yn Lloegr. Geilw Clive Rowlands i gof sut y bu i ganu'r Cymry ei ysbrydoli, ac mae Euros Jones Evans yn ei ysgrif hunangofiannol yn' sôn am y dylanwadau cynnar hynny a fowldiodd y Cymreictod ynddo.

Ceir cyfraniad gan Brian Davies, Curadur Amgueddfa Pontypridd, sy'n canolbwyntio ar gymhlethdod hunaniaeth y neb sy'n byw yn y cymoedd. Sôn am gerddoriaeth gyda'r cysylltiadau Cymreig a wna Bryan Davies, cyfeilydd enwog o Ferndale. Y mae Annette Thomas o Gapel Uchaf yn hel atgofion am ei thad-cu a fu'n bugeilio ar Fynydd Epynt.

Ceir barddoniaeth wych iawn yn y gyfrol hefyd. Haedda'r cerddi a ysgrifenwyd gan Cefnfab, J. Beynon Phyllips, Dylan Iorwerth, Karen Owen a Iwan Bryn Williams, eu lle mewn unrhyw antholeg safonol Gymraeg.

Cyfrol i'w chadw ar y bwrdd yn ymyl y gwely yw hon. Diau y gwna i bob un a'i darlleno holi pa ddylanwadau sydd wedi bod ar waith yn nyfnder ein bod ac a sicrhaodd na fedrwn ddianc rhag ein hunaniaeth Gymreig.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý