Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Bryn Gwyn, Patagonia Ymweliad â'r Wladfa
Mai 2004
Cafodd griw o Ystradgynlais brofiadau bythgofiadwy ar eu taith i'r Ariannin yn ystod mis Mawrth eleni - o ymweld â chyd Gymry i fynychu angladd un o frodorion hynaf Dolavon.
Yn ystod mis Mawrth, aeth pedwar pâr o Ystradgynlais ar antur i Batagonia, sef Sheila a David Close, Val a Doug James, Alvene ac Alun Morgan a Gwenfron Williams ac Andrew Ingram.

Dechreuodd yr antur ar ddiwrnod oer ar ddiwedd Chwefror, ond wedi taith awyren o ryw bymtheg awr, roeddent dan haul tanbaid haf pegwn y de. Yr arhosiad cyntaf oedd yn ninas Buenos Aires, prif ddinas yr Ariannin gyda'i rodfeydd llydan a'r coed Jacaranda. Roedd hi'n brofiad gwych gweld y Casa Rosada o le y gwnaeth Evita a Maradona Peron gyfarch eu pobl.

Eu harhosiad cyntaf ym Mhatagonia oedd gyda nith Gwenfron a'i theulu, Eleri, Tim a'u mab Macsen. Mae Eleri yn ferch i Gruff ac Eifiona Roberts o Aberhonddu sydd wedi ymgartrefu ym Mhatagonia gyda'i gŵr Tim, brodor o'r Ariannin. Cwrddon nhw hefyd ag Eifiona oedd newydd gyrraedd y Wladfa o Aberhonddu.

Teithion nhw o gwmpas y wlad ac ymweld â Dolavon, Trelew, Cwm Hyfryd a Puerto Madryn i enwi ychydig. Daeth cais arbennig iddynt fynychu angladd un o frodorion hynaf Dolavon, sef Tommy Davies oedd wedi cyrraedd 96 oed. Roedd yr oedfa yn Gymraeg a Sbaeneg a chanwyd yr hen ffefrynnau, Llef a Chalon Lân. Roedd hwn yn brofiad dwys a godai hiraeth yng nghalonnau pawb oedd yn bresennol. Profiad llesmeiriol oedd gweld eiddo un o gyndeidiau Huw Williams, Y Mimosa, Ystradgynlais pan gyrhaeddodd y Wladfa gyntaf o Gymru.

Daeth y daith hudolus hon i ben gydag ymweliadau i Esquel wrth droed mynyddoedd yr Andes, a rhaeadrau byd enwog Iguasu ym Mrasil.

Yn ddiau, roedd hwn yn brofiad bythgofiadwy a godai syndod a pharch mewn dewrder a phenderfyniad y Cymry a fentrodd i'r Ariannin i edrych am fywydau gwell. Erys atgofion am y croeso didwyll, Cymreig gawsant gan Gymry Cymraeg Patagonia am byth yng nghof yr wyth teithiwr o Ystradgynlais.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý